Synopsis
Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people
Episodes
-
Georgia Ruth
16/02/2025 Duration: 50minGeorgia Ruth, y gantores a'r gyflwynwraig yw gwestai Beti George. Mae wedi rhyddhau 4 albwm, ac yn ystod y cyfnod clo, mi ddechreuodd sgwennu ychydig bob dydd. Mi ddaru hunan gyhoeddi ei nofel gyntaf “Tell Me Who I am”. Cafodd gynnig wedyn i sgwennu yn Gymraeg – Casglu Llwch, sef casgliad o fyfyrdodau ganddi.Roedd llynedd yn dipyn o flwyddyn rhwng popeth! Roedd ganddi albwm allan mis Mehefin. Roedd hi'n cyhoeddi llyfr Saesneg yr un cyfnod ac yn cyhoeddi llyfr Cymraeg mis Tachwedd. A dros yr haf – ar lwyfan Sesiwn Fawr yn Nolgellau - fe aeth Iwan ei gwr yn sâl, roedd bron a gorffen ei set (efo Cowbois) pan gafodd strôc ar y llwyfan. Mae Georgia yn trafod y cyfnod yma, a sut y gwnaeth hi ac Iwan ymdopi.Mae hi'n fam i 3 bellach, recordiwyd y sgwrs cyn genedigaeth Alma Gwen.
-
Lowri Hedd
09/02/2025 Duration: 50minMae Lowri yn gweithio gyda GwyrddNi, mudiad gweithredu ar newid hinsawdd yn Dyffryn Peris, sy'n rhoi'r gymuned wrth galon y cynllun. "Dwi'n actifydd, yn amgylcheddwr, yn drwsiwr ac yn ail-bwrpaswr. Mae prynwriaeth a siopau tsiaen yn fy ngwylltio a fydda’i ddim yn hedfan, o ran egwyddor."Yn Fardd, yn Wrach Fodern ac yn aelod o Urdd Derwyddon Môn, yn fam i 3 o fechgyn ac yn Nain i un.Mae hi'n wyres i'r enwog fardd o Fôn, Machraeth ac fe dreuliodd Lowri flynyddoedd yn ei gwmni " roedd Taid yn siarad mewn cynghanedd" meddai ac yn ddylanwad mawr. " Mae sain y gerdd dafod yn rhan ohona'i". Mae hi yn byw bywyd prysur a diddorol, ac yn credu yn yr ysbrydol " da ni'n fwy na chorff a gwaed". Mae hi'n dewis 4 can, yn cynnwys can Lleuwen – Bendigeidfran ddaeth allan ar ôl canlyniad Brexit. “Mae angen pontydd rhyfeddol”. Mae Lowri yn teimlo reit gryf am hyn. Mae hi’n teimlo ei bod yn reit aml yn pontio rhwng gwahanol garfannau o gymdeithas. Mae hefyd yn dewis artist o'r Iwerddon sy'n canu caneuon gwleidyddol, Lisa O
-
Glenda Jones-Williams
02/02/2025 Duration: 49minGlenda Jones-Williams Is lywydd pobol a diwylliant Gogledd Ewrop ac Asia a’r Môr Tawel gyda Coca Cola yw gwestai Beti George.Yn wreiddiol o Frynaman fe gafodd gyfnod yn gweithio ym myd y gyfraith ac wedyn cwympo mewn i’r byd corfforaethol ac i fyd adnoddau dynol (Human Resources neu Personnel gynt neu People and Culture fel maen nhw'n cael eu hadnabod yn Coca Cola). Mae wedi gweithio gyda Coca Cola ers tua 18 mlynedd bellach.Tydi methu credu fod merch sy’n siarad Cymraeg ac yn dod o Frynaman mewn swydd uchel yn y byd corfforaethol. Y cynllun oedd bod yn gyfreithwraig am byth. Fe gafodd ei 'head huntio' i'r swydd, ac fe gynigiwyd swydd ryngwladol iddi ond wedi ei leoli yn Llundain, ond mi roedd ei mab, Harri newydd ei eni ac roedd hi am iddo gael magwraeth Gymraeg a doedd hi ddim isio symud i Lundain, felly mi ddaru berswadio ei phennaeth yn Atlanta fod posib neud y swydd yn unrhyw le!Mae’n trafaelio’r byd efo’i gwaith – Awstralia, Ewrop i gyd, Phillipines, Jakarta, Bali, India ac America.
-
Daf James
26/01/2025 Duration: 01h03minDaf James, y dramodydd, cerddor, cyfansoddwr, perfformiwr ac awdur yw gwestai Beti George. Fe gafodd lwyddiant ysgubol diweddar gyda'i gyfres deledu Lost Boys and Fairies, ac mae'n trafod yr heriau sydd yn dod yn sgil ysgrifennu. Mae yn rhannu ei brofiad o fabwysiadu dau fachgen a merch fach gyda'i ŵr, Hywel, ac yn trafod sut mae hynny wedi newid eu byd. Fe ddaeth yn rhiant yn fuan ar ôl colli ei Fam, ac mae'n trafod effaith galar gyda Beti.Ei gyngor i ysgrifenwyr ifanc yw “Y mwyaf authentic ych chi – mae’r stori yn mynd yn bellach, gonestrwydd mae cynulleidfa eisiau.”Mae'n hoff iawn o'r grŵp Eden a Caryl Parry Jones, ac yn credu eu bod yn gwneud gwaith ffantastig yn gymdeithasol o ran iechyd meddwl, a'u bod wedi esblygu gydag amser, rhaid gwneud os ti’n artist.
-
Heledd Wyn
19/01/2025 Duration: 50minHeledd Wyn yw gwestai Beti George mae'n ymchwilio i ddyfodol ein gwlad wrth i'r byd gynhesu. Mae hi'n credu bod rhaid i ni feddwl yn wahanol am y ffordd i ni'n cynhyrchu bwyd. Mae hi'n cyfarwyddo a chynhyrchu yn y byd ffilm a theledu, ac mae'n angerddol am y maes. Mae hi hefyd wrth ei bodd yn barddoni a chynganeddu a chanu, ac fe gawn glywed hi'n canu cân hyfryd mae hi wedi ei ysgrifennu gyda'i merch Alys Mair 'Camu Mlaen' ar gyfer ei mab tra ‘roedd e’n mynd trwy gyfnod anodd.
-
Noel Thomas a Siân Thomas: Rhaglen 2
12/01/2025 Duration: 50minDyma’r ail raglen lle mae Beti George yn sgwrsio gyda’r cyn is-bostfeistr Noel Thomas a'i ferch Siân am hanes eu brwydr yn erbyn y Swyddfa Bost. Cafodd Noel ei gyhuddo ar gam o gadw cyfrifon ffug fel rhan o sgandal Horizon a’i garcharu am naw mis yn 2006. Yn y rhaglen hon cawn ei hanes yn y carchar a'r ymdrechion yn dilyn hynny i glirio ei enw.
-
Noel Thomas a Siân Thomas: Rhaglen 1
05/01/2025 Duration: 56minYn y gyntaf o ddwy raglen, Beti George sydd yn sgwrsio gyda Noel Thomas, cyn is-bostfeistr a'i ferch Siân am fagwraeth a gyrfa'r ddau yn Ynys Môn ac fel yr oedd Swyddfa Bost Gaerwen yn mynd yn dda tan Hydref y 5ed 2005, pam ddaeth rhai o swyddogion ariannol y Swyddfa Bost a chnocio ar ei ddrws ac yna mynd a Noel i swyddfa'r heddlu yng Nghaergybi a'i gyhuddo ar gam o gadw cyfrifon ffug.Cafodd Noel Thomas o'r Gaerwen, Ynys, Môn ei gyhuddo ar gam o gadw cyfrifon ffug fel rhan o sgandal Horizon. Fe gafodd y cyn is-bostfeistr ei garcharu am naw mis yn 2006 ar ôl i £48,000 fynd ar goll o’i gyfrifon. Daeth i'r amlwg yn ddiweddarach bod hyn o ganlyniad i nam ar feddalwedd Horizon Swyddfa'r Post.
-
Lisabeth Miles
22/12/2024 Duration: 50minYr actores Lisabeth Miles sy’n actio Megan Harris ar Pobol y Cwm yw gwestai Beti George. Mae hi'n flwyddyn fawr i’r opera sebon eleni wrth iddi ddathlu’r 50! Mae’n wreiddiol o Waunfawr ger Caernarfon, a cafodd ei haddysg yn Ysgol Ramadeg Caernarfon. Aeth ymlaen wedyn i’r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd. Wedi gadael y coleg, cychwynodd ei gyrfa efo’r Welsh Theatr Company, ac efo adain Gymraeg y cwmni sef Cwmni Theatr Cymru. Roedd Lisabeth ym mysg actorion Cymraeg cyntaf y cwmni, ynghŷd â Gaynor Morgan Rees a Iona Banks. Bu’n gweithio’n gyson mewn cynhyrchiadau i’r BBC hefyd, gan gynnwys “Esther”, “Y Stafell Ddirgel”, “Lleifior” a “Branwen” yn ystod diwedd y 1960au a dechrau’r 70au.
-
Eurgain Haf
15/12/2024 Duration: 50minDaw Eurgain o Benisa’r-waun yn Eryri ond mae hi'n byw ym Mhontypridd erbyn hyn gyda'i gwr a'u dau o blant. Mae hi wedi ysgrifennu nifer o lyfrau, ac wedi ennill sawl gwobr am lenydda gan gynnwys Coron Eisteddfod yr Urdd. Eurgain oedd enillydd y fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol 2024 gyda ' Y Morfarch Arian' . Mae hi'n gweithio fel Uwch Reolwr y Cyfryngau i elusen Achub y Plant Cymru.
-
Owain Gwynfryn
08/12/2024 Duration: 48minOwain Gwynfryn yw gwestai Beti George.Fe gafodd Owain ei fagu yng Nghaerdydd, ac yna ym Mhrestatyn.Wedi sefydlu gyrfa lwyddiannus iddo'i hun fel ceiropractydd, fe benderfynodd Owain newid cyfeiriad a mynd i astudio'r llais yng Ngholeg y Guildhall yn Llundain. Graddiodd y llynedd, ac yntau yn ddeugain oed.Mae'n parhau gyda'i yrfa fel ceiropractydd yn ei glinig yn Llundain, pan fo amser yn caniatáu, ond ei nod yw cyrraedd y brig o ran ei yrfa fel canwr - ym myd opera a thu hwnt.
-
Anthony Matthews Jones
24/11/2024 Duration: 49minAnthony Matthews Jones yw gwestai Beti George.Yn wreiddiol o Ynys Môn, mae'n byw yn Iwerddon ers dros bum mlynedd ar hugain.Mae'n gweithio fel ymgynghorydd ariannol, ac wedi sefydlu ei gwmni ei hun.Ei ddiddordeb mawr yw canu, a hynny ers pan oedd yn ifanc. Mae'n teithio'r byd yn annerch mewn cynhadleddau, ac yn canu ynddynt hefyd.
-
Meirion MacIntyre Huws
10/11/2024 Duration: 49minMeirion MacIntyre Huws yw gwestai Beti George.Mae'n gyfarwydd iawn i ni fel bardd, ac ef oedd Prifardd Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd 1993.Mae Mei Mac yn un sy'n barod i fentro a wynebu heriau newydd.Bu'n gweithio i'r Bwrdd Dŵr cyn ac ar ôl bod yn y Brifysgol yng Nghaerdydd, cyn ymhel â sawl maes arall fel cartwnydd, dylunydd, rhedeg safle glampio, a gwesty.Bellach mae ganddo gwmni paneli solar, ac mae'n gweithio fel swyddog enwau lleoedd i Gyngor Gwynedd.
-
Yr Athro Angharad Puw Davies
03/11/2024 Duration: 49minYr Athro Angharad Puw Davies yw gwestai Beti George.Fe'i magwyd yn Yr Wyddgrug, ond mae hi bellach yn byw yn AbertaweMae hi'n arbenigo mewn microbioleg feddygol a heintiau, ac yn ystod y rhaglen fe fydd yn trafod y diciâu, gwaith ymchwil mewn carchar yn Llundain, ymweliad â Siberia, a cryptosporidiosis.Mae ganddi ddiddordeb mewn llenyddiaeth ac mae'n cynganeddu.
-
Richard Jones-Parry
27/10/2024 Duration: 47minRichard Jones-Parry yw gwestai Beti George.Mab fferm Bryn Bachau rhwng Abererch a Chwilog yw Richard. Mae'n gyn athro Cemeg yn Ysgol Breswyl Marlborough, ac wedi bod yn dysgu yn Awstralia hefyd.Fe dreuliodd gyfnod hefo'i deulu yn gwirfoddoli yn Ghana. Mae'n treulio pedwar mis o'r flwyddyn yng Nghymru a'r gweddill yn Adelaide, Awstralia.
-
Aled Lewis
20/10/2024 Duration: 49minAled Lewis yw gwestai Beti George.Mae'n gynllunydd a saer dodrefn, sydd wedi sefydlu ei fusnes ei hun ers pum mlynedd ar hugain.Cafodd ei fagu ar fferm ger Machynlleth gan ddod dan ddylanwad ei dad - oedd yn grefftwr da.Yn 16 oed fe aeth i Goleg Rycotewood yn Rhydychen i astudio gwaith coed a dylunio dodrefn cyn mynd draw i America i weithio. Mae wedi treulio cyfnod yn Ne Affrica hefyd yn y cyfnod cyn i Apartheid ddod i ben.Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn hwylio.
-
Malachy Owain Edwards
13/10/2024 Duration: 50minBeti George yn sgwrsio gyda'r awdur Malachy Owain Edwards. Cafodd Malachy ei fagu yn Ffynnon Taf. Saesneg oedd iaith yr aelwyd, ond fe aeth ei dad ati i ddysgu Cymraeg.Mae'n trafod y ffaith ei fod eisiau bod yn awdur, ac fe gafodd ei fagu yng nghanol llyfrau. Fe wnaeth ei hunangofiant 'Y Delyn Aur' gyrraedd rhestr fer Llyfr Ffeithiol Greadigol 'Llyfr y Flwyddyn' eleni.Wrth drafod ei hunaniaeth mae'n mynd a ni ar daith i Lundain, Hong Kong, Iwerddon a Barbados, ac mae dylanwad ei deulu yn fawr arno.Mae Malachy bellach yn byw hefo'i wraig Celyn a'r teulu ar Ynys Môn.
-
Iestyn George
06/10/2024 Duration: 01h04minMewn rhaglen arbennig i nodi 40 mlynedd o Beti a'i Phobol, Beti George sy'n holi ei mab Iestyn George am ei waith gyda NME, GQ, marchnata'r Manic Street Preachers yn y dyddiau cynnar, ac am ei fagwraeth ganddi hi. Fe gyflwynodd Jamie Oliver i sylw'r byd, ac roedd yna ar ddechrau perthynas David a Victoria Beckham. Mae bellach yn darlithio ym Mhrifysgol Brighton ac yn Dad i ddau.
-
Dr Carwyn Jones
29/09/2024 Duration: 50minDr Carwyn Jones yw gwestai Beti George.Mae'n Athro mewn moeseg chwaraeon yn gweithio yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd - ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd.Ei brif ddiddordebau ymchwil yw moeseg chwaraeon yn gyffredinol a'r berthynas rhwng chwaraeon ac yfed alcohol yn arbennig, ac mae wedi cyhoeddi nifer o erthyglau yn y Gymraeg a'r Saesneg sy'n ymdrin â phynciau sy'n amrywio o ddosbarthiad yn y Gemau Paralympaidd, rheolau cymhwysedd cenedlaethol, cydraddoldeb rhwng y rhywiau, hiliaeth a thyfu cymeriad drwy chwaraeon.Mae'n wreiddiol o Ddinbych ond bellach yn byw yn Abergwyngregyn gyda'i wraig a'i fab.Mae dau beth tyngedfennol wedi digwydd ym mywyd Carwyn - rhoi'r gorau i yfed alcohol a chael tiwmor ar ei ymennydd. Mae'n trafod yn agored gyda Beti y cyfnodau anodd yma yn ei fywyd, ac yn dewis pedair cân sydd yn cysylltu â gwahanol gyfnodau o'i fywyd.
-
Dr Ffion Reynolds
22/09/2024 Duration: 50minBeti George yn sgwrsio gyda Dr Ffion Reynolds sydd yn Uwch Reolwr Digwyddiadau Treftadaeth a Chelfyddydau gyda Cadw.Mae Ffion wedi ei magu yng Nghaerdydd. Un o’r geiriau cyntaf ddysgodd Ffion oedd mabwysiadu. Gwnaeth ei rhieni’n n siŵr fod Ffion y ymwybodol o’i chefndir. Dywedwyd wrthi eu bod wedi sgwennu llythyr o amgylch y byd i ffeindio merch fach. Roeddynt wedi sgwennu i China, Japan Affrica ac fe gawsant ateb i’w llythyr drwy gael Ffion.Mae wedi treulio amser yn gweithio yn Namibia a bu'n Dde America lle bu'n byw efo’r trigolion mewn un o'r fforestydd glaw ac yn astudio efo’r Shaman. Mae gan Ffion ddiddordeb mawr mewn madarch! Ceir biliynau o wahanol fathau o fadarch. Mae Ffion hefyd yn credu taw madarch sy’n mynd i achub y blaned!
-
Iolo Eilian
15/09/2024 Duration: 49minBeti George sydd yn sgwrsio gyda Iolo Eilian, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cenedlaethol iechyd a gofal yn yr Iwerddon. Mae'n wreiddiol o Lanrug, ac ar ôl treulio amser fel nyrs a gweithiwr cymdeithasol yn Wrecsam a Gogledd Iwerddon, mae bellach yn byw yn Galway gyda'i deulu ac yn gyfrifol am newidiadau i'r gwasanaeth iechyd a gofal yn y weriniaeth, ac yn rheoli cyllid o 23.5 biliwn o bunnoedd.