Beti A'i Phobol

Huw Penallt Jones

Informações:

Synopsis

Mae Huw Penallt Jones wedi dychwelyd at ei wreiddiau ar ôl gyrfa amrywiol a llwyddiannus yn y diwydiant ffilmiau.Cafodd gwrdd â rhai o sêr Hollywood, yn ogystal â James Bond, ac mae ganddo fwy nag un stori ogleisiol am hwn a'r llall.Roedd yn byw ger y ffin â Mecsico am gyfnod, ond mae bellach yn darlithio ym Mhrifysgol Aberystwyth ac ar fin newid cyfeiriad yn gyfan gwbl.