Synopsis
Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people
Episodes
-
Dr Robin Parry
28/11/2021 Duration: 51minDr Robin Parry, meddyg teulu yn Llanberis am dros 30 mlynedd ydi gwestai Beti George. Ei gariad cyntaf yw pysgota ac mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y Torgoch sy'n byw yn Llyn Padarn. Mae newydd ymddeol ac yn sôn am ei gyfnod yn hyfforddi ym Manceinion ac yn trafod yr heriau mae meddygon wedi ei wynebu yn ystod y pandenig. Mae'n rhannu straeon a phrofiadau personol, yn ogystal â dewis ambell i gân sydd wedi creu argraff, o Edward H i ganeuon Opera Eidalaidd.
-
Steffan Huws
21/11/2021 Duration: 54minBeti George yn sgwrsio gyda pherchennog Poblado Coffi, Steffan Huws. Cawn glywed am ei fagwraeth ym Mhontypridd, ei hanes yn dysgu Saesneg yn Nhaiwan a Colombia lle bu yng nghanol achos hunllefus o herwgipio a'i fusnes yn Ddyffryn Nantlle sydd yn rhostio coffi. Mae Steffan hefyd yn rhannu straeon rif y gwlith ac yn dewis ambell i gân sydd wedi creu argraff.
-
Elin Llwyd Morgan
07/11/2021 Duration: 54minMae Beti George yn sgwrsio gydag Elin Llwyd Morgan am ei gyrfa fel newyddiadurwraig, cyfarfod Peris ei chymar a sut wnaeth ei bywyd newid pam symudodd i Glyn Ceiriog i fyw a phan ddaeth ei mab Joel i'r byd. Mae hi'n sôn am ei magwraeth, ei hoffter o nofio yn y môr ac yn rhannu ei phrofiadau personol o fagu mab sydd ag awtistiaeth. Mae hi hefyd yn dewis ambell i gân sydd wedi creu argraff.
-
Dr Paula Roberts
31/10/2021 Duration: 54minBeti George yn sgwrsio gydag Dr Paula Roberts sydd wedi treulio amser yn yr Arctig ac Antartica, ac wedi seiclo yn yr Himalayas a Uzbekistan.
-
Philippa Gibson
24/10/2021 Duration: 51minPhilippa Gibson sydd yn sgwrsio gyda Beti George, merch o Fryste sydd wedi setlo yn Llanrgannog ac yn gwneud llawer o waith yn ei chymuned. Mae hi hefyd yn fardd yn diwtor iaith ac yn blymar ac yn ymgyrchu dros newid hinsawdd.
-
Yr Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd.
13/09/2021 Duration: 47minCyn i'r Eisteddfod AmGen ddechrau, mae Beti George yn sgwrsio gyda'r Archdderwydd Myrddin Ap Dafydd am ei gefndir a'i ddylanwadau cynnar yn Llanrwst, ac am ei natur o fentergarwch.
-
Dylan Rhys Jones
12/09/2021 Duration: 50minBeti George yn sgwrsio gyda'r cyn-gyfreithiwr troseddol, Dylan Rhys Jones.Dylan yw awdur y llyfr "The Man in Black" sydd yn sôn am brofiadau Dylan o fod yn gyfreithiwr amddiffynnol i'r llofrudd Peter Moore ynghanol nawdegau'r ganrif ddiwethaf.
-
Andria Doherty
11/09/2021 Duration: 46minGwestai Beti George yw'r actores Andria Doherty, ddaeth i'r amlwg yn y gyfres "It's a Sin" fel y cymeriad Eileen Morris-Jones. Cawn ei hanes cynnar yng Nghwm Tawe ac am ei gwaith fel nyrs cyn i salwch ei tharo a golygu bod hi'n newid cyfeiriad o ran gyrfa.
-
D. L. Davies
10/09/2021 Duration: 49minBeti George yn sgwrsio gydag un o frodorion Cwm Cynon, yr hanesydd a'r athro Cymraeg, D. L. Davies. Cawn hanes ei blentyndod fel un o blant cyntaf yr Ysgol Gymraeg yn Aberdâr, a hefyd ei brofiad fel athro Cymraeg Ail Iaith am dros chwarter canrif yn Ysgol Uwchradd Afon Taf.
-
Llinos Medi Huws
10/09/2021 Duration: 49minGwestai Beti George yw Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Y Cynghorydd Llinos Medi Huws. Cawn gyfle i glywed am ei magwraeth ar fferm fach Ffleicws ger Llanddona, ac am gyfnodau heriol wrth iddi dyfu fyny.
-
Tomos Grace
10/09/2021 Duration: 49minBeti George yn sgwrsio â Tomos Grace, Pennaeth cynnwys Chwaraeon Youtube yn Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica.
-
Owain Fôn Williams
10/09/2021 Duration: 49minGwestai Beti George ar ddechrau Cystadleuaeth yr Ewro's yw'r gôl-geidwad ac un o garfan tîm llwyddiannus Cymru yn Ewros 2016, Owain Fôn Williams.
-
Paul Sambrook
10/09/2021 Duration: 50minGwestai Beti yr wythnos hon yw'r archeolegydd Paul Sambrook o Gastell-Nedd sydd yn sôn am ei fagwraeth yn y dre ac am gyfnod yng Nghanada, cyn darganfod y Gymraeg yn ei arddegau hwyr.
-
Maxine Hughes
10/09/2021 Duration: 48minGwestai Beti George yw'r newyddiadurwraig Maxine Hughes, o Gonwy yn wreiddiol ond nawr yn byw yn Washington DC. Cawn glywed am ei phrofiadau fel newyddiadurwraig yn Nhwrci ac yn gohebu ar farwolaeth George Floyd yn yr Unol Daleithiau.
-
Sara Yassine
10/09/2021 Duration: 48minFel rhan o Tafwyl, mae Beti George yn holi'r ferch ifanc o Gaerdydd Sara Yassine lle mae hi'n sôn am dyfu fyny fel merch Mwslemaidd Gymraeg yn y brifddinas.
-
Llinos Elin Owen
10/09/2021 Duration: 48minGwestai Beti yw'r baswnydd Llinos Elin Owen, sydd yn Brif Faswnydd i Symffonia'r Ballet Brenhinol yn Birmingham. Mae hi'n sôn am y ddamwain cafodd hi yn 2009 a newidiodd ei bywyd yn llwyr. Erbyn hyn mae hi'n ceufadu (kayaking) i dîm Paralympaidd Prydain.
-
Jên Angharad
27/05/2021 Duration: 49minY ddawnswraig egniol Jên Angharad yw gwestai Beti George. Mae hi'n son am ei chyflwyniad i'r iaith Gymraeg ac am ddylanwad anferthol ei hathrawes yn Ysgol Morgan Llwyd, Gwawr Davies tuag at y gyrfa mae hi'n dilyn heddiw.
-
Jeremy Vaughan, Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru
26/05/2021 Duration: 50minBeti George yn sgwrsio gyda Phrif Gwnstabl Heddlu De Cymru Jeremy Vaughan am ei fagwraeth yn Nolgellau, a'i yrfa yn yr heddlu. Mae hefyd yn trafod y gwaith mae wedi ei wneud yn hybu'r iaith Gymraeg gyda Heddlu De Cymru.
-
Rhys Patchell
25/05/2021 Duration: 50minBeti George yn sgwrsio gyda'r chwaraewr rygbi rhyngwladol Rhys Patchell, sy'n trafod ei ddylanwadau cynnar, a'i ddyfalbarhad a'i alluogodd i wireddu ei freuddwyd o gynrychioli ei wlad ar y maes rygbi.