Synopsis
Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people
Episodes
-
Llinos Dafydd
19/05/2019 Duration: 47minBeti George yn sgwrsio gyda Llinos Dafydd, sy'n cyfuno gwaith fel cyfieithydd, golygydd, newyddiadurwraig a ffotograffydd.Mae'n disgrifio ei magwraeth fel un ddelfrydol, yn llawn bwrlwm y Clwb Ffermwyr Ifanc a chymeriadau diddorol.Newidiodd ei bywyd pan oedd yn ei harddegau, o ganlyniad i gael ei threisio, a mae'n sôn wrth Beti am fyw gyda'r ôl-effeithiau.Gydag ysgrifennu wedi bod yn rhan o'i bywyd erioed, arweiniodd hynny at swydd gyda chylchgrawn Golwg wedi gadael yr ysgol.Mae'n cyfuno sawl swydd bellach, gan gynnwys arwain prosiect i gyhoeddi e-gylchgrawn Cymraeg ar gyfer merched ifanc, sef Lysh. Mae'r dull yma o weithio'n caniatáu iddi aros yn ei hardal enedigol, ac i fagu teulu yno, sydd yn hollbwysig iddi.
-
Dylan Huws
14/05/2019 Duration: 52minBeti George yn sgwrsio gyda Dylan Huws, Rheolwr-Gyfarwyddwr Cwmni Da.Celf oedd yn mynd â'i fryd yn yr ysgol, a mae'n cofio'r bwrlwm a'r cyffro wrth astudio'r pwnc yn Lerpwl ddiwedd y 70au.Darlithiodd mewn celf am rai blynyddoedd, cyn cael cynnig swydd gyda chwmni teledu, a bwrw ei brentisiaeth ar y gyfres Hel Straeon.Yn un o sylfaenwyr Cwmni Da, yn ddiweddar daeth y cwmni i fod yn un sydd ym mherchenogaeth ei weithwyr.Mae'n trafod pwysigrwydd gwrando ar eich greddf, rhedeg, Deian a Loli, a her cystadlu'n y farchnad deledu ryngwladol.
-
Catrin Williams
05/05/2019 Duration: 45minMae'r artist Catrin Williams wedi'i disgrifio fel chwa o awyr iach yn y byd celfyddydol, oherwydd ei defnydd o liw; serch hynny, mae pobl yn prynu ei gwaith yn parhau i'w synnu.Cafodd ei magu ar fferm ger Y Bala, ac mae'r profiad o fyw yng Nghymru wedi dylanwadu'n fawr ar ei chelf.Astudiodd ym Mangor gyda'r arlunydd Peter Prendergast, ac yna yng Nghaerdydd.Ar daith i Baris fel myfyriwr, gwelodd arddangosfa o waith Matisse. Cafodd ei hysbrydoli, a mae'n dweud iddi ddarganfod ei harddull ei hun fel artist o ganlyniad.Paentio mae hi gan fwyaf, ond mae hefyd yn gweithio gyda chyfryngau a deunyddiau amrywiol, ac yn hen law ar gynnal gweithdai celf ar hyd a lled Cymru.Mae'n sgwrsio gyda Beti am orfod creu, teithio gydag Anhrefn, ac am bwysigrwydd cerddoriaeth.
-
Llion Pughe
28/04/2019 Duration: 45minUn sy'n fodlon mentro, ac yn fodlon methu, yw'r dyn busnes Llion Pughe.Wedi ei fagu yng Nghwm Ystwyth ac ym Mro Ddyfi, mae'n credu bod sefydlu busnesau lleol yn ddull o gadw gwaith a grym yng nghefn gwlad Cymru.Astudiodd Gymraeg a Thwristiaeth cyn gweithio i Menter a Busnes, ac yna fel swyddog marchnata i Brifysgol Caerdydd.Roedd yn benderfynol o ddychwelyd i Fro Ddyfi, a mae wedi sefydlu sawl busnes er mwyn galluogi hynny.Mae'r gwaith yn anodd ar adegau, ac ambell syniad yn aflwyddiannus, ond mae'n mwynhau'r heriau, ac yn parhau i fwynhau datblygu syniadau newydd.
-
Ifana Savill
14/04/2019 Duration: 48minMenyw ei milltir sgwâr yw Ifana Savill, wedi dychwelyd i fyw yn y pentref lle cafodd ei magu.Mae chwe chenhedlaeth o'r teulu wedi byw ym Mlaenpennal ger Tregaron, a mae'n sôn wrth Beti am hanes rhai ohonynt.Pan oedd yn ifanc, roedd wrth ei bodd yn darllen, a byddai wedi hoffi astudio celf, ond hyfforddi fel athrawes wnaeth hi'n y pen draw.Un diwrnod yn unig y parodd ei gyrfa fel athrawes. Roedd yn gwybod yn syth iddi wneud camgymeriad, a fe drodd yn lle hynny at lenyddiaeth ac ysgrifennu.Cafodd foment o ysbrydoliaeth wrth sgwennu rhaglenni ar gyfer S4C, sef i ddefnyddio rhai o gymeriadau enwog yr awdur Mary Vaughan Jones ar gyfer cyfres deledu newydd o'r enw Caffi Sali Mali.Daeth rhan o gartre'r teulu'n set ar gyfer Pentre Bach, ac er bod y gyfres honno wedi dod i ben, mae Ifana a'i gŵr wedi troi Pentre Bach yn bentref gwyliau.
-
Paul Flynn
11/04/2019 Duration: 36minBeti George yn holi'r Aelod Seneddol Paul Flynn yn 1995. Beti George's interview with Paul Flynn MP in 1995.
-
Siân Grigg
31/03/2019 Duration: 45minYn ei harddegau, roedd Siân Grigg yn bendant nad oedd am ddilyn ei mham, a oedd yn golurydd gyda'r BBC.Aeth i goleg celf gyda'r bwriad o fod yn artist, ond sylweddolodd nad oedd yn mwynhau gweithio ar ei phen ei hun mewn stiwdio.Cafodd hyfforddiant fel colurydd, gan ddechrau gweithio ar raglenni teledu a ffilmiau.Wrth weithio ar y ffilm Titanic yn 1996, cwrddodd â Leonardo DiCaprio, a Siân sy'n gwneud colur yr actor ar gyfer pob ffilm ers hynny.Mae'n sôn wrth Beti am ei dyslecsia, crefft bod yn golurydd, a heriau gweithio ar ffilmiau fel Titanic a The Revenant.
-
Matt Ward
24/03/2019 Duration: 49minYm Manceinion a Llanrug y cafodd Matt Ward ei fagu.Rhedeg oedd yn mynd â'i fryd yn yr ysgol, gan gynrychioli'r sir a Chymru, cyn gorfod rhoi'r gorau iddi oherwydd anaf.Mae wedi gweithio i'r Llu Awyr, fel DJ, gwerthwr ceir, a rheolwr marchnata i gwmni nwyddau beics.Ar ôl ymgartrefu yng nghanolbarth Cymru, mae wedi dychwelyd at ei hoffter o redeg a'r awyr agored.Mae wedi sefydlu cwmni sy'n marchnata nwyddau chwaraeon, yn cynnig sylwebaeth ar ddigwyddiadau awyr agored, ac yn trefnu digwyddiadau.
-
Siân Tesni
17/03/2019 Duration: 50minUwch-ymgynghorydd addysg i CBM yw Siân Tesni, sef elusen sy'n gweithio i drawsnewid bywydau pobl ag anableddau yn rhai o wledydd tlota'r byd.Mae gan bawb hawl i addysg, yn ôl Siân, a sicrhau chwarae teg i blant ag anableddau yw prif bwyslais ei gwaith.Yn ferch i bobydd, cafodd ei magu ym Mhencae ger Llanarth.Dechreuodd ymddiddori mewn byddardod pan oedd yn yr ysgol, a datblygodd y diddordeb wrth iddi hyfforddi fel athrawes.Yn 1989, enillodd ysgoloriaeth i ymchwilio i hawliau plant byddar yn Singapore, Papua Guinea Newydd ac Indonesia. Wedi gorffen yr ymchwil, dechreuodd weithio i CBM ym Mhapua Guinea Newydd, gan aros yno am saith mlynedd. Mae'n parhau i deithio'n helaeth gyda'i gwaith, ond yn mwynhau ochr ysgafn bywyd hefyd, yn enwedig mynd i gigs gyda'i mab.
-
Huw Thomas
10/03/2019 Duration: 49minNewid bywyd a thirlun y brifddinas oedd un o amcanion Huw Thomas pan gafodd ei ethol yn Arweinydd Cyngor Caerdydd yn 2017. Mae'n cydnabod bod hynny'n her, yn enwedig mewn cyfnod o lymder, ond yn benderfynol o fynd i'r afael ag anhafaledd.Wrth gael ei fagu yng Ngheredigion, yr oedd yn gerddor ac yn chwaraewr rygbi brwd.Astudiodd gerddoriaeth yn Rhydychen, gan ymdaflu i fywyd y Brifysgol.Er na chafodd fagwraeth wleidyddol, datblygodd ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, a mewn sosialaeth yn enwedig.Gweithiodd fel rheolwr prosiect i Airbus, a bu hefyd yn bennaeth Cymorth Cristnogol yng Nghymru.Cafodd ei ethol yn gynghorydd yn 2012, ac yn 2015 fe oedd ymgeisydd seneddol y Blaid Lafur yng Ngheredigion.
-
Ciaran Jenkins
03/03/2019 Duration: 47minBeti George yn sgwrsio gyda'r newyddiadurwr Ciaran Jenkins, sydd hefyd yn gerddor. Beti George chats with journalist and musician Ciaran Jenkins.
-
John Phillips
24/02/2019 Duration: 46minTreuliodd John Phillips flynyddoedd yn gweithio ym myd addysg.Bu'n athro, yn swyddog addysg bellach, yn ddirprwy gyfarwyddwr addysg, a hefyd yn gyfarwyddwr addysg.Yn Sir Aberteifi, ac yna yn Nyfed, roedd yng nghanol y trafod a’r dadlau ynglŷn ag addysg Gymraeg yn y 60au a’r 70au.Cafodd ei eni a'i fagu yng Ngwauncaegurwen, yn fab i löwr, a mae ganddo atgofion melys o'r gymuned lofaol, a chof plentyn o Abertawe'n cael ei bomio'n ystod yr Ail Ryfel Byd.Yn yr ysgol ramadeg daeth dan ddylanwad Eic Davies, cyn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.Y peth gorau am y coleg, meddai John, oedd cwrdd â Bethan, a ddaeth yn wraig iddo'n ddiweddarach.Gweithiodd y ddau yn Llundain am gyfnod, cyn penderfynu dychwelyd i Gymru, ac i Geredigion yn y pen draw.Mae dementia wedi achosi dirywiad yn iechyd Bethan yn y blynyddoedd diwethaf, a mae John yn sôn wrth Beti am ei ymdrech i sicrhau gofal llawn amser iddi.
-
Jill-Hailey Harries
17/02/2019 Duration: 48minPan deimlodd Jill-Hailey Harries alwad i'r weinidogaeth, roedd yn 'sgytwad iddi.Er ei bod yn mynychu'r ysgol Sul, doedd hi ddim yn siŵr beth yn union oedd gwaith gweinidog, nac ychwaith yn nabod gweinidog benywaidd.Doedd hi ddim yn or-hoff o waith ysgol, ac yn fwy awyddus i ddechrau gweithio ac ennill arian na mynd i'r coleg, ond roedd yr alwad yn rhy gryf, ac yn y pen draw aeth i Aberystwyth i astudio diwinyddiaeth.Mae'n sôn wrth Beti George am ei magwraeth yn Sir Benfro, ei mwynhad o'i gwaith fel Bugail y Stryd, ac am beryglon pregethu yn Saesneg.
-
Carys Eleri
08/02/2019 Duration: 48minBeirniadaeth deg, Marilyn Manson a niwrowyddoniaeth yw rhai o'r pynciau trafod wrth i'r actores Carys Eleri gadw cwmni i Beti George.Wedi ei magu yn Y Tymbl, mae'n ystyried ei magwraeth yn un breintiedig, gan dderbyn pob cefnogaeth a chariad gan ei rhieni.Astudiodd Theatr, Cerdd a'r Cyfryngau yng Ngholeg y Drindod, cyn cael gwaith fel un o actorion craidd Theatr Genedlaethol Cymru.Er ei bod yn bennaf adnabyddus fel actores, mae'n cymryd diddordeb mawr mewn gwyddoniaeth, gan ddatblygu sioe yn trafod dylanwad yr ymennydd ar gariad. Wrth sgwennu'r sioe, cafodd wybod bod ei thad â chlefyd motor neuron, a mae'n sôn wrth Beti am bwysigrwydd teulu a chyfeillgarwch wrth alaru amdano.
-
Valériane Leblond
27/01/2019 Duration: 46minUn o Ffrainc yn wreiddiol yw'r artist Valériane Leblond.Cafodd ei magu gan ei thad o Ganada, a oedd yn llawn dychymyg ac yn dyfeisio pob math o bethau.Yn y coleg, cwrddodd â Chymro o Langwyryfon, a mae bellach yn magu tri mab yng Nghymru.Mae gwaith celf Valériane yn aml yn ymwneud â'r syniad o berthyn.Darlunio llyfrau yw ei phrif waith erbyn hyn, ond mae hefyd yn gweithio ar arddangosfa am hanes y Cymry a ymfudodd i Orllewin Virginia.
-
Heulwen Haf
20/01/2019 Duration: 34minBeti George yn sgwrsio â Heulwen Haf yn 2008. Beti George in conversation with Heulwen Haf in 2008.
-
Rhys Mwyn
13/01/2019 Duration: 48minArcheoleg, angerdd ac Anhrefn yw rhai o'r pynciau trafod wrth i Rhys Mwyn sgwrsio gyda Beti George.Un o Sir Drefaldwyn yw Rhys, a mae'n cael ei adnabod fel un sydd â dim ofn dweud ei farn a siarad yn ddi-flewyn-ar-dafod.Pan oedd yn ifanc, roedd yn teimlo nad oedd cerddoriaeth Gymraeg yn rhoi llais iddo fe a'i debyg.Cafodd ei ysbrydoli wrth wrando ar raglen radio John Peel, a chlywed grwpiau fel Sex Pistols, Delta 5 a'r Mekons.Daeth yn aelod o'r grŵp pync Cymraeg Anhrefn, cyn troi at reoli a hyrwyddo cerddorion.Yn golofnydd i'r Herald Cymraeg, mae hefyd wedi dychwelyd at ei bwnc gradd, sef archeoleg. Dyna ble mae hapusaf, yn cloddio gyda ffrindiau.
-
Dylan Griffith
06/01/2019 Duration: 48minAmsterdam yw cartref Dylan Griffith, ers iddo gael cynnig swydd gydag MTV yn y ddinas.Mae'n dychwelyd i Gymru yn aml, gan hiraethu am ei mynyddoedd.Teipograffeg, brandio a hyrwyddo yw ei gefndir, a fe oedd yn gyfrifol am ailfrandio S4C yn 2006.Treuliodd flwyddyn yn teithio'r byd gyda ffrindiau ar ôl graddio, gan greu cyfres o raglenni am y profiad. Mae wedi teithio'n helaeth ers hynny hefyd, gan fyw yn Awstralia am gyfnod, a chael ei daflu allan o Tibet.Mae bellach yn gydberchennog cwmni Smörgåsbord, sydd â swyddfeydd yng Nghaerdydd ac Amsterdam. Mae'n disgrifio'r cwmni fel stiwdio syniadau, ac yn gweithio gyda Croeso Cymru ymhlith eraill.
-
Osian Williams
23/12/2018 Duration: 46minErs pan oedd yn ifanc, roedd Osian Williams yn gwybod mai cerddor yr oedd am fod. Mae'n teimlo mai dyna'r unig beth y gallai fod wedi ei wneud.Cafodd ei fagu ar aelwyd gerddorol yn Llanuwchllyn, gan ddysgu gan ei dad sut i chwarae'r drymiau a'r gitâr. Roedd ei dad yn un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Maldwyn, a sioeau cerdd y cwmni yn rhan o fagwraeth Osian.Astudiodd mewn coleg cerdd yn Lerpwl, gan adael ar ôl tymor. Doedd e ddim yn gyfforddus yno, nag yn barod i astudio bryd hynny. Wedi gweithio am gwpl o flynyddoedd, aeth i Brifysgol Bangor, gan gwblhau gradd a gradd meistr.Enillodd Dlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau yn 2015, a mae wedi trefnu cerddoriaeth ar gyfer rhai o gyngherddau'r brifwyl, gan gynnwys un Geraint Jarman yn 2018.Mae Osian yn adnabyddus fel prif leisydd y grŵp Candelas, ond fe oedd y drymiwr yn wreiddiol, gan taw'r drymiau oedd ei gariad cyntaf.
-
Sally Holland
16/12/2018 Duration: 48minCafodd Sally Holland ei phenodi'n Gomisiynydd Plant Cymru yn 2015.O’r Alban yn wreiddiol, cwrddodd â Chymro o Gasnewydd wrth weithio gyda phobl ddigartref yn Llundain. Fe briodon nhw, gan benderfynu byw yng Nghymru am gyfnod, ac yna symud i'r Alban. Flynyddoedd yn ddiweddarach, yng Nghymru maen nhw o hyd!Roedd diddordeb mewn hawliau a chyfiawnder cymdeithasol yn amlwg yn nheulu Sally, a mae hynny wedi dylanwadu'n fawr arni. Roedd un perthynas yn Siartydd, ac yn aelod o'r Rochdale Pioneers a oedd yn gyfrifol am sefydlu'r mudiad cydweithredol.Y sylweddoliad nad yw'r byd yr un mor deg i bawb sbardunodd Sally i faes gwaith cymdeithasol.Fel Comisiynydd Plant, mae wedi ymgynghori'n helaeth gyda phlant a phobl ifanc, ac yn angerddol dros roi cyfle iddynt i fynegi barn, ac i gyflawni eu potensial.