Beti A'i Phobol
Osian Williams
- Author: Vários
- Narrator: Vários
- Publisher: Podcast
- Duration: 0:46:35
- More information
Informações:
Synopsis
Ers pan oedd yn ifanc, roedd Osian Williams yn gwybod mai cerddor yr oedd am fod. Mae'n teimlo mai dyna'r unig beth y gallai fod wedi ei wneud.Cafodd ei fagu ar aelwyd gerddorol yn Llanuwchllyn, gan ddysgu gan ei dad sut i chwarae'r drymiau a'r gitâr. Roedd ei dad yn un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Maldwyn, a sioeau cerdd y cwmni yn rhan o fagwraeth Osian.Astudiodd mewn coleg cerdd yn Lerpwl, gan adael ar ôl tymor. Doedd e ddim yn gyfforddus yno, nag yn barod i astudio bryd hynny. Wedi gweithio am gwpl o flynyddoedd, aeth i Brifysgol Bangor, gan gwblhau gradd a gradd meistr.Enillodd Dlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau yn 2015, a mae wedi trefnu cerddoriaeth ar gyfer rhai o gyngherddau'r brifwyl, gan gynnwys un Geraint Jarman yn 2018.Mae Osian yn adnabyddus fel prif leisydd y grŵp Candelas, ond fe oedd y drymiwr yn wreiddiol, gan taw'r drymiau oedd ei gariad cyntaf.