Synopsis
Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people
Episodes
-
Llŷr Williams
03/08/2025 Duration: 46minBeti George sydd yn holi'r pianydd sydd yn adnabyddus trwy'r byd, Llŷr Williams. Cafodd ei fagu yn Pentre Bychan, Wrecsam ac mae dal i fyw yno. Mae wedi perfformio mewn neuaddau megis Carnegie Hall, Efrog Newydd, ac wedi llenwi neuadd fawr yn y Moscow Conservatory, Rwsia. Mae wedi teithio i berfformio'n Tokyo a Mecsico ac yn rhannu eu straeon difyr. Mynychodd Ysgol Gynradd ID Hooson yn Rhosllannerchrugog, cyn mynd ymlaen i Ysgol Uwchradd Morgan Llwyd. Yn Dilyn pynciau Cerddoriaeth, Cymraeg a Saesneg, cyn mynd ymlaen i gael gradd mewn cerddoriaeth yng Ngholeg y Frenhines yn Rhydychen (Queens College Oxford) ac yna yn gorffen ei addysg yn yr Academi Frenhinol yn Llundain.Fe wnaeth Llŷr basio gradd 8 ar y piano yn 11 mlwydd oed, ac fe gafodd "distinction" ymhob un.Mae'n ymarfer y piano am 6 awr y dydd - ac yn dal i ddarganfod pethau newydd, ac yn mwynhau cerdded yn ei amser sbâr i ymlacio.
-
Llinos Roberts
27/07/2025 Duration: 49minLlinos Roberts o Rosllannerchrugog yw gwestai Beti George, mae hi'n Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025. Yn wreiddiol o’r ardal, mae hi wedi byw a gweithio yn y sir fwy neu lai ar hyd ei hoes, ac mae'n Bennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a'r Gymraeg yng Ngholeg Cambria. Mae 3 mlynedd wedi pasio ers i Aled Roberts ei gŵr farw yn sobor o ifanc yn 59 mlwydd oed. Bu Aled Roberts yn Gomisiynydd y Gymraeg ac mae ganddynt ddau o fechgyn, sef Osian ac Ifan. Mae Llinos yn gefnogwr brwd o Glwb Pêl Droed Wrecsam ac wedi eu dilyn ers yn ferch fach. Cawn hanesion difyr ei magwraeth a'i bywyd ac mae hi'n dewis ambell gân gan gynnwys John's Boys.
-
Wyn Davies
18/07/2025 Duration: 40minBeti George yn sgwrsio gyda chyn-ymosodwr Cymru, Wyn Davies. Darlledwyd y rhaglen yn wreiddiol yn 2003.
-
Leisa Mererid
13/07/2025 Duration: 49minBeti George sydd yn holi'r actores a'r hyfforddwraig yoga Leisa Mererid.Mae'n disgrifio ei phlentyntod fel hogan fferm ym mhentref Betws Gwerfyl Goch fel un 'eidylig' ac roedd yn treulio ei hamser sbâr i gyd allan yn chwarae.Astudiodd Ddrama yn Ysgol Theatr Fetropolitan Manceinion lle enillodd radd mewn actio, cyn hyfforddi ymhellach yn Ysgol Ryngwladol Meim, Theatr a Symudiad Jacques LeCoq ym Mharis.Bu'n byw yn Lesotho am gyfnod yn gwirfoddoli mewn cartref i blant amddifad .Roedd yn aros mewn pentref bach yng nghanol unman yn y mynyddoedd. Dywed fod y profiad yma yn bendant wedi ei siapio hi fel person.Mae Leisa wedi gweithio’n helaeth ym maes Theatr a theledu. Ymddangosodd yn chwe chyfres Amdani. Yn 2002 chwaraeodd rôl Edith yn y ffilm Eldra. Yn 2002 hefyd cychywnodd ei rhan fel Joyce Jones yn y gyfres ddrama Tipyn o Stad. Bu'n gweithio hefyd gyda chwmni theatr Oily Cart, cwmni sydd yn arloesi mewn gweithio yn aml synhwyrol. Ma’ nhw yn cyfeirio at eu hunain fel pob math o theatr ar gyfer pob math o bobl. Ma
-
Gethin Evans
29/06/2025 Duration: 49minGwestai Beti George yw Gethin Evans, mae'n ddigrifwr stand-up, mae ei lais yn gyfarwydd i ni ar Radio Cymru, yn cyflwyno gigs comedi ac yn aelod o Fand Pres Llanreggub, ac mae'n dad i ddau o blant. Ond mae ei waith bob dydd yn heriol, mae'n gweithio llawn amser i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn ymwneud â digido holl fanylion y gwasanaeth iechyd meddwl.Daw yn wreiddiol o Dremadog, ac fe aeth o i Ysgol Gynradd Eifion Wyn - Porthmadog ac wedyn yn ei flaen i Ysgol Eifionydd. Bu'n gweithio gydag elusen Gisda, a bu'n gweithio gyda Community Music Wales. Cawn hanesion difyr ei fywyd ac mae'n dewis 4 cân yn cynnwys Anweledig a MC Mabon.
-
Manon Awst
22/06/2025 Duration: 48minYr artist Manon Awst yw gwestai Beti George. Mae hi'n arbenigo mewn celf gyhoeddus ac yn gwneud cerfluniau, gosodiadau a pherfformiadau sy'n archwilio themâu lle, hunaniaeth a thirwedd. Mae ei gwaith diweddar yn ymwneud â chorsydd a mawndiroedd. Fe gafodd wobr i artistiaid gan yr Henry Moore Foundation (2022-23) a Chymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol (2023-2025) fel rhan o raglen Natur Greadigol Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Magwyd Manon ar Ynys Môn gan fynychu Ysgol Uwchradd Bodedern ac aeth ymlaen i astudio Pensaernïaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt.Bu'n byw ym Merlin am sawl blwyddyn, ac mae ganddi ddarn o waith celf gyhoeddus yn y ddinas sydd wedi ei wneud allan o gregyn gleision o'r Fenai.Mae hi hefyd yn cael ei hadnabod fel bardd ac yn aelod o'r grŵp Cywion Cranogwen ac yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn digwyddiadau fel Y Talwrn ac Ymryson y Beirdd ar BBC Radio Cymru. Yn fam i ddau o fechgyn, Emil a Macsen ac yn briod gydag Iwan Rhys. Cawn hanes difyr ei bywyd ac mae hi'n dewis 4 cân gan gyn
-
Bethan Sayed
15/06/2025 Duration: 49minYn rhan o dymor Merthyr BBC Cymru mae Beti George yn holi Bethan Sayed, gwleidydd gafodd ei hethol i’r Cynulliad yn 2007 pan oedd hi’n 25 mlwydd oed.Roedd hi'n bach o rebel yn yr ysgol gynradd ac yn y cynulliad yn adnabyddus am draethu'n blwmp ac yn blaen, ac yn barod iawn i herio'r drefn. Fe benderfynodd beidio sefyll yn etholiad 2021, gan nad oedd yn hapus gyda'r hyn oedd yn digwydd yn ei phlaid, Plaid Cymru ac fe benderfynodd ganolbwyntio ar y teulu. Mae hi'n briod â Rahil Sayed sydd yn ymgynghorydd busnes ac yn gweithio yn y byd ffilm Bollywood, ac yn creu ffilmiau yng Nghymru ar gyfer India a'r byd.Cawn hanesion difyr ei bywyd ac mae hi'n dewis 4 cân gan gynnwys cân gan Sobin a'r Smaeliaid; 'roedd hi'n ffan o Bryn Fôn tra'n tyfu fyny ym Merthyr.
-
Jess Davies
08/06/2025 Duration: 48minBeti George sy'n cael cwmni Jess Davies sydd wedi ymddangos mewn cylchgronau Nuts a ZOO fel 'glamour model' ond sydd bellach yn ymgyrchu dros hawliau merched a'i diogelwch ar y we. Mae hi ar hyn o bryd yn gweithio gyda gwleidyddion yn San Steffan ar fesur sydd yn mynd drwy'r senedd i wella diogelwch ar y we. Mae hi wedi cael profiadau gwael ei hun, mae lluniau o'r model a'r cyflwynydd o Aberystwyth wedi cael eu camddefnyddio cannoedd o weithiau ar-lein.Mae hi hefyd wedi derbyn llu o negeseuon amhriodol gan ddynion ar-lein ac mae ei phrofiadau wedi arwain iddi ysgrifennu llyfr sy'n ceisio egluro casineb at fenywod ar-lein.Cawn hanesion ei bywyd ac mae'n dewis 4 darn o gerddoriaeth gan gynnwys cân Croeso I Gymru - Tara Bandito, gan iddi symud i Gymru yn 6 mlwydd oed a dysgu'r iaith.
-
Ian Keith Jones
25/05/2025 Duration: 48minIan Keith, sydd newydd ymddeol fel Prifathro yw gwestai Beti George. Fe adawodd y byd addysg llynedd ar ôl bod yn Bennaeth ysgol San Siôr, Llandudno. Fe enillodd sawl gwobr, gan gynnwys Pennaeth y Flwyddyn gyda'r Daily Express a'r Daily Post; gwobr David Bellamy am ysgol oedd yn gwneud gymaint gyda byd natur; a gwobr werdd y World Wildlife Fund.Roedden nhw'n cadw ieir a gwenyn ac yn gwerthu'r cynnyrch yn y siopau lleol. Mae'n trafod heriau byd addysg, ac yn rhannu hanesion ei blentyndod. Mae'n hoff iawn o gasglu planhigion ac yn teithio pellteroedd i weld adar a gwyfynod prin.
-
Iona Roberts
18/05/2025 Duration: 48minIona Roberts, neu Iona Pen Ffridd i bawb sy’n ei hadnabod yw gwestai Beti a'i Phobol.Mae Iona yn ffarmwraig ac yn gadwraethwr, mae'n hyfforddwr yoga, yn gyn warden gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac yn fam i 3 o blant (Nel, Nedw a Joe) a gwraig i John. Mae hi hefyd yn rhedeg rasys Iorn Man. Ganwyd ar fferm Pen Ffridd, Penmachno (pentref ger Betws y Coed, yn Sir Conwy). Cafodd ei magu gyda'i Nain a'i Thaid a 3 ewythr oedd yn adnabyddus yn yr ardal sef Ifor, Elw a Hyw."Tyfais fyny yma ym Mhen Ffridd, gyda digon o ryddid ac awyr iach, erbyn hyn dwi'n deall pa mor unigryw oedd fy magwraeth erbyn hyn!" Bu'n gweithio yn Llundain am gyfnod gyda chwmni Saatchi and Saatchi ac yn Wimbledon ble daeth ar draws Pat Cash. Ond dychwelyd i ffermio gwnaeth hi i Pen Ffridd, ac mae'n angerddol am amaethu mewn dull cynaliadwy.Cawn hanesion difyr ei bywyd ac mae'n dewis caneuon sydd yn ffefrynnau gan gynnwys Meic Stevens – Gwenllïan. Dyma’r gân oedd yn chwarae pan gerddodd Iona mewn i’r gwasanaeth priodas.
-
Welsh Whisperer - Andrew Walton
11/05/2025 Duration: 48minY canwr gwlad Andrew Walton o Gwmfelin Mynach yw gwestai Beti a'i Phobol. Mae hefyd yn cael ei adnabod fel y Welsh Whisperer, ac mae'n dathlu 10 mlynedd eleni ers dechrau perfformio. Mi fydd y caneuon 'Ni'n Beilo Nawr' a 'Bois y JCB' yn gyfarwydd i'w ffans.Cafodd ei fagu yng Nghwmfelin Mynach yn Sir Gaerfyrddin. Mae bellach yn byw yng Nghaernarfon, Gwynedd.Graddiodd mewn newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Sheffield , a bu'n athro ysgol gynradd yn y gogledd am sawl blwyddyn, cyn mentro o ddifri i'r byd perfformio.Mae'r Welsh Whisperer bellach yn wyneb cyfarwydd ar y teledu, yn perfformio canu gwlad mewn gwyliau cerddorol ac yn denu niferoedd i neuaddau pentref ar hyd y wlad.Mae'n cyflwyno cyfres o bodlediadau newydd ' Y Byd yn Grwn' sy'n rhoi cipolwg y tu ôl i'r llenni ar glybiau pêl-droed llawr gwlad a'r gwirfoddolwyr allweddol sy'n eu rhedeg.Cawn hanesion difyr ei fywyd, ac mae'n dewis caneuon Gwyddelig ac un gan ei arwr Tecwyn Ifan.
-
Mandy Watkins
04/05/2025 Duration: 48minMandy Watkins, cynllunydd cartref a chyflwynwraig ar gyfres S4C Dan Do, Hen Dŷ Newydd a 'BBC Wales’ Home of the Year' yw gwestai Beti George.Cafodd ei magu yn y Fali, ar Ynys Môn mewn tŷ o’r enw Graceland, a hynny gan fod ei rhieni yn hoff iawn o'r canwr Elvis, ac mae ganddi atgofion hapus iawn o blentyndod yn gwylio ffilmiau Elvis ar y teledu gyda'i theulu.Doedd bod yn gynllunydd cartrefi ddim yn rhan o'r cynllun gwreiddiol, fe raddiodd mewn cymdeithaseg a busnes ym Mhrifysgol Bangor. Bu'n gweithio gyda chwmni gwerthu gwyliau yng Nghaer a hefyd i gynllunydd cartrefi. Bu'n gweithio gyda Cyngor Cefn Gwlad Cymru am 10 mlynedd ac fe gafodd gyfnod yn labro i'w thad, cyn adnewyddu cartref iddi hi a'i theulu. Mae wedi sefydlu busnes ei hun a'r Ynys Môn, Space Like This.Mae'n trafod cael ei bwlio yn yr ysgol, pwysigrwydd cwnsela a'i chyfnod yn dioddef o bulimia. Mae hi'n Fam i 3, ac yn rhannu straeon ei bywyd prysur ac yn dewis 4 can yn cynnwys un gan Amy Winehouse, Elvis a Bryn Fon.
-
Iwan Steffan
27/04/2025 Duration: 48minBeti George sydd yn holi Iwan Steffan, cyflwynydd a dylanwadawr ar wefannau cymdeithasol, er nad ydi Iwan yn rhy hoff o'r term dylanwadwr. Yn wreiddiol o bentref Rhiwlas, tu allan i Fangor, ond mae bellach yn byw yn Lerpwl, ac yn cael ei adnabod gan bobol y ddinas oherwydd ei bresenoldeb ar Tik Tok, sydd yn ei gyflogi fel llysgennad swyddogol, mae dros 52 o filiynau o bobol wedi gweld ei fideos am ysbrydion Lerpwl. Mae'n rhan o deulu creadigol - y cerddor Steve Eaves yw ei Dad ac mae Iwan yn frawd bach i Lleuwen Steffan a Manon Steffan Ros. Mae'n trafod hanesion ei fywyd, yn credu bod gormod o bwysau ar blant i lwyddo yn yr ysgol mewn arholiadau, " Ges i TGAU Cymraeg ac Addysg Grefyddol. Tyda ni gyd ddim yn dysgu fel ‘na – dylsa ni ddysgu am brynu tai, pres, colled, iechyd meddwl“.Tydi'r ffordd ddim wedi bod heb ei heriau, rhai yn boenus iawn, ond mae Iwan yn hapus erbyn hyn ei fod yn gweithio tipyn yng Nghymru hefyd yn cyflwyno rhaglenni i S4C. “ dwi’n dathlu fy hun rŵan – dwi wedi treulio gymaint o’m mywyd
-
Dr Llinos Roberts
13/04/2025 Duration: 48minRoedd Dr Llinos Roberts yn feddyg teulu yn y Tymbl am flynyddoedd, cyn gorfod orfod cau yn 2024 oherwydd problemau recriwtio.Mae'n trafod sefyllfa'r NHS, yn sôn nad oes angen A* yn y lefel A i fod yn feddyg da. Mae sgiliau empathi a chyfathrebu yn holl bwysig, tydi rhain ddim yn cael eu mesur, ac mae angen meddygon o bob math o gefndir cymdeithasol. Mae’r iaith Gymraeg hefyd yn ganolog i gynnal y gofal iechyd gorau.Mae Llinos yn cyflwyno eitemau meddygol ar Prynhawn Da ar S4C, ac yn mwynhau'n fawr. Mae hefyd yn sgwennu erthyglau meddygol i gylchgrawn Y Wawr ers rhyw 10 mlynedd.
-
Kathy Gittins
06/04/2025 Duration: 47minKathy Gittins, artist a gwraig fusnes yw gwestai Beti George. Cawn hanesion difyr ei magwraeth ar fferm fynydd Penrhos, uwchben Pontrobert a Meifod yn Sir Drefaldwyn. Roedd y capel mor bwysig i fagwraeth Kathy, i Gapel Gad yr oedd hi’n mynd bob dydd Sul gyda’i theulu. Y capel drws nesa, rhyw filltir i fyny’r lon oedd Capel Penllys, sef lle sefydlwyd Aelwyd Penllys gan y diweddar Parch Elfed Lewis, ac mae hi'n hel atgofion am yr eisteddfodau rhwng y ddau gapel a mynd i'r aelwyd. Fe astudiodd gwrs celf yn Leeds, cwrs cynllunio graffeg ac wedyn agor oriel ym Meifod a hynny yn ystod cyfnod anodd iawn iddi yn ei bywyd. Fe ddatblygodd yr Oriel yn siop ddillad, a bu'n rhedeg 3 siop Kathy Gittins ym Mhwllheli, Trallwng a'r Bont-faen, ond bu cyfnod covid yn heriol a Brexit. Fe benderfynodd gau'r busnesau llynedd. Mae hi'n Fam i 4, ac yn Nain i 12eg o wyrion ac wyresau.
-
Rhian Bowen-Davies
30/03/2025 Duration: 50minBeti George sydd yn sgwrsio gyda Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Yn wreiddiol o Aberpennar ger Aberdâr, dechreuodd Rhian ei gyrfa fel swyddog heddlu, bu gyda nhw am 7 mlynedd ond y 3 mlynedd ola yn gweithio gyda aml asiantaeth efo trais yn y cartref. Penodwyd hi’n Gynghorydd Cenedlaethol cyntaf Cymru ar gyfer mynd i’r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn 2015. Cyn iddi ymgymryd â’i swydd fel Comisiynydd, cafodd Rhian ei chydnabod fel Cadeirydd Arbenigol yr Adolygiadau Dynladdiadau Domestig sy’n ymwneud â phobl hŷn.
-
Dr Eurfyl ap Gwilym
23/03/2025 Duration: 50minDr Eurfyl ap Gwilym yr economegydd yw gwestai Beti George. Daeth un digwyddiad yn 2010 ag ef i sylw mawr pan fentrodd herio Jeremy Paxman, un o'r newyddiadurwyr uchaf ei barch ym Mhrydain. Drannoeth 'roedd y gwefannau ar dân. Mi ddaru Eurfyl elwa o’r ffaith fod o ddim yn cyfadde’ ei fod o’n anghywir ac mi ddaliodd arno. Mae o di cael pobol yn dod ato yn ei adnabod o’r teledu - yng Nghaerdydd a Llundain … “You’re the Paxman man! Well Done”.Dechreuodd ei yrfa gyda chwmni Unilever ar gynllun datblygu rheolwyr busnes. Bu'n gweithio gyda chwmni John Williams yn rheoli pob agwedd o'r busnes. Bu’n Bennaeth adran gwerthu cyfrifiaduron gyda chwmni mawr electroneg Philips, cwmni rhyngwladol – o’r Iseldiroedd. Bu’n gweithio gyda GE. Bu’n brif weithredwr i gwmni meddalwedd rhyngwladol yn Llundain ( Cwmni o UDA ydoedd). Gwerthu a datblygu meddalwedd i fanciau.Bu’n gweithio gyda'r Principality yn ddirprwy gadeirydd ac yn gyfarwyddwr anweithredol byrddau technolegol, a bu’n gweithio gyda Phlaid Cymru. Bu'n helpu Gwynfor Eva
-
Mark Williams
16/03/2025 Duration: 50minMae Mark Williams yn gyn-nofiwr Paralympaidd, fe yw sylfaenydd LIMB-art - cwmni sy'n cynhyrchu cloriau unigryw a hwyliog ar gyfer coesau prosthetig .Newidiodd bywyd Mark Williams o’r Rhyl un diwrnod ym Mehefin 1982 pan gollodd ei goes chwith mewn damwain ffordd wrth seiclo adref o’r ysgol. Roedd Mark yn 10 mlwydd oed.Mae’r ddamwain wedi siapio ei fywyd a’i yrfa mewn nifer o ffyrdd ac wedi arwain Mark i sefydlu cwmni yn 2018 o'r enw LIMB-art sy'n dylunio gorchuddion ar gyfer coesau prosthetig.Mae ei waith wedi cael ei gymeradwyo gan y Brenin yn 2024 gyda’r cwmni yn ennill un o Wobrau’r Brenin am ei fenter.Mae wedi ennill nifer o wobrau am ddyfeisio pethau a hefyd 30 mlynedd nol fe enillodd fedal aur, arian ac efydd ym Mhencampwriaethau'r byd i'r anabl fel nofiwr Paralympaidd. Mae ei stori yn anhygoel!
-
Teleri Wyn Davies.
09/03/2025 Duration: 50min" Mae bywyd yn rhy fyr" meddai Teleri Wyn Davies mewn cyfweliad arbennig gyda Beti George. " Mae beth sydd wedi digwydd i Dad wedi siapio fi, ac wedi neud i fi edrych ar fywyd mewn ffordd wahanol".Mae Teleri yn un o gyn-chwaraewyr tîm rygbi Cymru, ac wedi derbyn gwahoddiad i gael chwarae a hyfforddi’r gamp yn Tsieina. Mae hi'n byw yn ninas Shenzen sydd wedi ei lleoli yn ne-ddwyrain Tsieina, dinas gyda phoblogaeth o 17.5 miliwn sy’n cysylltu Hong Kong â'r tir mawr.Mae hi hefyd yn credu y byddai ei phenderfyniad wedi cael sêl bendith ei thad, Brian 'Yogi' Davies, a fu farw yn 56 oed - chwe blynedd ar ôl cael ei barlysu wrth chwarae ei gêm olaf i Glwb Rygbi'r Bala. Naw oed oedd Teleri ar y pryd, ac mae hi'n cofio'r diwrnod yn glir, ac yn trafod dylanwad ei thad a'i mam.Mae hi'n trafod rygbi merched ac yn rhannu straeon ei bywyd yn ogystal â dewis caneuon sydd wedi dylanwadu arni, gan gynnwys cân Mynediad am Ddim - Cofio dy Wyneb. Hon oedd y gân ar gyfer angladd Dad. "Mae jyst yn gân mor neis a mor agos i nghal
-
Gareth Parry
23/02/2025 Duration: 50minYr arlunydd o Flaenau Ffestiniog, Gareth Parry, yw gwestai Beti George. Magwyd yn y tŷ lle ganwyd ei Fam a’i Nain yn Manod, Blaenau Ffestiniog. Cawn hanesion difyr ei fagwraeth yn ogystal â'i hanes yn denig o Blaenau ar drên gyda'i ffrind ysgol am "fywyd gwell" yn Llundain a hynny yn ei arddegau. Wedi gadael ysgol, fe aeth i’r coleg celf ym Manceinion, cyfnod y mods a’r rocers a’r gerddoriaeth soul. O fewn dim amser, mi roedd y teimlad o gaethiwed yn ôl, rhyw deimlad fod o yn y carchar eto (fel roedd yn teimlo adre efo Dad) . Daeth y rebel allan ynddo ac wedyn daeth y dylanwadau o’r tu allan i’r coleg. Gadawodd y coleg a dod 'nôl i weithio yn y chwarel yn Blaenau. Dylanwadodd y naturiaethwr Ted Breeze arno, a bu'n gwerthu lluniau i'r cylchgrawn Country Life. Mae bellach yn gwerthu ei waith mewn orielau celf yn Llundain ac yng Nghymru.