Synopsis
Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people
Episodes
-
Ieuan Edwards
03/12/2017 Duration: 52minCafodd Ieuan Edwards brentisiaeth gyda chigydd yn Llanrwst ar ôl gadael yr ysgol, a sylweddolodd ei fod yn mwynhau delio â chig o safon, a chyfathrebu gyda chwsmeriaid.Pan yn 20 oed, gwelodd hysbyseb mewn papur lleol bod siop ar werth yng Nghonwy. Fe'i prynodd, ac mae'n dal yno hyd heddiw, yn cyflogi nifer o bobl leol.Heblaw am y busnes a'r teulu, ceir yw ei gariad pennaf.
-
Rhydian Bowen Phillips
16/11/2017 Duration: 46minCyflwynydd a chyn-aelod o'r band Mega yw gwestai Beti George yn y rhaglen hon.Cafodd Rhydian Bowen Phillips ei eni yn Aberdâr, ond symudodd y teulu i'r Rhondda, ac yno y bu ei dad yn weinidog.Bu'n ddisgybl yn Ysgol Llwyncelyn, ac roedd ymysg y cyntaf o ddisgyblion Ysgol Gyfun y Cymer, sydd yn destun balchder iddo.Aeth i Goleg y Drindod i astudio Theatr, Cerdd a'r Cyfryngau, a gweld hysbyseb yn holi am aelodau ar gyfer band newydd sbon. Y canlyniad oedd ffurfio Mega.Mae Rhydian wedi gweithio fel cyflwynydd Planed Plant, La Bamba, i-dot ac Uned 5, ac wedi ennill cystadleuaeth Cân i Gymru.Wrth sgwrsio gyda Beti, fe yw llais y stadiwm yn ystod gemau pêl-droed Cymru a Chaerdydd.
-
Eryl Besse
12/11/2017 Duration: 48minBeti George yn sgwrsio gydag Eryl Besse, aelod o Fwrdd y Comisiwn Elusennau.Cafodd ei geni yn Keele, ond ei magu yn Aberystwyth a Comins Coch, ac ar ôl graddio bu'n gweithio i'r cwmni cyfreithiol hynaf yn y byd.Bu'n llwyddiannus yn ei gyrfa yn Llundain a Paris, ac ym mhrifddinas Ffrainc y magodd ei theulu.
-
Sel Williams
05/11/2017 Duration: 49minBeti George yn holi Sel Williams o Ffestiniog.Wedi cyfnod o ansicrwydd ynghylch beth i'w wneud ar ôl graddio, i fyd addysg yr aeth yn y pen draw, gan dreulio blynyddoedd lawer ym Mhrifysgol Bangor. Yno, bu'n gweithio ar gyrsiau newydd, gan gynnwys rhai'n ymwneud â datblygiad cymunedol. Does ryfedd, felly, mai'r gymuned leol yw un o'r pethau pwysicaf yn ei fywyd ar ôl ymddeol.Mae tua dwsin o fentrau cymunedol yn Ffestiniog, ac wrth sgwrsio gyda Beti mae Sel yn pwysleisio pa mor hanfodol ydyn nhw yng nghyd-destun un o ardaloedd tlotaf Gorllewin Ewrop.Mae ganddo deimladau cryf am Gymru hefyd, a chyfraniad posib y wlad a'i phobl i'r byd yn ehangach. Ai'r cyfryngau cymdeithasol ydi'r ateb, tybed, yn hytrach na dibynnu ar sefydliadau fel prifysgolion?
-
Catharine Huws Nagashima
29/10/2017 Duration: 47minBeti George yn sgwrsio gyda Catharine Huws Nagashima.Wedi'i geni yn Llundain, symudodd y teulu i Sir Fôn pan oedd ond yn bum mis oed.Peiriannydd a oedd wedi astudio cerfluniaeth yn Fienna oedd ei thad, ac artist a bardd oedd ei mham. Does ryfedd, felly, i Catharine ei hun deithio'r byd.Ar ôl cael ysgoloriaeth gan Lywodraeth Ffrainc i astudio yno, aeth ar ei beic modur bob cam o Lundain i Wlad Groeg, ac yng Ngroeg y cyfarfodd â'i gŵr, Kochi. Symudodd y ddau i Japan, a mae'r teulu'n dal yno hyd heddiw, yn byw yn Zushi y tu allan i Tokyo.
-
David Sinclair
22/10/2017 Duration: 47minBeti George yn sgwrsio gyda'r Albanwr David Sinclair.Yn wreiddiol o Sterling, aeth i Brifysgol Aberdeen, ond gyda'i ddarpar wraig yn byw yng Nghaerdydd, daeth i Gymru i fyw am gyfnod. Ar ôl dysgu'r iaith, mae bellach yn siarad Cymraeg ers degawdau. Wedi cyfnod o fod yn weithiwr cymdeithasol, hyfforddodd i ddod yn weinidog, ac wrth sgwrsio gyda Beti mae ar fin dechrau ar gyfnod newydd yn ei fywyd. Ar ôl bron i ddeng mlynedd o waith mewn eglwys yn Glasgow, mae ef a'i wraig Mary yn paratoi i symud i Prague, gyda'r bwriad o ymddeol ymhen rhyw bedair blynedd.
-
Andrew Tamplin
15/10/2017 Duration: 49minBeti George yn sgwrsio gydag Andrew Tamplin.Yn wreiddiol o Lanelli, cafodd ei fagu ar aelwyd ddwyieithog, a roedd y capel yn rhan bwysig o'r fagwraeth honno. Bu'n canu'r organ yno o oedran ifanc iawn, a daeth i arwain côr merched yn y dref, yn ogystal ag arwain cymanfaoedd canu yn yr ardal.Dod yn athro oedd y nod wrth fynd i Goleg y Drindod, ond newidiodd ei feddwl a mynd i fyd bancio. Aeth hynny ag o i sawl lle gwahanol, gan gynnwys Southampton, Ynysoedd y Philipinau a Manila. Yna, aeth yn sâl gyda blinder meddyliol a chorfforol, a dechreuodd deimlo'n isel iawn.Ar ôl ymddiswyddo o'r banc, a chyfnod o driniaeth i drechu'r iselder, dechreuodd feddwl am gynnig cymorth i eraill gyda'u datblygiad gyrfa. Canna Consulting ydi enw'r cwmni yng Nghaerdydd, a mae'n fusnes sydd wedi tyfu dros y blynyddoedd.Mae'n byw gyda John, ei bartner, sydd wedi bod yn graig iddo drwy'r cwbl, a mae'r ddau yn adeiladu tŷ yn Y Barri.
-
Elin Jones
08/10/2017 Duration: 50minBeti George yn sgwrsio gydag Elin Jones.Ar ôl cael ei magu ar fferm yn Llanwnnen, aeth i Gaerdydd i astudio economeg.Doedd gwleidyddiaeth ddim o ddiddordeb mawr iddi pan yn ifanc, ond roedd buddugoliaeth Cynog Dafis yn etholiad cyffredinol 1992 yn ysbrydoliaeth.Ddwy flynedd wedi refferendwm 1997 o blaid datganoli, cafodd ei hethol yn Aelod Cynulliad Ceredigion, a hynny yn enw Plaid Cymru.Mae uchafbwyntiau ei gyrfa'n cynnwys blynyddoedd o fod yn Weinidog Materion Gwledig Cymru, yn ystod cyfnod o gydlywodraethu gyda Llafur.Hi yw Llywydd y Cynulliad erbyn hyn, sy'n golygu aros yn wleidyddol ddiduedd bob amser, yn ogystal â gweithio a chymdeithasu ar yr un pryd. Oherwydd hynny, does dim llawer o amser i hamddena.
-
Hywel Davies
01/10/2017 Duration: 50minBeti George yn holi Hywel Davies.Wedi'i eni ym Mhontarddulais, symudodd y teulu i'r gogledd-ddwyrain pan oedd ond yn 18 mis oed, cyn symud yn ôl i'r de flynyddoedd yn ddiweddarach.Ar ôl blynyddoedd o fod yn newyddiadurwr yng Nghymru, gan gynnwys gweithio i HTV yng Nghaerdydd, symudodd i America. O'r wlad honno y daw ei wraig, Charlotte, ond roedd hi wedi dysgu Cymraeg cyn i'r ddau gwrdd.Yn ôl yng Nghymru, symudodd y teulu i Dreforys, ac roedd ei waith teledu'n cynnwys Hel Straeon.Yn 2007, dechreuodd gyhoeddi Y Papur Gwyrdd, sydd bellach yn wefan. Gyda chymorth Charlotte, tynnu sylw at honiadau difrifol gwyddonwyr ynghylch peryglon i'r Ddaear yw'r nod.
-
Eleri Fôn Roberts
24/09/2017 Duration: 50minBeti George yn sgwrsio gydag Eleri Fôn Roberts o Lanfairpwll.Yn blentyn swil dros ben, cafodd ei hanfon i ysgol breifat i fagu hyder, ac mae'n diolch i'w rhieni am y penderfyniad hwnnw.Ar ôl colli ei thad, ei brawd a'i darpar ŵr o fewn ychydig flynyddoedd i'w gilydd, aeth i Henffordd i ddechrau o'r newydd. Bu'n gweithio fel nyrs yng Nghaeredin hefyd, ond daeth yn ôl i ogledd Cymru a dechrau canolbwyntio ar weithio gyda phlant a'u teuluoedd.Wrth sgwrsio gyda Beti, mae'n ymddeol fel nyrs arbenigol i blant gyda chanser, ac yn edrych ymlaen at wneud rhywfaint o deithio.
-
Ian Cottrell
17/09/2017 Duration: 49minBeti George yn holi Ian Cottrell.Ar ôl dechrau ei yrfa fel athro yn Aberdâr, daeth yn adnabyddus fel cyflwynydd teledu ac aelod o'r grŵp Diffiniad.Mae cerddoriaeth yn dal yn rhan bwysig iawn o'i fywyd, a does ond angen mynd i Glwb Ifor Bach yng Nghaerdydd am brawf o hynny. Yno, mae'n un o DJs Dirty Pop pob nos Sadwrn.
-
Sian Northey
10/09/2017 Duration: 47minBeti George yn sgwrsio gyda Sian Northey.Wedi'i magu yn Nhrawsfynydd, mae bellach yn byw ym Mhenrhyndeudraeth.Dod yn filfeddyg oedd ei nod ar un adeg, er bod athrawon Cymraeg a Saesneg yn anhapus iddi ddewis dilyn y gwyddorau, ond gydag amser daeth llenyddiaeth yn ôl i'w bywyd.Wedi sawl swydd, gan gynnwys cyfnodau yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd a Gwasg y Bwthyn, penderfynodd weithio ar ei liwt ei hun.Gyda llyfrau i blant ac oedolion wedi'u cyhoeddi ganddi, mae wedi hen ennill ei phlwy fel awdur.
-
Wyn Bowen Harries
03/09/2017 Duration: 50minBeti George yn sgwrsio gyda'r actor Wyn Bowen Harries.Wrth astudio biocemeg yn Aberystwyth, roedd yn treulio llawer iawn o'i amser yn Theatr y Werin, ac aeth i'r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd i ddilyn cwrs ôl-radd.Gyda dyfodiad S4C, daeth yn wyneb cyfarwydd i wylwyr y sianel. Mae ei waith ar hyd y blynyddoedd yn cynnwys rhannau yn Dinas, Rownd a Rownd, Pengelli a 35 Diwrnod, ond y ffilm Gadael Lenin yw uchafbwynt ei yrfa.Yn fwy diweddar, dilynodd gwrs MA mewn Rheolaeth Amgylcheddol Gynaliadwy, gan arwain at sefydlu Pendraw - cwmni sy'n ceisio cyfuno profiadau theatrig gyda hanes a gwyddoniaeth.
-
Albert Francis
27/08/2017 Duration: 34minBeti George yn holi Albert Francis, cyn-ofalwr ym Mharc yr Arfau a Gerddi Soffia. Beti George chats to Albert Francis, former groundsman at Cardiff Arms Park and Sophia Gardens.
-
John Grisdale
15/08/2017 Duration: 50minBeti George yn sgwrsio gyda John Grisdale.Wedi'i eni ym Mangor a'i fagu ym Mhenisarwaun, symudodd i Gaernarfon pan oedd ond yn blentyn bach.Ar ôl gyrfa ym maes addysg, gan gynnwys dod yn bennaeth Ysgol Brynrefail yn Llanrug yn y 1990au, cafodd swydd gyda Heddlu Gogledd Cymru yn gweithio ar gynllun cyswllt rhwng yr heddlu a holl ysgolion Cymru.Mae bellach wedi ymddeol, ond yn dal yn aelod gwirfoddol o Dîm Achub Mynydd Llanberis. Fo hefyd oedd un o sylfaenwyr Clwb Mynydda Cymru ar ddiwedd y 1970au.
-
Tony Bianchi
13/08/2017 Duration: 39minBeti George yn sgwrsio gyda'r llenor Tony Bianchi, enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau 2015. Beti George interviews litterateur Tony Bianchi.
-
Irfon Williams
30/07/2017 Duration: 40minBeti George yn holi Irfon Williams o Fangor wrth iddo frwydro'n erbyn canser ac ymgyrchu er mwyn helpu eraill. Beti George interviews cancer patient and campaigner Irfon Williams.
-
Vivian Parry Williams
23/07/2017 Duration: 48minBeti George yn sgwrsio â Vivian Parry Willams.Yn enedigol o Benmachno, mae bellach yn byw ym Mlaenau Ffestiniog, ac yn awdur llyfrau fel Plwyf Penmachno ac Elis O'r Nant - Cynrychiolydd y Werin.
-
Sara Powys
13/07/2017 Duration: 46minBeti George yn sgwrsio â Sara Powys.Wedi cyfnodau yn gweithio ym meysydd y diwydiant ymwelwyr a iechyd meddwl, hi yw perchennog Coffi Cwtch yng Nghaerdydd.