Beti A'i Phobol

Wyn Bowen Harries

Informações:

Synopsis

Beti George yn sgwrsio gyda'r actor Wyn Bowen Harries.Wrth astudio biocemeg yn Aberystwyth, roedd yn treulio llawer iawn o'i amser yn Theatr y Werin, ac aeth i'r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd i ddilyn cwrs ôl-radd.Gyda dyfodiad S4C, daeth yn wyneb cyfarwydd i wylwyr y sianel. Mae ei waith ar hyd y blynyddoedd yn cynnwys rhannau yn Dinas, Rownd a Rownd, Pengelli a 35 Diwrnod, ond y ffilm Gadael Lenin yw uchafbwynt ei yrfa.Yn fwy diweddar, dilynodd gwrs MA mewn Rheolaeth Amgylcheddol Gynaliadwy, gan arwain at sefydlu Pendraw - cwmni sy'n ceisio cyfuno profiadau theatrig gyda hanes a gwyddoniaeth.