Beti A'i Phobol

Rhys Mwyn

Informações:

Synopsis

Archeoleg, angerdd ac Anhrefn yw rhai o'r pynciau trafod wrth i Rhys Mwyn sgwrsio gyda Beti George.Un o Sir Drefaldwyn yw Rhys, a mae'n cael ei adnabod fel un sydd â dim ofn dweud ei farn a siarad yn ddi-flewyn-ar-dafod.Pan oedd yn ifanc, roedd yn teimlo nad oedd cerddoriaeth Gymraeg yn rhoi llais iddo fe a'i debyg.Cafodd ei ysbrydoli wrth wrando ar raglen radio John Peel, a chlywed grwpiau fel Sex Pistols, Delta 5 a'r Mekons.Daeth yn aelod o'r grŵp pync Cymraeg Anhrefn, cyn troi at reoli a hyrwyddo cerddorion.Yn golofnydd i'r Herald Cymraeg, mae hefyd wedi dychwelyd at ei bwnc gradd, sef archeoleg. Dyna ble mae hapusaf, yn cloddio gyda ffrindiau.