Synopsis
Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people
Episodes
-
Anna Jane Evans
23/12/2020 Duration: 46minY Parchedig Anna Jane Evans yw gwestai Beti George. Cawn gyfle i ddysgu am ei phrofiad o weithio i elusen Cymorth Cristnogol am dros ugain mlynedd, lle cafodd hi'r cyfle i ymweld â gwledydd fel Bangladesh a Sierra Leone. Mae hi hefyd yn sôn am ei phrofiad o gael ei hordeinio yn weinidog yn ystod y Cyfnod Clo.
-
Tegwen Ellis
23/12/2020 Duration: 48minGwestai Beti George yw Prif Weithredwr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru, Tegwen Ellis. Yn wreiddiol o'r Barri cafodd ei phenodi yn bennaeth Ysgol Cynwyd Sant, Maesteg cyn symud mlaen i'w swydd newydd yn cynghori penaethiaid yn y byd addysg.
-
Aran Jones
23/12/2020 Duration: 49minGwestai Beti George yw sylfaenydd Say Something in Welsh sef Aran Jones. Mae'n sôn am ei blentyndod yn teithio'r byd gyda'i deulu, ei addysg mewn ysgolion preswyl ac am gyfnod anodd yn ei fywyd. Mae e hefyd yn sôn am ei ddeffroad ieithyddol, ei wreiddiau Cymraeg ac am lwyddiant Say Something In Welsh.
-
Carl Morris
23/12/2020 Duration: 47minBeti George yn sgwrsio gyda Carl Morris sydd yn arbenigwr ar y We ac yn ymgyrchydd dros yr iaith Gymraeg, ac sydd am weld Cymru yn symud ymlaen yn yr oes ddigidol. Wedi ei eni yn Slough, mae e'n sôn am ei gefndir Tseiniaidd, ei gariad at gerddoriaeth ac am ei waith fel DJ.
-
Dr Bleddyn Bowen
23/12/2020 Duration: 49minGwestai Beti George yw'r arbenigwr ar Wleidyddiaeth y Gofod, Dr Bleddyn Bowen o Brifysgol Caerlŷr. Yn wreiddiol o Landysul mae'n son am sylfeini ei ddiddordeb yn ei bwnc, pwy yw'r pwerau mawr yng ngwleidyddiaeth y Gofod a lle mae rôl Cymru yn hyn. Cawn hefyd glywed rhai o ddarnau cerddorol ei hoff gemau cyfrifiadurol.
-
Dr Nia Williams
23/12/2020 Duration: 49minBeti George yn sgwrsio gyda'r seicolegydd plant Dr Nia Williams o Brifysgol Bangor. Mae'r sgwrs yn sôn am ei magwraeth fel "How Get" ym Methesda, ei phrofiad yn byw gyda dyslecsia, teithio'r byd a nofio gydag Orcas yn y gwyllt.
-
Jeremy Miles
04/12/2020 Duration: 49minBeti yn sgwrsio gyda Chwnsler Cyffredinol Cymru a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, Jeremy Miles.Cawn hanes ei fagwraeth ym Mhontarddulais, ei gyfnod ym Mhrifysgol Rhydychen a'i waith fel cyfreithiwr cyn troi at wleidyddiaeth.
-
Ena Thomas
04/12/2020 Duration: 37minYn dilyn marwolaeth y gogyddes Ena Thomas yn gynharach eleni, cyfle arall i wrando ar ei chyfweliad gyda Beti George yn 1996.
-
Andrew 'Tommo' Thomas
04/12/2020 Duration: 46minYn dilyn marwolaeth yr unigryw Andrew "Tommo" Thomas cyfle arall i wrando ar ei gyfweliad gyda Beti George yn 2016. Mae Tommo'n sôn am ei blentyndod yn Aberteifi ac am ei yrfa fel DJ a darlledwr. Cewch glywed am ei frwydr yn erbyn salwch ond hefyd am ei gred bod angen edrych ar yr ochr bositif trwy'r amser.
-
Chris Needs a Margaret Rose
04/12/2020 Duration: 33minYn dilyn marwolaeth y darlledwr Chris Needs fis dwetha, dyma gyfle i ail glywed sgwrs rhyngddo fe, ei fam Margaret Rose a Beti George nol yn 1997 ar ol i Chris ddechrau fel cyflwynydd gyda Radio Cymru. Cawn glywed am ei fagwraeth yng Nghwmafan, ei yrfa fel pianydd llwyddiannus yn chwarae gyda chantorion enwog fel Bonnie Tyler a Shirley Bassey ac hefyd am ei lwyddiant fel darlledwr poblogaidd.
-
Siôn Eirian
04/12/2020 Duration: 33minBeti George yn sgwrsio gyda'r Prifardd a'r dramodydd Sïon Eirian a fu farw yn gynharach eleni. Yn fab i'r Parchedig Eirian Davies a'i wraig Jennie Eirian Davies, mae'n sôn am ei fagwraeth, ei dueddiad i fod yn rebel, ac wrth gwrs ei waith anhygoel fel dramodydd a bardd. Fe ddarlledwyd y rhaglen gynta yn1991.
-
Manon Williams
01/12/2020 Duration: 47minGwestai Beti George yw Manon Williams sydd yn fetron yn Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd a hefyd yn Adran Gancr Ysbyty Glan Clwyd. Cawn glywed am ei phrofiadau ers iddi ddechrau fel nyrs yn 1984, ac wrth gwrs am ei phrofiadau ers cychwyn Covid 19.
-
Aled Davies
01/12/2020 Duration: 47minBeti George yn sgwrsio gydag Aled Davies, dyn busnes o'r Dryslwyn a sefydlodd busnes o'r enw Pruex. Mae'r busnes yn creu bacteria naturiol allan o bridd er mwyn cadw ein hanifeiliaid yn iach ac adeiladu imiwnedd naturiol ynddyn nhw, i leihau gorddibyniaeth ar feddyginiaethau gwrthfiotig, a hynny yn y pendraw hefyd yn ein helpu ni fel pobl i gadw'n iach.
-
Aled Roberts
01/12/2020 Duration: 47minCyfle i glywed sgwrs o 2020 gyda'r diweddar Aled Roberts, fu'n Gomisiynydd y Gymraeg. O hanes ei fagwraeth yn Rhosllannerchrugog, i'w waith fel cyfreithiwr cyn cael ei ddewis yn Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru.
-
Ann Griffith
01/12/2020 Duration: 47minBeti George yn sgwrsio gyda'r ymgyrchydd Ann Griffith o Washington DC, un sydd yn wreiddiol o Aberystwyth ond wedi byw mewn mannau fel Lesotho, Sri Lanka, India a Bolifia. Mae hi'n sôn am ei magwraeth Gristnogol, ei phrofiadau yn byw yn y gwahanol wledydd, ei gwaith yn ymgyrchu, a'i barn am yr hyn sydd yn digwydd yn wleidyddol ac yn gymdeithasol yn yr Unol Daleithiau.
-
Tedi Millward
01/12/2020 Duration: 33minCyfle i wrando eto ar sgwrs rhwng Beti George a'r ysgolhaig, Yr Athro Tedi Millward a fu farw yn gynharach eleni. Yn y rhaglen mae e'n sôn am ei fagwraeth yng Nghaerdydd ac am ddylanwad yr athro Elvet Thomas arno i ddysgu'r Gymraeg. Cawn hanes dechreuad Cymdeithas yr Iaith a hefyd ei waith fel tiwtor personol i Dywysog Cymru cyn iddo gael ei Arwisgo nôl yn 1969.
-
Robert Llewellyn Tyler
30/11/2020 Duration: 48minYr hanesydd teithiol Robert Llewellyn Tyler yw gwestai Beti George yr wythnos hon, sydd erbyn hyn yn gweithio ac yn byw yn Abu Dhabi. Mae e'n sôn am ei faes arbenigol, sef y Cymry alltud mewn gwledydd fel yr Unol Daleithiau ag Awstralia, ac hefyd yn sôn am ei brofiadau mewn gwledydd fel Siapan, Saudi Arabia ac Bosnia a Herzegovina.
-
Sian Reese-Williams
29/11/2020 Duration: 46minGwestai Beti yw'r actores, Sian Reese-Williams sy'n portreadu'r Ditectif Cadi John yn y gyfres Craith. Yma mae hi'n son am ei magwraeth yn Aberhonddu, ei gyrfa wrth ymddangos mewn cyfresi fel Emmerdale a'r Gwyll ac yn trafod marwolaeth ei brawd Llŷr llynedd.
-
Patrick Rimes
28/11/2020 Duration: 49minBeti George yn sgwrsio gyda'r cerddor Patrick Rimes. Mae e'n sôn am ei fagwraeth ym Methesda ac am gwrdd â'i dad am y tro cyntaf pan oedd yn dair ar ddeg oed. Cawn wybod am ei sylfeini cerddorol ac am ei ddylanwadau cerddorol ac wrth gwrs hanes sefydlu'r band gwerin Calan. Mae e hefyd yn sôn am helpu ei fam gyda'i busnes gwneud caws dafad yn ystod cyfnod Covid 19.
-
Robin Anderson
27/11/2020 Duration: 45minBeti George yn holi Prif Weithredwr Cwmni Aspen Healthcare, Rob Anderson, am ei fagwraeth a'i addysg yng Nghaerdydd, gan gynnwys mai ei dad oedd un o'r meddygon cyntaf i gyrraedd y trychineb yn Aberfan.Mae Rob hefyd yn trafod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac ysbytai preifat, a sut mae'r ddau yn delio gyda Cofid-19.