Beti A'i Phobol

Siân Tesni

Informações:

Synopsis

Uwch-ymgynghorydd addysg i CBM yw Siân Tesni, sef elusen sy'n gweithio i drawsnewid bywydau pobl ag anableddau yn rhai o wledydd tlota'r byd.Mae gan bawb hawl i addysg, yn ôl Siân, a sicrhau chwarae teg i blant ag anableddau yw prif bwyslais ei gwaith.Yn ferch i bobydd, cafodd ei magu ym Mhencae ger Llanarth.Dechreuodd ymddiddori mewn byddardod pan oedd yn yr ysgol, a datblygodd y diddordeb wrth iddi hyfforddi fel athrawes.Yn 1989, enillodd ysgoloriaeth i ymchwilio i hawliau plant byddar yn Singapore, Papua Guinea Newydd ac Indonesia. Wedi gorffen yr ymchwil, dechreuodd weithio i CBM ym Mhapua Guinea Newydd, gan aros yno am saith mlynedd. Mae'n parhau i deithio'n helaeth gyda'i gwaith, ond yn mwynhau ochr ysgafn bywyd hefyd, yn enwedig mynd i gigs gyda'i mab.