Beti A'i Phobol

  • Author: Vários
  • Narrator: Vários
  • Publisher: Podcast
  • Duration: 468:19:05
  • More information

Informações:

Synopsis

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

Episodes

  • Sally Holland

    16/12/2018 Duration: 48min

    Cafodd Sally Holland ei phenodi'n Gomisiynydd Plant Cymru yn 2015.O’r Alban yn wreiddiol, cwrddodd â Chymro o Gasnewydd wrth weithio gyda phobl ddigartref yn Llundain. Fe briodon nhw, gan benderfynu byw yng Nghymru am gyfnod, ac yna symud i'r Alban. Flynyddoedd yn ddiweddarach, yng Nghymru maen nhw o hyd!Roedd diddordeb mewn hawliau a chyfiawnder cymdeithasol yn amlwg yn nheulu Sally, a mae hynny wedi dylanwadu'n fawr arni. Roedd un perthynas yn Siartydd, ac yn aelod o'r Rochdale Pioneers a oedd yn gyfrifol am sefydlu'r mudiad cydweithredol.Y sylweddoliad nad yw'r byd yr un mor deg i bawb sbardunodd Sally i faes gwaith cymdeithasol.Fel Comisiynydd Plant, mae wedi ymgynghori'n helaeth gyda phlant a phobl ifanc, ac yn angerddol dros roi cyfle iddynt i fynegi barn, ac i gyflawni eu potensial.

  • Steffan Lewis

    09/12/2018 Duration: 46min

    Steffan Lewis oedd yr Aelod Cynulliad ifancaf yng Nghymru pan gafodd ei ethol i gynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru yn 2016. Mae’n dweud na all ddychmygu bywyd heb wleidyddiaeth, ar ôl i'w ddiddordeb yn y maes ddechrau pan oedd yn ifanc.Yn un ar ddeg oed, roedd yn sgwennu at Dafydd Wigley yn Nhŷ'r Cyffredin, ac yn bedair ar ddeg anerchodd Plaid Cymru am y tro cyntaf.Roedd gwleidyddiaeth hyd yn oed yn ddylanwad wrth ddewis pa dîm pêl-droed i'w gefnogi.Ddiwedd 2017, cafodd Steffan wybod fod ganddo ganser y coluddyn, a hynny yn ei bedwerydd cyfnod, ac wedi lledaenu i rannau eraill o’r corff.Mae'n sôn wrth Beti am y diagnosis, am y gefnogaeth fawr y mae wedi ei derbyn, ac am ei ddyhead i godi ymwybyddiaeth o'r salwch.

  • Arthur Thomas

    02/12/2018 Duration: 42min

    Llyfrau, straeon, cerddoriaeth werin a rygbi yw rhai o hoff bethau Arthur Thomas. Er hynny, astudio gwyddoniaeth wnaeth e yn y coleg, gan droi at ddysgu'r pwnc ar ôl graddio.Wedi blynyddoedd o gael ei nabod fel mab y tenor Richie Thomas, mae'n hoffi dweud ei fod bellach yn cael ei nabod fel tad y delynores Elen Hydref.Treuliodd gyfnod ym ymgyrchu dros Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn aml yng nghwmni Gruff Miles o grŵp Y Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog. Roedd y ddau yn teithio gyda'i gilydd pan gafodd y cerddor ei ladd mewn damwain ffordd yn y 70au.

  • Karen Elli

    25/11/2018 Duration: 48min

    Beti George yn sgwrsio gyda Karen Elli.Hi oedd Cilla yn Pobol y Cwm, ond mae plant Cymru'n ei hadnabod fel Heini.Mae hi hefyd yn hyfforddwr ffitrwydd, ac yn cynllunio tai.

  • Hedd Ladd-Lewis

    18/11/2018 Duration: 47min

    Erbyn ei fod yn un ar ddeg oed, roedd Hedd Ladd-Lewis wedi byw yn Kenya ac yn Zambia.Dychwelodd y teulu i Gymru, ac i lethrau Carn Ingli, pan ddaeth yn amser iddo fynd i'r ysgol uwchradd.Cafodd ei ysbrydoli gan ei athro hanes yn Ysgol y Preseli, yr arlunydd Aneurin Jones, a oedd yn defnyddio dulliau anghyffredin i gynnau diddordeb ei ddisgyblion.Yn ddeuddeg oed, cloddiodd Hedd gyda thîm o archeolegwyr am y tro cyntaf, ac ers hynny hanes ac archaeoleg sydd wedi mynd â'i fryd.Ar ôl cyfnod yn gweithio yn Llundain, dychwelodd i Gymru a chymhwyso fel athro hanes.Mae'n dweud ei bod yn fraint cael defnyddio ei bwnc bob dydd.

  • Bethan Bryn

    04/11/2018 Duration: 48min

    Dyw'r cerdd dantwraig Bethan Bryn ddim yn or-hoff o’r gair arbrofi. Yn hytrach, mae'n credu y dylid dangos bod mwy i gerdd dant na chystadlu, a bod angen gwthio'r grefft tu hwnt i'r llwyfan eisteddfodol.Ei chwaer Angharad a oedd i fod i gael gwersi telyn yn wreiddiol, ond buan iawn y dechreuodd Bethan ddysgu canu'r offeryn yn ei lle.Bu'n aelod o Gerddorfa Ieuenctid Cymru, ac yn yr ysgol daeth dan ddylanwad Aled Lloyd Davies, er iddi ei gythruddo gyda'i gosodiad cyntaf ar gyfer Rhianedd Môn.Cafodd le i astudio chwaraeon mewn coleg yn Lerpwl, a bu bron iddi ddilyn y trywydd hwnnw yn lle astudio cerddoriaeth.Cerddoriaeth aeth â hi yn y pen draw, gan arwain at flynyddoedd o berfformio, cyfeilio a hyfforddi; a nid pawb all ddweud i Delynores Maldwyn a Thelynores Eryri ddechrau cecru yng nghanol ei phriodas.

  • Neville Evans

    28/10/2018 Duration: 48min

    Ffiseg yw prif ddiddordeb y gwyddonydd Neville Evans. Mae'n dweud ei fod yn wyddor sy'n mynd ar ôl y manwl, ond hefyd yn gweld y darlun ehangach.Treuliodd ei fywyd ym myd addysg, fel athro, arolygwr, ac yna llywodraethwr.Cafodd ei ddiddordeb yng ngwyddonwyr Cymreig cyfoes ei sbarduno wedi iddo glywed hanesion lleol yn blentyn am E. G. Bowen a'i arbrofion radar.Mae'n credu y dylid gwneud rhagor i hybu gwybodaeth disgyblion Cymru am wyddonwyr cyfoes, a fe sy'n gyfrifol am y posteri o wyddonwyr Cymreig mewn ysgolion ledled y wlad.Mae hefyd yn sgwrsio gyda Beti am ei atgofion o fagwraeth braf yn Gendros, Fforestfach, ac am bwysigrwydd ffydd iddo fe.

  • Llinos Dryhurst-Roberts

    21/10/2018 Duration: 46min

    Braf 'di cael bod yn hapus, yn ôl Llinos Dryhurst-Roberts.Mae hi bob amser wedi bod yn hoff o antur, ac wedi treulio blynyddoedd yn y fyddin, gan wasanaethu yn Bosnia sawl tro.Mae wedi gweithio hefyd i'r Weinyddiaeth Amddiffyn, ac i gwmni preifat yn Irac, lle cafodd ei hanafu'n ddifrifol.Wedi’r anaf, daeth cyfnod gyda'r gwasanaeth cudd, ond erbyn hyn mae'n cydreoli ac yn coginio mewn caffi yng Nghaernarfon.Mae'n dweud ei bod yn fodlon ei byd, wedi cael gwireddu sawl breuddwyd, ac wedi dod i ddeall beth sy'n bwysig mewn bywyd.

  • Mike Parker

    14/10/2018 Duration: 47min

    Mae naws lle yn bwysig i Mike Parker, ac mae'n dweud ei fod bob amser wedi bod eisiau byw yng Nghymru.Cafodd ei fagu yn Kidderminster, tua deugain milltir o'r ffin.Gwahanodd ei rieni pan oedd yn bedair oed, a symudodd ei fam i Ffrainc. Mae'n amau mai dyna a arweiniodd at ei hoffter o fapiau, oherwydd eu bod yn fodd iddo gael trefn ar fyd cymhleth.Astudiodd ddrama a Saesneg yn Llundain, gan droi at 'sgrifennu yn y pen draw fel bywoliaeth.Yn gydawdur The Rough Guide to Wales, symudodd i'r wlad yn 2000 gan ddysgu Cymraeg, ac yn 2015 fe oedd ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngheredigion.

  • Aled Rees

    07/10/2018 Duration: 42min

    Methiant yw peidio â mentro yn y lle cyntaf yw beth sy'n gyrru Aled Rees, “bachgen stwbwrn o Langwyryfon”, i ddatblygu syniadau a busnesau newydd.Er gwaethaf diffyg cymwysterau, aeth i weithio yn labordy Ysbyty Bronglais, gan fynd yn ei flaen i gwblhau cwrs gradd a meistr. Bu'n rhaid rhoi’r gorau i’r gwaith hwnnw yn y pen draw, i ganolbwyntio ar ei wahanol fusnesau.Penderfynodd ddysgu Sbaeneg, ac arweiniodd hynny at gwrdd â'i wraig, Angeles, a hefyd at sefydlu cwmni Teithiau Tango. Mae gan Aled ac Angeles dri o blant, ac mae'n sôn wrth Beti pa mor bwysig yw teulu iddo, ac am ei edmygedd o'i ddiweddar fam.

  • Sarah Reynolds

    30/09/2018 Duration: 40min

    Wedi'i geni a'i magu yn Surrey, doedd Sarah Reynolds prin yn ymwybodol o Gymru a'r Gymraeg cyn iddi gwrdd â'i gŵr, Geraint, ar ddêt cudd yn Llundain.Yn byw yng Nghymru erbyn hyn, cyrhaeddodd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn 2016.Yn ifanc, ceisiodd wrthryfela trwy fod yn actores, cyn newid trywydd wedi cyfnod o iselder.Mae wedi gweithio yn y cyfryngau, ac yn un o'r criw a oedd yn dyfeisio tasgau ar gyfer preswylwyr tŷ Big Brother, ond fel awdures sy'n magu ei theulu yng Nghymru y mae'n teimlo iddi ddod o hyd i'r lle mae hi’n perthyn.

  • David John

    23/09/2018 Duration: 48min

    Rhyddid meddwl, bywydau preifat unigolion a hawliau dynol yw'r themâu sy'n mynd â sylw'r awdur David John (D.B. John), dro ar ôl tro yn ei waith.Yn enedigol o Efail Isaf, bu'n gweithio yn adran gytundebau cwmni cyhoeddi mawr yn Llundain, cyn newid cyfeiriad a gweithio fel golygydd llyfrau i'r un cwmni.Trwy gymryd cyfnodau di-dâl o'r gwaith, cafodd gyfle i deithio yn helaeth, gan gynnwys cyfnodau yn Ynysoedd Cook a De America.Cafodd brofiad brawychus yn Wrwgwái, wrth i leidr ei fygwth gyda dryll. Ysbrydolodd hynny stori fer ganddo, gan ailgynnau ei ddiddordeb mewn 'sgrifennu.Penderfynodd ddilyn cwrs M.A. mewn ysgrifennu creadigol, a ffrwyth y cwrs oedd ei nofel gyntaf, Flights to Berlin.Mae hefyd yn sôn wrth Beti George am ei gyfnodau yng Ngogledd Corea, yn ymchwilio ar gyfer ei ail nofel, ac am weithio fel cynorthwy-ydd i'r Gordon Brown a'r Tony Blair ifanc yn San Steffan.

  • Sian Lloyd

    16/09/2018 Duration: 44min

    Mae newyddiaduraeth wedi bod o ddiddordeb i Sian Lloyd ers pan oedd yn ifanc.Roedd yn rhan o griw a sefydlodd bapur newydd yn ei hysgol, ac ar gyfer ei herthygl gyntaf ymunodd â'r wasg yng ngorsaf reilffordd Wrecsam, i adrodd ar ymweliad gan y Dywysoges Diana.Wrth sgwrsio â Beti George, mae'n gweithio i wasanaeth newyddion rhwydwaith y BBC, yn gohebu ar straeon o Gymru, neu'n dod â gogwydd Cymreig i straeon newyddion y dydd.Cafodd Sian ei magu yn Birmingham, cyn i'r teulu symud i Wrecsam pan oedd yn 7 oed.Daw ei thad o Eifionydd yn wreiddiol, ond cwrddodd ei rhieni mewn capel yn Llundain, ac adleoli i Ganolbarth Lloegr.Yn ogystal â darlithio ym maes adeiladu, roedd ei thad yn teithio dramor gyda'r Cyngor Prydeinig, yn enwedig i wledydd yn Affrica, i sefydlu cyrsiau yno.Astudiodd Sian y gyfraith yn y coleg, a threuliodd gyfnodau yn hyfforddi yn Llundain a Hong Kong, cyn dilyn ei breuddwyd a chwilio am waith ym myd newyddiaduraeth.Mae wedi dal sawl swydd yng Nghymru, yn ogystal â gweithio i'r BBC yn Llundain a

  • Elin Fflur

    09/09/2018 Duration: 44min

    Mae Elin Fflur yn gwybod ers pan oedd yn ifanc na fyddai'n medru gwneud swydd sy'n golygu gwneud yr un peth bob dydd.Roedd ei magwraeth yn ardal Dwyran yn un ddelfrydol, meddai, ac mae wedi etifeddu ei dawn greadigol gan sawl aelod o'r teulu.Ystyriodd weithio gyda'r heddlu, cyn penderfynu canolbwyntio ar yrfa fel cantores, ac erbyn hyn fel cyflwynwraig hefyd.Wrth sgwrsio gyda Beti George, mae'n trafod y cyfleoedd a gafodd i ganu y tu allan i Gymru, gan gynnwys treulio amser yn America gyda'r rheolwr David Aspden a'r cynhyrchydd Jim Steinman. Yn y pen draw, fodd bynnag, plesio'r gynulleidfa o'i blaen yw'r peth pwysicaf un.Rai blynyddoedd yn ôl, cafodd wybod na allai feichiogi'n naturiol, ac mae'n ystyried ei phrofiadau o driniaeth IVF yn rhes o rwystrau. Mae'n credu'n angerddol bod angen trafod IVF yn fwy agored, er mwyn cynorthwyo eraill i ddeall y broses.

  • Tuduriaid

    29/07/2018 Duration: 46min

    Beti George yn sgwrsio â Sion, Ffion ac Owain Tudur o Gaerdydd.O gyfrinachau'r maes carafanau i helyntion ieuenctid Maes B, mae'r tri yn sgwrsio â Beti ar achlysur Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.

  • Hefin Jones

    22/07/2018 Duration: 49min

    Beti George yn sgwrsio â Dr. Hefin Jones o Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd.Yn ogystal â bod yn uwch ddarlithydd yn y brifddinas, mae'n brysur iawn gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol hefyd, ac yn llais ac wyneb cyfarwydd ar y radio a'r teledu.Mae'n gwmni i Beti ar achlysur derbyn Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, a hynny am ei gyfraniad oes i wyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.

  • Meic Birtwistle

    15/07/2018 Duration: 47min

    Beti George yn sgwrsio â'r newyddiadurwr a chyn-swyddog undebol Meic Birtwistle am ei fagwraeth yn Surrey, a'r penderfyniad i ddysgu Cymraeg o ddifrif yn 13 oed.Enillodd ysgoloriaeth i Sandhurst, ond fe drodd ei gefn ar y fyddin wedi iddo gael ei radicaleiddio'n wleidyddol yn y coleg yn Abertawe.Bu'n cynorthwyo Jeremy Corbyn yn ystod ei ymgyrch i ddod yn arweinydd y Blaid Lafur, ac mae'n angerddol am yr angen i amddiffyn hawliau'n y gweithle a hawliau ieithyddol.

  • Alaw Griffiths

    08/07/2018 Duration: 55min

    Beti George yn sgwrsio gydag Alaw Griffiths. Beti George chats with Alaw Griffiths.

  • Hefin Jones-Roberts

    01/07/2018 Duration: 47min

    Beti George yn sgwrsio gyda Hefin Jones-Roberts. Beti George chats with Hefin Jones-Roberts.

  • Siriol Burford

    24/06/2018 Duration: 49min

    Beti George yn sgwrsio â Siriol Burford, enillydd un o wobrau elusen Chwarae Teg yn 2017, sy'n cydnabod pob agwedd ar fywydau menywod. Beti George chats with Siriol Burford.

page 15 from 32