Pigion: Highlights For Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 3ydd 2022
- Author: Vários
- Narrator: Vários
- Publisher: Podcast
- Duration: 0:14:48
- More information
Informações:
Synopsis
Aled Hughes a Vaughn Smith Glanhau carpedi yn Washington, yn yr Unol Daleithiau, ydy gwaith Vaughn Smith. Mae'n gallu siarad 24 iaith yn rhugl, mae o'n hyperpolyglot. Mae'r Gymraeg yn un o'r ieithoedd hynny a dyma fo'n cael sgwrs yn Gymraeg efo Aled Hughes Hyd y cofiaf - As far as I remember Ces i fy swyno - I was enchanted Yn ddiweddarach - Later Brodorol - Native Gwyddeleg - Irish languageVaughn Smith ddysgodd un o ieithoedd brodorol Mecsico oherwydd ei fam, a'r Gymraeg oherwydd cefndir ei dad - ond beth am y 22 o ieithoedd eraill? Anhygoel ynde?Aled Hughes ac Iwan Rheon Bydd lawer ohonoch chi'n cofio'r actor Iwan Rheon am ei berfformiadau fel Ramsay Bolton yn Game of Thrones. Mae o wedi actio yn Gymraeg yn y gorffennol - fo oedd Macsen White yn Pobol y Cwm, ond heb actio yn Gymraeg ers rhai blynyddoedd erbyn hyn. Y newyddion da ydy ein bod ni'n mynd i weld Iwan cyn bo hir ar S4C mewn cyfres newydd sbon 'Y Golau'. Dyma glip ohono fo'n sgwrsio efo Aled HughesCefndir - Background Anhygoel -