Beti A'i Phobol

  • Author: Vários
  • Narrator: Vários
  • Publisher: Podcast
  • Duration: 481:03:23
  • More information

Informações:

Synopsis

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

Episodes

  • Dr Eilir Hughes

    11/08/2023 Duration: 50min

    Meddyg teulu a ddaeth i amlygrwydd reit o ddechrau’r pandemig gan iddo chwarae rhan mor bwysig wrth geisio rheoli'r Covid-19 yw gwestai Beti a'i Phobol, ac fe gafodd ei enwebu am ei waith ar gyfer un o wobrau Dewi Sant. Mae Dr Eilir Hughes yn gweithio fel meddyg teulu yn Nefyn, Gogledd Cymru.Mae'n gwerthuso meddygon teulu yn yr ardal a newydd ddechrau fel Cyfarwyddwr Meddygol gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.Sefydlodd ymgyrch Awyr Iach Cymru i hyrwyddo pwysigrwydd awyru a gwisgo masgiau i leihau'r risg o ledaenu a dal COVID-19. Daeth yn wyneb cyfarwydd ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y cyfnod. Sefydlodd raglen frechu yn y gymuned hefyd. Tŷ Doctor yn Nefyn oedd un o'r meddygfeydd cyntaf i frechu cleifion â'r brechlyn Pfizer.

  • Mared Rand Jones

    23/07/2023 Duration: 50min

    Gwestai Beti George yw Mared Rand Jones sydd wedi cychwyn ar ei rôl newydd fel Prif Weithredwr Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Cymru ers Ionawr 2023.Magwyd Mared ar fferm laeth, Llanfair Fach, Llanfair Clydogau, Llanbedr Pont Steffan.Mynychodd Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan ac yna Coleg y Drindod lle enillodd radd yn y Gymraeg ac Astudiaethau Theatr.Mae Mared yn mwynhau actio ac yn aelod o gwmni actio Theatr Felinfach ac yn actio’r cymeriad 'PC Wpsi Deisi' yn y pantomeim Nadolig blynyddol.

  • Cerys Hafana

    09/07/2023 Duration: 50min

    Mae Cerys Hafana yn gyfansoddwr ac aml-offerynnwr sy’n manglo a thrawsnewid cerddoriaeth draddodiadol. Mae ei cherddoriaeth yn chwarae efo posibiliadau unigryw’r delyn deires, gan gymryd ysbrydoliaeth o ddeunydd archifol a phrosesu electronig. Mae'n byw ym Machynlleth ac yn rhannu straeon am ei phlentyndod, ei dylanwadau cerddorol megis Nansi Richards, a Siân James. Mae'n trafod cerddoriaeth gwerin a'r feirniadaeth fu am ei gwaith a hefyd yn teimlo bod angen siarad mwy am rhywedd.

  • Dr Owain Rhys Hughes

    02/07/2023 Duration: 50min

    Gwestai Beti George ydi Dr Owain Rhys Hughes - llawfeddyg a pherchennog cwmni Cinapsis, meddalwedd sydd yn rhoi cymorth i feddygon a chleifion i gael diagnosis yn gynt. Wedi ei fagu ym Mhenmynydd ger Porthaethwy, aeth i Gaerdydd i astudio meddygaeth, a dewisodd fynd yn llawfeddyg gan ei fod yn mwynhau anatomi pan yn y Coleg. Yn ystod ei flwyddyn olaf yn y coleg cafodd y cyfle i fynd i weithio i Boston yn yr Unol Dalaethiau ar ôl cael cymrodoriaeth i Harvard. Mae'n mwynhau dringo yn ei amser sbâr.

  • Richard Hughes

    25/06/2023 Duration: 51min

    Arbenigwr ar gyfrifiaduron a mathemateg o Gaernarfon, Richard Hughes ydi gwestai Beti George. Mae'n raglennydd cyfrifiadureg, ac wedi gweithio ar systemau gweithredu ym meysydd awyr Heathrow a Charles de Gaulle. Mae wedi dysgu 10 o ieithoedd cyfrifiadurol, ac ati ac wedi ysgrifennu sawl rhaglen gyfrifiadurol ei hun. Bu'n gyrru lori, yn gwneud cyfrifiadur ar gyfer y ffilm Billion Dollar Brain efo Michael Caine yn y 60'au ac mae'n mwynhau chwarae'r ffliwt a dyfarnu snwcer, ac mae wedi ymgartrefu yn yr Almaen ers blynyddoedd.

  • Edward Morus Jones

    18/06/2023 Duration: 51min

    Edward Morus Jones yw gwestai Beti George yr wythnos hon. Mae'n trafod ei gartref fferm Eithin Fynydd yn Llanuwchllyn, ac yn hel atgofion am recordio Cwm Rhyd y Rhosyn gyda Dafydd Iwan a'r cyfnod yn canu gyda Mary Hopkin.Ers 40 mlynedd mae wedi bod yn ymwneud â Chymru a’r byd ac eleni, cafodd ei anrhydeddu gan y sefydliad Cymru gogledd America, sef medal am ei gyfraniad ar hyd y blynyddoedd. Bellach mae Edward wedi dechrau pennod newydd yn ei fywyd, wrth iddo rannu ei amser rhwng Llangristiolus ac yn Philadelphia.

  • Carwyn Graves

    11/06/2023 Duration: 50min

    Beti George yn sgwrsio gyda Carwyn Graves awdur a hanesydd bwyd Cymru. Carwyn yw awdur 'Afalau Cymru' a'r gyfrol o ysgrifau am fwyd 'Welsh Food Stories'. Mae Carwyn newydd gychwyn ar swydd newydd yng Nghanolfan Tir Glas, Llanbed sy'n fenter newydd sbon ar y cyd â’r Brifysgol yn Llanbed. Maent yn ceisio creu canolfan arloesol o gwmpas bwyd cynaliadwy. Ar hyn o bryd, mae’n bosib astudio bwyd os ydi rhywun yn awyddus i redeg tŷ bwyta neu astudio bwyd o safbwynt gwyddonol fel maetheg. Ond does dim cwrs wedi bod cyn hyn ar gyfer astudio bwyd o safbwynt diwylliannol. Sut mae tyfu bwyd ac adfer cymunedau – gweithio gyda’r sector amaeth. Mae cyrsiau fel hyn i’w cael yn yr Eidal – ond ddim ym Mhrydain.

  • Bethan Marlow

    04/06/2023 Duration: 50min

    Bethan Marlow, dramodydd sy'n sgwennu ar gyfer Theatr, Ffilm a Theledu, yw gwestai Beti George. Bethan yw'r dramodydd cyntaf i ddefnyddio arddull verbatim yn y Gymraeg, sef defnyddio geiriau go iawn pobol a'u troi yn ddramâu. Yn wreiddiol o bentref Bethel ger Caernarfon, bu Bethan yn byw yn Llundain, Caerdydd a Miami a bellach mae hi wedi ymgartrefu gyda Carolina a'r plant yn Lanzarote.Llun: Kristina Banholzer

  • Dafydd Hywel

    28/05/2023 Duration: 49min

    Fel teyrnged i’r diweddar Dafydd Hywel, dyma gyfuniad o ddwy raglen wnaeth Beti a'i Phobol recordio gyda'r actor yn 1984 a 2004.Yn wreiddiol o'r Garnant ger Rhydaman, bu'n actio ers y 1960au mewn cynyrchiadau Cymraeg a Saesneg ar lwyfan, ffilm a theledu.

  • Wil Rowlands

    21/05/2023 Duration: 50min

    Artist o Ynys Môn yw gwestai Beti George. Cawn ei hanes yn cwrdd â Andy Warhol a Johnny Cash ac mae o’n sôn am ei gyfeillgarwch â R.S Thomas – mae ganddo lyfr sydd yn llawn brasluniau wnaeth o R.S Thomas wrth drafod Duw a chantorion Opera Rwsieg yn ei stiwdio yng Nghemaes.

  • Betty Williams

    14/05/2023 Duration: 50min

    Beti George yn sgwrsio gyda Betty Williams Gwleidydd Llafur. Hi oedd Aelod Senedd y Deyrnas Unedig dros etholaeth Conwy o 1997 hyd 2010. Yn wreiddiol o Dalysarn, Dyffryn Nantlle. Mae hi'n rhannu straeon difyr ei bywyd ac yn dewis ambell gân.

  • Sioned Lewis

    07/05/2023 Duration: 51min

    Sioned Lewis, sy'n gwnselydd ac yn seicotherapydd, yw gwestai Beti a'i Phobol.Yn wreiddiol o Ddolwyddelan, bu'n gweithio mewn sawl maes gwahanol: yn gwerthu tai, yn y byd teledu a gyda Mudiad Ysgolion Meithrin. Yn 1999 gorfu i Sioned adael ei gwaith gan fod ganddi ganser y fron a bu'n gyfnod anodd ofnadwy iddi. Rhwng 1999- 2001 bu Sioned mewn ac allan o wahanol ysbytai. Sioned yw cwnselydd rhaglen Gwesty Aduniad.

  • Iola Ynyr

    30/04/2023 Duration: 50min

    Iola Ynyr, Cyfarwyddwr Creadigol ac Ysgrifenwraig yw gwestai Beti a'i Phobol. Byd y ddrama yw ei byd hi ac mae hi'n cynnal gweithdai ‘Ar y Dibyn’ sydd yn herio’r stereoteip o bobol sydd â dibyniaeth. Bu Iola’n dioddef o salwch meddwl - alcoholiaeth ac iselder ac mae hi'n trafod y cyfnod yma gyda Beti George.

  • Robat Idris

    23/04/2023 Duration: 50min

    Robat Idris Davies o Ynys Môn yw gwestai Beti George. Mae'n ymgyrchydd brwd, yn Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith, ac yn Is-Gadeirydd Cymdeithas y Cymod. Mae hefyd yn aelod o Orsedd Beirdd Ynys Môn, yn Gyfarwyddwr Cymdeithas Morisiaid Môn, ac yn aelod o Bwyllgor Gweithredol PAWB – Pobl Atal Wylfa B. Mae'n sôn am ei waith fel Milfeddyg ac am ei gyfnod yn Japan yn dilyn dinistr Fukushima.

  • Al Lewis

    09/04/2023 Duration: 50min

    Y canwr a'r cyfansoddwr Al Lewis sydd yn gwmni i Beti George. Yn wreiddiol o Bwllheli, fe ymddangosodd Al, a’i gyfaill oes Arwel (Gildas) am y tro gyntaf ar ein sgrins teledu yn canu ‘Llosgi’ ar Cân i Gymru. Ers hynny mae wedi rhyddhau pump albwm yn y Gymraeg a dwy albwm Saesneg. Mae'n trafod galar gyda Beti a sut y gwnaeth marwolaeth ei Dad yn ifanc newid cwrs ei fywyd. Mae hefyd yn sôn am ei gyfnod yn Nashville a Llundain.

  • Elin Angharad

    02/04/2023 Duration: 49min

    Crefftwraig lledr o ganolbarth Cymru yw Elin Angharad. Mae gwaith celf, dylunio a chreu wedi bod o ddiddordeb mawr iddi ers yn ifanc. Bu'n astudio cwrs 'Artist, Designer, Maker yn y Brifysgol yng Nghaerdydd, ac wedyn cychwyn busnes ei hun yn dylunio a chreu cynnyrch wedi ei wneud o ledr.

  • Delyth Morgan

    26/03/2023 Duration: 51min

    Delyth Morgan - actores, cyflwynydd a hyfforddwraig tîm rygbi merched Cymru dan 18 a 20 oed - sy'n gwmni i Beti George. Mae ganddi ddwy wlad mae hi'n galw'n gartref - Cymru a Seland Newydd. Fe aeth allan yno 20 mlynedd nôl, fe gafodd waith, priodi a bu'n datblygu rygbi merched. Mae hi nôl yng Nghymru gyda'i merch Seren, a rygbi yw ei byd mewn gwirionedd. Fe chwaraeodd dros Gymru a nawr mae hi'n rheoli tîm rygbi merched Cymru dan 18 ac 20 oed.

  • Berwyn Rowlands

    19/03/2023 Duration: 48min

    Berwyn Rowlands, y trefnydd a 'r cynhyrchydd yw gwestai Beti George, ac mae bellach yn adnabyddus am ei waith gyda Gwobrau Iris Gŵyl Ffilm LGBTQ+. Fe ddaw Berwyn yn wreiddiol o Ynys Môn, ac mae'n sôn am ddylanwad Ysgol Gynradd Llangoed ac Ysgol David Hughes, Porthaethwy arno. Mae mewn perthynas â Grant ers 34 mlynedd - a nhw oedd y cwpl cyntaf i gael partneriaeth sifil ar Ionawr 25ain 2006.

  • Pat Morgan

    12/03/2023 Duration: 51min

    Pat Morgan aelod allweddol o'r band eiconig Datblygu yw gwestai Beti a'i Phobol. "Mae'n magic fel mae hi'n gweithio" geiriau Dave Datblygu. Mae hi'n siarad am ei magwraeth yn y Ficerdy, dechrau grŵp pop Y Cymylau gyda'i chwaer, a'i chariad tuag at gerddoriaeth.

  • William Owen Roberts - Wil Garn

    05/03/2023 Duration: 50min

    Awdur nofelau Y Pla, Petrograd, Paris a Paradwys, i enwi ond rhai, yw gwestai Beti George, William Owen Roberts neu Wil Garn i lawer sydd yn ei adnabod. Mae'n trafod beth sydd yn ei ysgogi i ysgrifennu ac yn sôn am ei gyfnod yn y Coleg yn Aberystwyth lle bu'n rhannu tŷ gyda'r diweddar Iwan Llwyd. Mae hefyd yn trafod ei nofel ddiweddaraf Cymru Fydd.

page 6 from 32