Beti A'i Phobol

  • Author: Vários
  • Narrator: Vários
  • Publisher: Podcast
  • Duration: 467:31:12
  • More information

Informações:

Synopsis

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

Episodes

  • Matt Spry

    26/11/2020 Duration: 48min

    Beti George yn sgwrsio gyda Dysgwr y Flwyddyn 2018, Matt Spry, o Aberplym (Plymouth) yn wreiddiol a chawn ei hanes yn dysgu'r Gymraeg, ei waith gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches ac hefyd ei frwydr ag iselder meddwl.

  • Aneurin Rhys Hughes

    20/11/2020 Duration: 36min

    Yn dilyn marwolaeth Aneurin Rhys Hughes, a oedd yn ei dro yn llysgennad Yr Undeb Ewropeaidd i Norwy a hefyd i Awstralia, ym mis Mawrth, dyma gyfle i ail glywed y sgwrs gafodd e gyda Beti George yn 1991.

  • Catrin Ellis Williams

    20/11/2020 Duration: 48min

    Beti George yn sgwrsio gyda'r meddyg teulu Catrin Elis Williams, fydd yn trafod Covid 19, ei chefndir cerddorol ac hefyd yn son am awtistiaeth ei mab Daniel.

  • Cai Wilshaw

    20/11/2020 Duration: 49min

    Beti George yn sgwrsio gyda'r sylwebydd gwleidyddol Cai Wilshaw, lle mae'n sôn am ei ddyddiau ym Mhrifysgol Rhydychen, ei waith gyda "The Economist" a "Pink News", a'i gyfnod yn gweithio yn swyddfa Nancy Pelosi yn Washington DC.

  • Gethin Rhys

    20/11/2020 Duration: 49min

    Beti George yn sgwrsio gyda'r Parchedig Gethin Rhys o Gaerdydd sydd yn gweithio gyda mudiad Cytûn. Cawn hanes ei gyfnod ym Mhrifysgol Rhydychen, yn gofalu am Goleg Trefeca ac yn gweinidogaethu ym Mhen-rhys.

  • Owen Evans

    20/11/2020 Duration: 49min

    Gwestai Beti'r wythnos hon yw Prif Weithredwr S4C, Owen Evans. Mae'n sôn am ei fagwraeth yn Aberystwyth, ei ysfa i weithio o oedran ifanc ac ar wahân i helyntion S4C cawn hanes ei yrfa faith o fod yn ddarlithydd mewn Astudiaethau Busnes i werthu cotwm ar draws y byd.

  • 22/03/2020

    19/11/2020 Duration: 47min

    Beti George yn sgwrsio gyda'r Dr Radha Nair Roberts sydd yn niwro-wyddonydd o Singapore yn wreiddiol, ac erbyn hyn yn dioddef o Sglerosis Ymledol. Yma mae hi'n sôn am ei chefndir diddorol, ei gwaith ymchwil mewn i'r cyflwr niwrolegol Alzheimer's ac am ei chariad tuag at ei theulu a Chymru, ei gwlad fabwysiedig.

  • Rhys Jones

    27/04/2020 Duration: 47min

    Beti George yn sgwrsio gyda'r Athro Rhys Jones o Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Aberystwyth. Cawn wybod am y "Plynlumon Man", yr ymchwil gan y Brifysgol i mewn i borthladdoedd Cymru, a hefyd, beth yn union yw'r Fro Gymraeg?

  • Sian Stephen

    25/04/2020 Duration: 51min

    Yr ymgyrchydd gyda Gwrthryfel Difodiant Sian Stephen sy'n sgwrsio gyda Beti George am ei phryderon ynglyn â newid hinsawdd. Mae hefyd yn sôn am ei chyfnod yn gweithio ym Mrwsel, ac yna yn Guatemala a Colombia.

  • Lleuwen Steffan

    05/03/2020 Duration: 49min

    Beti George yn holi'r gantores Lleuwen Steffan am ei bywyd a'i cherddoriaeth. Mae Lleuwen hefyd yn sôn am y gyfrinach mae hi wedi ei gadw yn dawel ers amser maith ac am ei phenderfyniad i ddychwelyd i Lydaw i fyw.

  • Alis Hawkins

    03/03/2020 Duration: 48min

    Beti George yn sgwrsio'r gyda'r awdures Eingl Gymreig Alis Hawkins, gan drafod ei nofelau a'u cefndir Cymraeg, ei phlentyndod yng Nghwm Cou, ei haddysg yn Aberteifi a Rhydychen a'r broses hir o gael llyfr wedi ei gyhoeddi.

  • Non Williams

    28/02/2020 Duration: 45min

    Mae'r gantores Non Williams, yn sgwrsio gyda Beti George am ei iselder, am anhwylder ei gwr Iwan, ac am ddychwelyd i'r llwyfan gyda'r grŵp Eden.

  • Yr Athro Aled Rees

    21/02/2020 Duration: 43min

    Mae Beti George yn cael cwmni'r Athro Ddoctor Aled Rees, sy'n Athro Endocrinoleg yn yr Adran Newro Wyddorau a Sefydliad Ymchwil Iechyd Meddwl, Caerdydd. Mae'n rhannu ei amser rhwng gwaith academaidd, ymchwil a gwaith meddygol.

  • Lowri Gwilym (14/03/2010)

    20/02/2020 Duration: 34min

    Cynhyrchydd gwreiddiol Beti a'i Phobol, y diweddar Lowri Gwilym, yn sgwrsio gyda Beti George.Darlledwyd y sgwrs ar y 14eg o Fawrth 2010.

  • Elinor Snowsill

    02/02/2020 Duration: 55min

    Ar ddechrau pencampwriaeth y Chwe Gwlad ,y chwaraewraig rygbi Elinor Snowsill sydd yn cadw cwmni i Beti George yr wythnos hon.

  • John Gwyn Jones

    26/01/2020 Duration: 46min

    Prif Weithredwr grŵp o ysgolion yn y Dwyrain Canol a brodor o Frynaman Ucha, John Gwyn Jones, sy'n sgwrsio gyda Beti George.

  • Elinor Wyn Reynolds

    19/01/2020 Duration: 45min

    Yr awdur Elinor Wyn Reynolds, sydd hefyd yn gweithio i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, sy'n sgwrsio gyda Beti George. Author Elinor Wyn Reynolds chats to Beti George.

  • Mary Lloyd Jones

    09/01/2020 Duration: 46min

    Yr artist Mary Lloyd Jones sy'n sgwrsio gyda Beti George. Artist Mary Lloyd Jones chats to Beti George.

  • Martyn Johnes

    05/01/2020 Duration: 43min

    Mae'r Athro Martin Johnes yn dysgu yn Adran Hanes Prifysgol Abertawe, gan arbenigo ar hanes Cymru Gyfoes a hanes chwaraeon.Y cwestiwn o hunaniaeth sy'n ganolog i'w ymchwil, a'i brif ddiddordeb yw sut mae pobol yn meddwl am eu hunain ac am eu lle yn y byd.

  • Ann Evans

    25/11/2019 Duration: 48min

    Y rhedwr marathonau ultra Ann Evans sy'n sgwrsio gyda Beti George. Ultra marathon runner Ann Evans chats to Beti George.

page 12 from 32