Pigion: Highlights For Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 24ain 2022
- Author: Vários
- Narrator: Vários
- Publisher: Podcast
- Duration: 0:12:52
- More information
Informações:
Synopsis
Dei Tomos a Gwyn Elfyn Yr actor Gwyn Elfyn oedd gwestai Dei Tomos wythnos diwetha. Fo oedd Densil yn Pobol y Cwm am flynyddoedd ac yn siarad efo acen de Cymru ar y rhaglen. Ond yn y clip nesa dan ni'n clywed Gwyn yn sgwrsio efo Dei Tomos efo acen ogleddol Blaenau Ffestiniog. Pa acen ydy yr un naturiol iddo fo felly?Tafodiaith - Dialect Cyfeillion - Ffrindiau Honni - To claim Lwcus ydy Gwyn Elfyn ynde, yn medru siarad yn naturiol yn nhafodiaith y de a'r gogledd. Gwenno Williams Tafarn yr Heliwr Dydd Llun cafodd Aled Hughes sgwrs efo Gwenno Williams o dafarn gymunedol Yr Heliwr yn Nefyn. Roedd pobl Nefyn wedi codi arian i brynu'r adeilad ac i ail-wneud rhannau o'r dafarn er mwyn ei chael yn barod ar gyfer y cyhoedd. Awgrymodd Aled wrth Gwenno bod stori yr Heliwr yn stori o gymuned yn uno ac yn llwyddo a dyma oedd ymateb Gwenno... Cymuned - Community Hwb - A boost Gwireddu - To make it happen Ail-wneud - To redo Gwirfoddoli - To volunteer Budd mawr - A great benefit Gwobr - Prize Ysbrydoliae