Synopsis
Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people
Episodes
-
Mari Griffith
29/01/2017 Duration: 49minCafodd Mari Griffith ei magu ym Maesteg, ond fe deithiodd y byd yn gweithio ar raglenni adloniant a cherddoriaeth. Dyna yw ei byd, ac roedd ei wyneb a'i llais yn gyfarwydd iawn i wylwyr Disc a Dawn. Ar ôl gyrfa faith, mae hi bellach wedi troi ei llaw at ysgrifennu.
-
Dewi Tudur
22/01/2017 Duration: 48minDewi Tudur, yr artist o'r Wyddgrug, yw gwestai Beti George.Fo oedd y cyntaf un i sefyll arholiad Lefel A celf drwy gyfrwng y Gymraeg.Bu'n athro mewn sawl ysgol uwchradd, ond newidiodd ei fywyd yn sgîl gwyliau arbennig yn yr Eidal. Oherwydd hynny, mae bellach yn byw ger Fflorens gyda'i deulu.
-
Jeremy Turner
15/01/2017 Duration: 47minMae Jeremy Turner, a gafodd ei eni'n Aberdâr, yn actor profiadol ac yn adnabyddus am sefydlu Cwmni Theatr Arad Goch yn Aberystwyth.Aeth ati i sefydlu gŵyl theatr ryngwladol Agor Drysau, gan wahodd cwmnïau o Gymru ac o dramor i berfformio.Mae wedi teithio'r byd yn perfformio, ac yn hoff o gynyrchiadau sydd yn delio â materion cyfoes.
-
Mark Lewis Jones
21/12/2016 Duration: 45minYr actor Mark Lewis Jones yw gwestai Beti George mewn rhaglen wedi'i recordio ychydig ar ôl iddo ennill categori'r actor gorau yng Ngwobrau BAFTA Cymru 2016 am ei bortread o Stanley yn Yr Ymadawiad. Wedi'i eni yn Rhosllannerchrugog, dechreuodd ei yrfa gyda Theatr Ieuenctid Clwyd cyn mynd ymlaen i Goleg Cerdd a Drama Caerdydd.Mae ei waith diweddar yn cynnwys Stella, Byw Celwydd a National Treasure.
-
Ed Holden
11/12/2016 Duration: 45minGwers rapio? Pam ddim!Ed Holden, y rapiwr adnabyddus o Borthmadog, sy'n ymuno â Beti George i rannu hanes ei fagwraeth a'i yrfa o Genod Droog i Mr Phormula.Yn ogystal â pherfformio ar hyd a lled Cymru, mae o hefyd wedi bod i lefydd fel Yr Eidal, America, Sbaen a Ffrainc.
-
Huw Penallt Jones
04/12/2016 Duration: 45minMae Huw Penallt Jones wedi dychwelyd at ei wreiddiau ar ôl gyrfa amrywiol a llwyddiannus yn y diwydiant ffilmiau.Cafodd gwrdd â rhai o sêr Hollywood, yn ogystal â James Bond, ac mae ganddo fwy nag un stori ogleisiol am hwn a'r llall.Roedd yn byw ger y ffin â Mecsico am gyfnod, ond mae bellach yn darlithio ym Mhrifysgol Aberystwyth ac ar fin newid cyfeiriad yn gyfan gwbl.
-
Trefor Davies
27/11/2016 Duration: 46minBeti George yn holi'r entrepreneur cyfrifiadurol Trefor Davies.Cafodd ei eni yn Llundain cyn treulio cyfnodau yn Nolgellau, Waunfawr ac Ynys Manaw.Wedi gadael yr ysgol, aeth i'r brifysgol ym Mangor cyn symud i Lincoln i weithio i gwmni Marconi.
-
Awen Iorwerth
20/11/2016 Duration: 46minBeti George yn holi Awen Iorwerth, llawfeddyg sy'n arbenigo ar yr ysgwydd a'r benelin.Yn wreiddiol o Fôn, fe dreuliodd gyfnodau yn Cape Town, Efrog Newydd a Sydney yn hyfforddi.Mae wedi bod yn ymgynghorydd trawma ac orthopedeg, a bellach yn Gyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddiant Llawfeddygon Craidd Cymru.
-
Brian Jones
06/11/2016 Duration: 52minBeti George yn sgwrsio â Brian Jones, rheolwr-gyfarwyddwr Bwydydd Castell Howell. Beti George interviews Brian Jones, managing director of Castell Howell Foods.
-
Glenda Clwyd
30/10/2016 Duration: 55minBeti George yn holi'r delynores a'r cyn-gyflwynydd teledu, Glenda Clwyd. Beti George interviews Glenda Clwyd, a harpist and former television presenter.
-
Ken Hughes
23/10/2016 Duration: 55minBeti George yn holi Ken Hughes o Borthmadog, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Gwyl Cerdd Dant 2016. Beti George interviews Ken Hughes ahead of the 2016 Cerdd Dant Festival.
-
14/04/2013 - Sioned James
16/10/2016 Duration: 45minBeti George yn sgwrsio gyda'r arweinyddes ag asiant Sioned James.
-
09/10/2016
09/10/2016 Duration: 54minBeti George yn holi Kees Huysmans, gwneuthurwr waffls o Dregroes ac enillydd Rhuban Glas Eisteddfod Genedlaethol 2016. Beti George interviews waffle-maker Kees Huysmans.
-
Helen Kalliope Smith
02/10/2016 Duration: 56minBeti George yn holi Helen Kalliope Smith am ei gwreiddiau yng Ngroeg a'i chariad at gathod. Beti George chats to Helen Kalliope Smith about her Greek origins and love of cats.
-
25/09/2016
25/09/2016 Duration: 56minBeti George yn holi prif weithredwr Dŵr Cymru, Chris Jones, a dreuliodd amser yr Yr Eidal a'r Almaen. Beti George interviews Chris Jones, chief executive of Welsh Water.
-
18/09/2016
22/09/2016 Duration: 56minBeti George yn holi'r ffisegydd atmosfferig, yr Athro Huw Cathan Davies. Beti George interviews atmospheric physicist Professor Huw Cathan Davies OBE.
-
04/09/2016
09/09/2016 Duration: 35minBeti George yn holi Cerys Matthews ac Owen Powell o Catatonia yn 1998. Beti George's interview with Cerys Matthews and Owen Powell of Catatonia from 1998.
-
Stewart Jones (18/05/2008)
21/08/2016 Duration: 34minBeti George yn holi'r actor Stewart Jones yn 2008. Beti George talks to actor Stewart Jones, originally recorded in 2008.
-
24/07/2016
27/07/2016 Duration: 55minBeti George yn holi David Williams o Miami, Florida wrth iddo ymweld â Chymru. Beti George interviews Miami Welshman David Williams on one of his visits to Wales.
-
17/07/2016 - Elenid Jones
17/07/2016 Duration: 55minBeti George yn holi Elenid Jones am fyw yng Ngenefa, gweithio i elusen Cymorth Cristnogol, a'i pharatoadau ar gyfer antur fawr ym Madagasgar. Beti George interviews Elenid Jones.