Pigion: Highlights For Welsh Learners

  • Author: Vários
  • Narrator: Vários
  • Publisher: Podcast
  • Duration: 99:23:57
  • More information

Informações:

Synopsis

Y darnau gorau o raglenni BBC Radio Cymru gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. BBC Radio Cymru highlights for Welsh learners.

Episodes

  • Sgwrsio

    09/04/2025 Duration: 35min

    ‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod yma mae Nick yn sgwrsio gyda Ben McDonald, ei ffrind ers dyddiau ysgol, ac mae'r ddau erbyn hyn yn dysgu Cymraeg.

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr, Ebrill 2, 2025

    02/04/2025 Duration: 31min

    Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Mawrth yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.GEIRFACLIP 1 Cadair olwyn: Wheelchair Fatha - ffordd arall o ddweud - Fel Profiad: Experience Gwerthfawrogi bywyd: To appreciate life Rhwystredig: Frustrating Goleuni: Light Coelio - ffordd arall o ddweud - Credu Tîm elusennol: Charity Team Ymateb: To respond Difaru: RegrettingCLIP 2 Cyfarwydd: Familiar Diflannu: Disappearing Chwyldroadol: Revolutionary Cenhedlaeth: Generation Gohebu: Reporting Lloeren: Satellite Cael gwared ar: To get rid of Cynnyrch craidd: Core product Canolbwyntio: ConcentratingCLIP 3 Dymchwel: To demolish Ymwybodol: Aware Atyniad: Attraction Ymgyfarwyddo: To familiarize oneself Torf: A crowdCLIP 4 Ymladdwr cawell: Cage fighter Pwysau: Pressure Bant - ffordd arall o ddweud

  • Pont: Rob Lisle

    11/03/2025 Duration: 25min

    Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Rob Lisle. Cafodd Rob Lisle ei fagu yn yr Iseldiroedd ac yn Abertawe. Pensaer yw Rob ac ar ôl cyfnod yn byw yn Llundain penderfynodd ddychwelyd gyda’i deulu i Gymru i Sir Gaerfyrddin. Mae’n byw yno gyda’i wraig Sian a’r plant. Penderfynodd ddysgu’r Gymraeg er mwyn cefnogi addysg ei blant a hefyd er mwyn ymdoddi i’r gymuned leol.

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr, Mawrth 4ydd, 2025

    04/03/2025 Duration: 35min

    Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Chwefror yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.Geirfa ar gyfer y bennod:-CLIP 1 Sawna: Sauna Buddion: Benefits Diffyg cwsg: Lack of sleep Arbrofi: To experiment Plymbwll: Plunge pool Datblygu: To develop Corddi: Churning Chwysu: Sweating Elwa: To benefit Pwysau gwaed: Blood pressure Dihuno ffordd arall o ddweud DeffroCLIP 2 Pennaeth: Head Byth bythoedd: Never ever Yn hytrach na: Rather than Cynhyrchu: To produce Hewl dyma’r ffordd mae llawer yn dweud y gair HeolCLIP 3 Dylunydd ydy Designer Ymgyrch: Campaign Ro’n i’n cael (f)y nenu at: I was drawn to Cyfrifoldebau penna(f): Main responsibilities Deunyddiau: Materials Cynnwrf: Excitement Cyfryngau cymdeithasol: Social media Ail benodi: To reappoint I’r dim: ExactlyCLIP 4 Trawiadol: Striking Yn gyfrifol am: Responsible for Wedi gwirioni efo yn y de ‘dwlu ar ‘ Hoff iawn Ymgorffori: To incorporate Te

  • Pont: Alanna Pennar Davies

    11/02/2025 Duration: 23min

    Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Alanna Pennar Davies.Cerddor llawrydd yw Alanna Pennar Davies. Yn wreiddiol o dref Sterling yr Alban, mae hi bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Dechreuodd ddysgu’r Gymraeg o ddifri yn 2020 yn ystod y cyfnod clo. Cyrhaeddodd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn 2024. Erbyn mae hi wedi sefydlu cwmni creu adnoddau i ddysgwyr sef Pennarbapur

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr, Chwefror 4ydd, 2025

    04/02/2025 Duration: 33min

    Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Ionawr yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.Geirfa ar gyfer y bennod:-Clip 1 Cyfres: Series Cychwynnol: Initial Pennod: Episode Andros o gyffrous: Very exciting Datgelu: To reveal Llywio: Presenting Cyngor: Advice Gweithgareddau: Activities Heb os nac oni bai: Without doubtClip 2 Cynhesu, neu C’nesu, i fyny: Warming up Asgellwr: Winger Eisteddle: Stands Canlyniad: Results Cic o’r smotyn: Penalty Efaill: Twin Callio: To wisen up Dyrchafiad: PromotionClip 3 Ffyddlon: Faithful Bradwyr: Traitors Yn datgan: Declaring Rhyfedd: Strange Yn fanwl gywir: Being accurate Wedi bachu: Nicked Cael gwared ar: To get rid of Ansicrwydd: Uncertainty Strwythuro: To structure Cuddio: To hide Ymwybodol : AwareClip 4 Mwya poblogaidd: Most popular Cynulleidfa lawn: A capasity audience Denu: To attract Yn gyson: Regularly Hybu: To promote Perchnogion: Owners Ar y cyd â: Jointly w

  • Pont: Judi Davies

    14/01/2025 Duration: 15min

    Saesnes yw Judi a gafodd ei magu yn Lloegr. Cwrdd â Chymro di-Gymraeg a’i denodd hi i ymgartrefu yn Aberdâr. Wedi iddi ymddeol yn gynnar o’i swydd fel athrawes, penderfynodd ymuno â Chwrs Dwys, Prifysgol De Cymru er mwyn dysgu’r Gymraeg. Erbyn hyn, mae hi’n fam-gu ac yn defnyddio’r Gymraeg gyda’r wyrion ac yn gwirfoddoli gyda maes Cymraeg i Oedolion. Mae hi’n aelod o gangen leol Merched y Wawr ac yn gwirfoddoli fel siaradwr rhugl ar gynllun partnera’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae ei brwdfryddedd a’i hangerdd dros y Gymraeg yn heintus.

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr, Ionawr 7fed, 2025

    07/01/2025 Duration: 31min

    Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Rhagfyr yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.Geirfa ar gyfer y bennod:-CLIP 1Beiriniaid: JudgesIas: A shiverChwerw-felys: Bitter sweetDiniwed: InnocentCynhyrchwyr: ProducersClyweliadau: AuditionsHyfforddwyr: CoachesEwch amdani: Go for itSylwadau: CommentsY Bydysawd: The UniverseCyfarwyddwr: DirectorCLIP 2Lleoliad: LocationGwerthfawrogi: To appreciateHeb os: Without doubtYn ei hawl ei hun: In its own rightDenu cynulleidfa: To attract an audienceDifreintiedig: DisadvantagedWedi elwa: Has profitedYn sylweddol: SubstantiallyFyddwn i’n dychmygu: I would imagineYn bellgyrhaeddol: Far reachingY tu hwnt i: BeyondAchlysuron arbennig: Special occasionsCLIP 3Yn achlysurol: OccasionallyTroedio yn ofalus: Treading carefullyI raddau: To an extentYmwybodol: AwareAgweddau: AspectsRhagrith: HypocrisyEithafiaeth: ExtremismAr yr ymylon: On the fringesFfydd: Faith

  • Pont: Kierion Lloyd

    10/12/2024 Duration: 17min

    Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Kierion Lloyd.Cafodd Kierion Lloyd ei eni yn Aberhonddu ond oherwydd gwaith y teulu treuliodd ei blentynod yn byw dramor. Dychwelodd i ardal Wrecsam yn ddeunaw oed. Wedi cyfnod yn teithio yn Seland Newydd, roedd yn benderfynol o fynd ati i ddysgu’r Gymraeg ac i ailgydio yng ngwreiddiau’r teulu. Erbyn hyn, mae’n byw yn Rhosllanerchrugog. Mae ei hoffter a’i ddiddordeb mewn cerddoriaeth Gymraeg wedi bod yn allweddol yn ei daith iaith.

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr, Rhagfyr 5ed, 2024

    05/12/2024 Duration: 32min

    Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Tachwedd yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.

  • Pont: Naomi Hughes

    12/11/2024 Duration: 19min

    Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Naomi Hughes. Merch a fagwyd yng Nghaerdydd yn ardal Llaneirwg yw Naomi Hughes. Mae hi o dras cymysg, ei mam o dras Tsieineaidd a’i thad yn Gymro di-Gymraeg o Gaerdydd. Er iddi gael ei magu yng Nghaerdydd yn yr wythdegau a’r nawdegau prin oedd ei hymwybyddiaeth a’i chysylltiad â’r Gymraeg. Wedi cyfnod yn teithio’r byd yn ei hugeiniau, dychwelodd i Gymru yn benderfynol o ddysgu’r Gymraeg. Cymhwysodd fel athrawes ac erbyn hyn mae’n dysgu ei phwnc drwy gyfrwng y Gymraeg mewn Ysgol Gyfun Gymraeg. Mae’n gadeirydd Menter Iaith Merthyr Tudful ac yn gyfrifol am ddatblygiad y Gymraeg yn ei hardal. Mae hefyd yn is-gadeirydd Yes Cymru.

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr, Tachwedd 5ed, 2024

    05/11/2024 Duration: 35min

    Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Hydref yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.

  • Pont

    11/10/2024 Duration: 20min

    Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Joseff Gnagbo.Ffoadur a wnaeth ffoi o’r Arfordir Ifori yng Ngorllewin Affrica yn 2010 yw Joseff. Yn dilyn rhyddhau cân rap yn annog ei gydwladwyr i wrthsefyll y chwyldro yn ei wlad, daeth yn darged milwrol a bu rhaid iddo ffoi o’r wlad. Bu’n byw ym Morocco am gyfnod cyn ymgeisio am loches ym Mhrydain yn 2017. Wedi iddo gyrraedd Cymru aeth ati’n syth i ddysgu’r Gymraeg. Erbyn hyn, mae’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg fel athro cyflenwi yng Nghaerdydd. Wedi cyfnod yn gwirfoddoli gyda Chymdeithas yr Iaith, cafodd Joseff ei ethol yn Gadeirydd y Gymdeithas, ac mae'n newydd gael ei ail-ethol yn Gadeirydd am dymor arall. Eleni yn y Brifwyl ym Mhontypridd cafodd Joseff ei urddo i'r orsedd am ei gyfraniad i’r Gymraeg.

  • Sgwrsio: Isabella Colby Browne

    08/10/2024 Duration: 41min

    ‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Isabella Colby Browne, enillydd Medal Bobi Jones yn Eisteddfod yr Urdd ym Meifod eleni. Cafodd Isabella ei geni yn America cyn symud i’r Wyddgrug pan yn ifanc. Mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel actores.

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr, Hydref 2ail, 2024

    02/10/2024 Duration: 32min

    Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Medi yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.Geirfa ar gyfer y bennod:-Clip 1 Trawsblaniad calon: Heart transplant Cwpan y Byd: World Cup Y garfan: The squad Be mae o’n ei olygu: What does it meanClip 2 Ymateb: Response Cyflawn: Complete Rhyng Gol: Inter college Di-lol: No nonsense Yn y pen draw: In the end Enwogrwydd: Fame Rhyngwladol: International Corwynt: Hurricane Cyfweliadau: Interviews Medra: I canClip 3 Cyfryngau cymdeithasol: Social media Dilynwyr: Followers Hyrwyddo: To promote Bob cwr: Every corner Yn gyfrifol am: Responsible for Dylsen ni neu dylen ni: We should Cenedl: Nation Yn ormodol: ExcessivelyClip 4 Swyddog Datblygu Cymunedol; Community Development Officer Darganfod: To discover Addas: Appropriate Ymgeisiais i: I applied Gwobr: Award Diolchgar: Thankful Enwebu: To nominate Ysbrydoli: To inspire Ystyried: To consider Trochi: To

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Medi'r 10fed 2024

    10/09/2024 Duration: 24min

    Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Awst yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.Geirfa ar gyfer y bennod:-Clip 1 – Sian Phillips Cysylltiadau : Connections Dodi : To put Adrodd : To recite Am wn i : I suppose Y fraint : The honour Gwrthod : To refuseClip 2 - Megan Williams Awgrymu : To suggest Yr Unol Daleithiau : The United States Yn gyffredinol : Generally Cymuned : Community Golygydd : EditorClip 3 – Katie Hall Cyflwyniad : Introduction Gradd : Degree Y fath beth : Such a thingClip 4 – Lili Mohammad Caeredin : Edinburgh Ysbrydoli : To inspire Datblygu : To develop Sioe gerdd : Musical Llywodraeth : Government Rhyfel : War Doniol : Amusing Ysgafn : Light O ddifri : Serious Arwain y fyddin : Leading the armyClip 5 – Elen Rhys ‘Sa i’n gwybod’ : am ‘dw i ddim yn gwybod’ Mo’yn' : am ‘isio’ Diwydiant : Industry Diflannu : To disappear Y cyfnod clo : The lockdownClip 6 - Andy Bell Cyfarwydd

  • Sgwrsio: Aleighcia Scott

    10/09/2024 Duration: 40min

    ‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Aleighcia Scott.

  • Sgwrsio: Kieran McAteer

    13/08/2024 Duration: 46min

    ‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Kieran McAteer.

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst y 6ed 2024

    06/08/2024 Duration: 32min

    Uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Gorffennaf.

  • Sgwrsio: Jess Martin

    09/07/2024 Duration: 48min

    ‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Jess Martin, sydd yn gyfrifol am y cyfrif Instagram ‘dysgugydajess’.

page 1 from 19