Pigion: Highlights For Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 29ain Mehefin 2022
- Author: Vários
- Narrator: Vários
- Publisher: Podcast
- Duration: 0:15:22
- More information
Informações:
Synopsis
Beti a'i Phobol Aled RobertsAr Beti a'i Phobol ddydd Sul, mi gaethon ni gyfle i ail-wrando ar sgwrs Beti efo Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, fuodd farw mis Chwefror eleni yn 59 mlwydd oed. Cafodd Aled ei eni a'i fagu yn Rhosllannerchrugog, ger Wrecsam, a dyma i chi flas ar y sgwrs ble mae o'n esbonio wrth Beti beth oedd o'n ei weld yn heriau'r swydd a sut oedd o'n eu hwynebu... Heriau - ChallengesHwyrach - Efallai Arweinydd cyngor - Council leaderHamddenol - LeisurelyGwthio - To pushAwyddus - EagerAdlewyrchu - To reflectCryfder - StrengthTwf aruthrol - Huge growthDrwy gyfrwng - Through the medium of...ac mae colled mawr i Gymru ac i'r Gymraeg ar ôl Aled Roberts. Aled Hughes ac Meurig Rees Jones Buodd Syr Paul McCartney yn perfformio yn Glastonbury wythnos diwetha ac yntau newydd ddathlu ei benblwydd yn 80. Ond oeddech chi'n gwybod bod y Beatles yn ymwelwyr cyson â Phortmeirion? Meurig Rees Jones ydy Rheolwr Lleoliadau Portmeirion, a buodd o'n siarad efo Aled Hughes fore Llun