Beti A'i Phobol
Dylan Griffith
- Author: Vários
- Narrator: Vários
- Publisher: Podcast
- Duration: 0:48:44
- More information
Informações:
Synopsis
Amsterdam yw cartref Dylan Griffith, ers iddo gael cynnig swydd gydag MTV yn y ddinas.Mae'n dychwelyd i Gymru yn aml, gan hiraethu am ei mynyddoedd.Teipograffeg, brandio a hyrwyddo yw ei gefndir, a fe oedd yn gyfrifol am ailfrandio S4C yn 2006.Treuliodd flwyddyn yn teithio'r byd gyda ffrindiau ar ôl graddio, gan greu cyfres o raglenni am y profiad. Mae wedi teithio'n helaeth ers hynny hefyd, gan fyw yn Awstralia am gyfnod, a chael ei daflu allan o Tibet.Mae bellach yn gydberchennog cwmni Smörgåsbord, sydd â swyddfeydd yng Nghaerdydd ac Amsterdam. Mae'n disgrifio'r cwmni fel stiwdio syniadau, ac yn gweithio gyda Croeso Cymru ymhlith eraill.