Beti A'i Phobol
Hywel Davies
- Author: Vários
- Narrator: Vários
- Publisher: Podcast
- Duration: 0:50:40
- More information
Informações:
Synopsis
Beti George yn holi Hywel Davies.Wedi'i eni ym Mhontarddulais, symudodd y teulu i'r gogledd-ddwyrain pan oedd ond yn 18 mis oed, cyn symud yn ôl i'r de flynyddoedd yn ddiweddarach.Ar ôl blynyddoedd o fod yn newyddiadurwr yng Nghymru, gan gynnwys gweithio i HTV yng Nghaerdydd, symudodd i America. O'r wlad honno y daw ei wraig, Charlotte, ond roedd hi wedi dysgu Cymraeg cyn i'r ddau gwrdd.Yn ôl yng Nghymru, symudodd y teulu i Dreforys, ac roedd ei waith teledu'n cynnwys Hel Straeon.Yn 2007, dechreuodd gyhoeddi Y Papur Gwyrdd, sydd bellach yn wefan. Gyda chymorth Charlotte, tynnu sylw at honiadau difrifol gwyddonwyr ynghylch peryglon i'r Ddaear yw'r nod.