Beti A'i Phobol

  • Author: Vários
  • Narrator: Vários
  • Publisher: Podcast
  • Duration: 467:31:12
  • More information

Informações:

Synopsis

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

Episodes

  • Eleri Twynog Davies

    12/06/2018 Duration: 46min

    Mae syniad da, sy'n cydio yn nychymyg pobl, yn medru mynd yn bell iawn, a dyna sydd wedi gyrru Eleri Twynog Davies trwy gydol ei gyrfa ym myd marchnata.Mae wedi hyrwyddo gwyliau fferm i'r Bwrdd Croeso, ac arwain gwaith marchnata'r Eisteddfod mewn cyfnod pan oedd y syniad hwnnw'n un newydd. Bu hefyd yn bennaeth marchnata yn S4C, gan reoli cyllideb o £3 miliwn, a chyflwyno'r syniad o sioeau Cyw.Cafodd ei magu yn Aberteifi, ac mae'r atgofion am ei phlentyndod yn rhai hynod hapus.Pan oedd yn y chweched dosbarth, daeth hi a chriw o ferched eraill yr ysgol at ei gilydd i ffurfio'r grŵp Cwlwm, gan ryddhau sawl albwm a theithio'n helaeth.Astudiodd ddrama a Chymraeg ym Mangor, cyn symud i Guildford i ddilyn cwrs M.A. mewn twristiaeth a marchnata.Er ei bod yn rhy swil i fod yn actores ei hun, mae wrth ei bodd gefn llwyfan, ac wedi dychwelyd i fyd drama ers gadael S4C.Y syniad sy'n ei gyrru hi heddiw yw cyflwyno hanes Cymru i ddisgyblion ysgol.Sefydlodd gwmni Mewn Cymeriad, sy'n darparu sioeau un person yn seiliedig ar

  • Bleddyn Jones

    27/05/2018 Duration: 42min

    Rygbi, crefydd ac addysg yw conglfeini bywyd Bleddyn Jones.Wedi ei fagu ym Mrynaman, symudodd i Gaerlŷr i fod yn athro ysgol gynradd, gan ymuno â thîm rygbi'r Leicester Tigers ar ei ddiwrnod cyntaf yn y swydd.Er bod sawl un wedi dweud wrtho nad oedd yn ddigon tal na chryf i chwarae rygbi, bu'n faswr i Gaerlŷr 333 gwaith, ac mae nawr yn sylwebu ar eu gemau i orsaf leol y BBC ers deng mlynedd ar hugain.

  • David Williams

    25/05/2018 Duration: 50min

    Yn wreiddiol o Drawsfynydd, fe symudodd David Williams i'r Ganllwyd pan benodwyd ei dad yn brifathro yno. Symudodd y teulu i Seland Newydd pan oedd yn blentyn gan fod galw mawr am athrawon yno. Golygai hyn siwrnai 6 wythnos ar long. Pan oedd David Williams yn ei arddegau fe ddaeth y teulu yn ôl i Gymru ac fe aeth David ati i astudio newyddiaduraeth. Bu'n gweithio fel is-olygydd newyddion yn Swansea Sound, a rhwng 1977 ac 1987 roedd yn wyneb cyfarwydd ar ein sgriniau teledu fel gohebydd 'Wales Today' a 'Wales This Week' gydag ITV. Daeth David Williams i sylw'r wasg ryngwladol yn sgil ambell i stori yr aeth ar ei hol, a bu hefyd yn gyflwynydd y rhaglen deledu Dragon's Eye, oedd yn cadw llygad ar weithgareddau ym Mae Caerdydd.

  • Arfon Jones

    20/05/2018 Duration: 47min

    Beti George yn sgwrsio gydag Arfon Jones, Swyddog Maes Gobaith i Gymru, am gerddoriaeth Stravinsky, cyfnodau yn y carchar dros y Gymraeg, iachâd gwyrthiol ac argyfyngau ffydd. Ar ôl rhoi'r gorau i'w freuddwyd o fod yn chwaraewr ac athro soddgrwth oherwydd salwch, astudiodd am radd mewn diwinyddiaeth. Ers hynny, mae wedi gweithio i hybu'r ffydd Gristnogol, yn enwedig ymysg pobol ifanc.Mae'n angerddol ynglŷn â chynorthwyo pobl i fynegi eu ffydd mewn dull sy'n berthnasol i'r ganrif hon.Fe sy'n gyfrifol am beibl.net, cyfieithiad llafar o'r Beibl, a bu'n rhaid iddo ddychwelyd i astudio Groeg a Hebraeg er mwyn cwblhau'r gwaith hwnnw.

  • Gladys Pritchard

    13/05/2018 Duration: 44min

    Monwysyn i'r carn yw Gladys Pritchard. Wedi ei geni a'i magu yng Nghaergybi, mae'n parhau i fyw yn yr ardal, a hi yw Trysorydd a Meistres y Gwisgoedd Eisteddfod Môn.Er na chafodd Gladys erioed 10 allan o 10 mewn gwersi mathemateg, cadw cyfrifon a llaw fer oedd yn mynd â'i bryd yn yr ysgol.Pan adawodd yr ysgol, aeth i weithio fel clerc i gyfrifydd yng Nghaergybi, a dyna sydd wedi llunio cyfeiriad ei bywyd hyd heddiw.Wedi cyfnod yn magu ei meibion, aeth i Ysgol Uwchradd Caergybi fel derbynnydd, ac yna fel swyddog gweinyddol, gan gymryd cyfrifoldeb am gyfrifon yr ysgol.Pan ddaeth Eisteddfod Môn i Gaergybi yn 1979, pwy well i fod yn drysorydd, gan barhau yn y swydd honno hyd heddiw.Mae Gladys hefyd yn weithgar gyda mudiad y Sgowtiaid ers 1979, gan ddechrau cyrsiau canŵio ar eu cyfer yn Y Bala ac yn Islwyn.Er nad oes ganddi fawr o amser rhydd, mae'n frodwraig brwd ac yn 'yarn bomber'.

  • Siân Lewis

    29/04/2018 Duration: 46min

    Beti George yn sgwrsio â Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru.Dychwelyd at yr Urdd wnaeth Siân, wedi cyfnod yn gweithio gyda'r mudiad ar ddechrau'r 90au, ac mae'n disgrifio'r rôl fel swydd ei breuddwydion, er bod dychwelyd i Wersyll Glan-llyn fel aelod o staff yn hytrach na disgybl ysgol yn brofiad rhyfedd.Cafodd ei magu yng Nghaerdydd, a dyw hi ddim wedi crwydro'n bell iawn o'r brifddinas.Er ei bod wrth ei bodd yn gymdeithasol yn Ysgol Glantaf, doedd y pwyslais academaidd ddim yn plesio.Ailddarganfyddodd ei hoffter o fyd addysg yng Ngholeg Rhymni, cyn symud i Brifysgol Morgannwg i astudio busnes, ac yna cwblhau cwrs ôl-radd mewn busnes a chyllid.Wedi ei chyfnod cychwynnol yn gweithio i'r Urdd, symudodd i Fenter Caerdydd, a thra wrth y llyw yno roedd yn gyfrifol am ddatblygu gŵyl Tafwyl.Gyda throsiant o £10 miliwn, dros 300 o staff, a hefyd 10,000 o wirfoddolwyr, beth yw gobeithion Siân ar gyfer dyfodol yr Urdd?

  • Meirion Davies

    22/04/2018 Duration: 47min

    Yn actor ac yn ysgrifennwr, treuliodd Meirion Davies bron i ugain mlynedd yn gweithio mewn gwahanol swyddi yn S4C.Erbyn hyn, fe yw Pennaeth Cyhoeddi Gwasg Gomer, ond yr hyn sy'n rhoi'r mwynhad mwyaf iddo yw rhedeg Bridfa Heniarth yn Sir Gaerfyrddin.Etifeddodd Merion ei ddiddordeb mewn ceffylau gan ei rieni, ac fe etifeddodd hefyd ddawn artistig ei fam.Celf oedd ei fyd pan oedd yn ifanc, gan dderbyn gwersi yn Ysgol y Preseli gan yr artist Aneurin Jones. Mae ei ddyled yn fawr iddo am ei ysbrydoli a'i herio.Wedi cyfnod mewn coleg celf, aeth i astudio drama cyn dechrau gwneud bywoliaeth fel perfformiwr a sgriptiwr.I genhedlaeth o Gymry Cymraeg, bydd bob amser yn cael ei gysylltu â'r rhaglenni teledu Swig o'r 'Steddfod, a chymeriadau fel Horni a'r ddau Frank.Er hynny, yr hyn sydd wedi ei yrru trwy ei yrfa yw'r dyhead i wneud bywoliaeth er mwyn cynnal ei ddiddordeb ym myd bridio ceffylau.

  • Lena Charles

    15/04/2018 Duration: 46min

    Hel atgofion am ganrif o fywyd mae gwestai Beti George yn y rhaglen hon.Cafodd Lena Charles ei magu ym Mlaengarw, wedi i'r teulu symud yno o Benmachno i weithio'n y pyllau glo.Yr olaf ond un o dri ar ddeg o blant, bu farw ei thad pan oedd hi'n ddyflwydd oed, ond fe ailbriododd ei mam. Roedd ei llysdad, Dafydd Hughes, yn ddylanwad pwysig. Diolch iddo fe, mae Lena yn adroddwraig o fri, fel y clywn ni yn y rhaglen.Mae'n sôn wrth Beti am ei magwraeth ym Mlaengarw, gan gynnwys bywyd y cartref a dylanwad y capel, am Streic 1926, ac am weithio mewn ffatri arfau'n ystod yr Ail Ryfel Byd.Mae Lena hefyd wedi gweld sawl newid yn yr ardal yn ystod ei chan mlynedd o fywyd.

  • Mari Williams

    08/04/2018 Duration: 43min

    Beti George yn sgwrsio â'r steilydd bwyd a'r cogydd, Mari Williams.Yn un o bedwar o blant, cafodd ei magu ar fferm ger Llannefydd. Aeth i Ysgol Glan Clwyd, ac ymlaen wedyn i Brifysgol Caerdydd i astudio bwyd a maetheg.Ar ôl graddio, aeth i Efrog Newydd i weithio fel nani i deulu gyda chysylltiadau Cymreig.Dychwelodd i Brydain, gan weithio gyda rhai o'r archfarchnadoedd mwyaf fel steilydd bwyd, cyn symud i olygu cylchgronau bwyd.Mae bellach yn gweithio ar ei liwt ei hun, a newydd gyhoeddi ei llyfr ryseitiau cyntaf.Mae'n byw gyda'i phartner a'i mab yn Swydd Hertford ers dros bymtheng mlynedd.

  • Roger Williams

    25/03/2018 Duration: 50min

    Dramodydd ac awdur yw gwestai Beti, Roger Williams. Ganwyd Roger yng Nghasnewydd ond ei fagu yng Nghaerfyrddin. Roedd yn ysgrifennu'n greadigol tra yn yr ysgol, cyn mynd i Brifysgol Warwick i astudio Llenyddiaeth Saesneg ac Americanaidd. Mae Roger Williams wedi creu dramâu Cymraeg a Saesneg ac mae ei waith wedi ennyn sylw a chlod, gan gynnwys enwebiad BAFTA. Mae cyfres arall o "Bang" ar y gweill ac ar hyn o bryd mae'n gweithio ar ffilm fydd i'w gweld yn y sinema. Mae Roger yn byw gyda'i ŵr a'i fab yng Nghastell Nedd.

  • Mair Jones, Dinbych

    18/03/2018 Duration: 46min

    Mair Jones o Ddinbych yw gwestai Beti'r wythnos hon. Mae'n un o sefydlwyr Ymddiriedolaeth Mary Dei sy'n cynnig cefnogaeth i ofalwyr yr ardal. Mae'n credu yn angerddol bod angen gwell darpariaeth ddiwedd oes i'r henoed ac i'r sawl sydd â Dementia, yn enwedig ar ôl gofalu am ei rhieni. Mae hi hefyd yn gwybod pa mor ysgytwol yw colli aelod o'r teulu yn ddisymwth. Mae hi'n treulio ei amser heddiw yn rhannu ei phrofiadau yn y gobaith o fedru cynorthwyo eraill.

  • Roger Scully

    08/03/2018 Duration: 46min

    Yr Athro Roger Scully, Athro Gwyddor Gwleidyddiaeth, yw gwestai Beti George. Cafodd ei eni a'i fagu yn Luton, a'i addysgu ym Mhrifysgolion Caerhirfryn a Thalaith Ohio. Ymunodd â Chanolfan Llywodraethiant Cymru yn 2012, a chyn hynny Roger oedd Cyfarwyddwr Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'n hoff iawn o gerddoriaeth jazz, yn aelod o Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol ac yn Gymrawd yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru.

  • Tim Hartley

    25/02/2018 Duration: 49min

    Un o gyfarwyddwyr elusen Gôl Cymru, sydd wedi ei enwebu am wobr Dewi Sant, yw gwestai Beti George. Mae Tim Hartley yn gyn-newyddiadurwr ac yn gyn-gyfarwyddwr materion corfforaethol S4C ac wrth ei fodd yn teithio'r byd i wylio pêl-droed.

  • John Rea

    18/02/2018 Duration: 50min

    Aeth John Rea i Ysgol Gyfun Llanhari ac wedyn i Brifysgol Caerdydd lle bu'n astudio cwrs cyfansoddi dan oruchwyliaeth yr Athro Alun Hoddinott. Gan weithio o'i stiwdio recordio yng Nghaerdydd, mae John yn mwynhau arbrofi gydag offeryniaeth draddodiadol a thechnoleg stiwdio fel ei gilydd. Mae wedi ennill dwy wobr BAFTA yn y categori 'Cerddoriaeth Wreiddiol Orau', ac wedi cydweithio gyda sawl artist o'r byd pop a roc, gan gynnwys y Manic Street Preachers, Charlotte Church a John Cale.

  • Judith Owen

    11/02/2018 Duration: 50min

    Daw Judith Owen o'r Bala'n wreiddiol, yn brifathrawes yn ers 20 mlynedd a mwy ar ôl cyfnod fel gwarchodwraig ac arweinydd Cylch Meithrin. Mae ganddi hi a'i gwr, Rhys, hefyd fusnes meithrinfa plant yn Llanwnda ers 14 mlynedd. Mae ganddynt ferch, Neli sydd yn 9 oed. Fe'i ganwyd ar ôl derbyn triniaeth IVF a gymysgodd had Rhys gydag ŵy gan chwaer Judith. Mae Judith a Rhys hefyd yn maethu plant.

  • Robert David

    04/02/2018 Duration: 49min

    Ganwyd y cynllunydd mewnol Robert David yn 1962 cyn cael ei fabwysiadu yn ychydig wythnosau oed gan Owen Morris Roberts a Mary Roberts, Penrhynydyn, Rhydyclafdy.Cafodd fagwraeth fendigedig ar fferm brysur ond celf oedd yn mynd a'i sylw, er mai dewis dilyn cwrs Celfyddydau Perfformio ym mhrifysgol Caerlŷr wnaeth Robert i ddechrau, cyn symud i Gaerdydd ac ymddangos fel actor mewn cyfresi fel Coleg a Dinas.Roedd Robert yn aelod o gast Pobol y Cwm yn y 90au ond ar ôl hir feddwl dyma benderfynu gadael y ddrama a dilyn ei freuddwyd i fod yn gynllunydd mewnol. Symudodd i Efrog Newydd i astudio, gan dderbyn Tystysgrif mewn Cynllunio o'r Parsons School of Design, Manhattan.Cafodd gyfnod wedyn yn adnewyddu tai ar raglenni teledu ond mae bellach yn ôl yn Llŷn, yn byw gyda'i bartner ac wedi sefydlu ei gwmni cynllunio mewnol ei hun.

  • Manon Steffan Ros

    28/01/2018 Duration: 44min

    Ganed Manon Steffan ym mhentref Rhiwlas ger Bangor a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Rhiwlas ac yn Ysgol Dyffryn Ogwen. Fe enillodd hi Fedal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Cymru ddwy flynedd yn olynol, yn 2005 ac yn 2006. Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf ar gyfer oedolion, Fel Aderyn, restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2010, ac fe ddaeth Manon i'r brig yn y gystadleuaeth yn 2013 gan ennill y categori ffuglen orau gyda'i nofel Blasu. Enillodd Wobr Tir na n-Og hefyd yn 2010 am y nofel Trwy'r Tonnau, ac unwaith eto yn 2012 gyda Prism. Mae Manon hefyd yn gerddor ac aelod o'r grŵp Blodau Gwyllt, ac mae'n byw yn Nhywyn gyda'i meibion.

  • Duncan Brown

    21/01/2018 Duration: 45min

    Cafodd Duncan Brown ei eni yn Buxton, Swydd Derby, ond symudodd y teulu i fyw i Waunfawr yn 1949 pan oedd yn flwydd oed. Aeth i Cheltenham i ddilyn cwrs sylfaen mewn Celf ac yno y cyfarfu a'i ddarpar wraig, Gill. Ar ddiwedd y flwyddyn yn y coleg fe symudodd ei rieni i fyw i Wiltshire, oedd yn sioc i Duncan ar ôl 20 mlynedd o fyw yn Waunfawr. Aeth wedyn i Norwich i astudio celfyddyd gain; dechreuodd ddarllen gwaith Kate Roberts a T.H. Parry Williams a phenderfynu ei fod am ddychwelyd i Gymru i fyw a dyna ble y magodd ei ferch, Beca. Ar ôl rhoi'r gorau i ddysgu, treuliodd Duncan Brown gweddill ei yrfa yn rheoli coedwigoedd Dolgarrog ac Abergynolwyn ac yn gweithio i warchodfeydd natur. Cafodd y syniad o greu'r papur Llên y Llysiau, sydd bellach yn wefan dan yr enw Llên Natur ac sydd yn cyd-weithio'n agos gyda Chymdeithas Edward Llwyd.

  • Iwan John

    14/01/2018 Duration: 48min

    Yr actor Iwan John yw gwestai Beti George. Ganed Iwan yn Aberdâr ond fe symudodd y teulu i Abergwaun pan oedd yn dair oed. Yn un o dri o frodyr, fe gafodd ei addysg yn ysgol gynradd Abergwaun cyn symud unwaith eto, i Mynachlog-ddu y tro hwn. Mae Iwan yn adnabyddus am bortreadu cymeriadu doniol ac mae wedi ennill ei le yn oriel yr anfarwolion am ei gyfraniadau i deledu plant Cymru, yn eu plith Bwgan, Twm Tisian, Eddie Butler a DJ Sâl. Ond yn ogystal â rhaglenni plant mae wedi bod yn rhan o sawl rhaglen ddrama: Caryl, Cara Fi, Tair Chwaer a Beryl, Meryl a Cheryl.

  • 07/01/2018

    07/01/2018 Duration: 47min

    Yn wreiddiol o Wauncaegurwen, roedd Barry Morgan yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Ystalyfera cyn mynd i'r brifysgol yn Llundain i astudio hanes, ac yna i Gaergrawnt i wneud gradd mewn diwinyddiaeth. Cafodd ei ordeinio gan fynd yn giwrad i Ddinas Powys am dair blynedd a bu ar staff Coleg Mihangel Sant, Caerdydd, am ddwy flynedd yn ogystal ag yn darlithio mewn diwinyddiaeth yng Ngholeg y Brifysgol yng Nghaerdydd. Aeth Barry Morgan wedyn yn gaplan i Fangor, gan ddarlithio yn y Brifysgol yno cyn symud i Wrecsam fel offeiriad plwy. Fe'i galwyd nôl i Esgobaeth Bangor, i Gricieth, i fod yn Rheithor ac Archddiacon Meirionydd, cyn ei ethol yn Esgob Bangor yn 1993, yn Esgob Llandaf yn 1999, ac yna'n Archesgob Cymru yn 2003.

page 16 from 32