Pigion: Highlights For Welsh Learners

  • Author: Vários
  • Narrator: Vários
  • Publisher: Podcast
  • Duration: 101:57:18
  • More information

Informações:

Synopsis

Y darnau gorau o raglenni BBC Radio Cymru gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. BBC Radio Cymru highlights for Welsh learners.

Episodes

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 2il o Fai 2023

    02/05/2023 Duration: 12min

    Pigion Dysgwyr – Geraldine MacByrne JonesMae Geraldine MacByrne Jones yn yn byw yn Llanrwst, ond yn dod o’r Wladfa yn wreiddiol, sef y rhan o Ariannin ble mae’r Gymraeg yn dal i gael ei siarad. Yr wythnos diwetha buodd hi’n sgwrsio gyda Aled Hughes am sut mae’r ddwy wlad, Cymru a’r Ariannin wedi ei hysbrydoli i farddoni…..Ariannin ArgentinaYsbrydoli To inspireBarddoni To write poetryTirwedd LandscapeYsbryd SpiritDaearyddiaeth gorfforol GeographyDychymyg ImaginationYsgogi To motivateDigwyddiadau hanesyddol An historical eventPigion Dysgwyr – Dafydd CadwaladrMate ydy’r diod mwya poblogaidd yn y Wladfa ond basai nifer yn dweud mai te ydy diod mwya poblogaidd Cymru, ac roedd hi’n Ddiwrnod Rhyngwladol Yfed Te yn ddiweddar. Ar eu rhaglen fore Gwener buodd Trystan ac Emma yn sgwrsio gyda un sydd yn ffan enfawr o yfed te sef Dafydd Cadwaladr o Fethesda. Dyma fe i sôn am ei hoff de…Nodweddiadol TypicalArogl AromaCryfhau a chyfoethogi To strengthen and enrichCwdyn BagYsgafnach

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 25ain o Ebrill 2023

    26/04/2023 Duration: 15min

    Pigion Dysgwyr – Nia WilliamsCafodd Aled Hughes gwmni y seicolegydd Nia Williams yr wythnos diwetha i drafod chwerthin. Pam bod ni chwerthin tybed, a pha effaith mae chwerthin yn ei gael ar y corff? Dyma Nia’n esbonio... Chwerthin LaughterTreiddio i mewn To penetrateYmwybodol AwareYsbrydoli To inspireCadwyn A chainPryderus ConcernedDygymod efo To cope withDychwelyd To returnParhau To continuePigion Dysgwyr – Andy BellNia Williams oedd honna’n sgwrsio gydag Aled Hughes am chwerthin. Am dros ganrif, Sydney oedd dinas mwyaf poblog Awstralia. Ond erbyn hyn Melbourne sydd gyda’r teitl hwnnw, ar ôl i ffiniau‘r ddinas newid i gynnwys rhannau o ardal Melton. Ond mae rhai 'Sydneysiders' fel mae nhw'n cael eu galw - yn anhapus - ac yn cwestiynu'r ffordd y mae Melbourne wedi mynd ati i ehangu. Cafodd y newyddiadurwr Andy Bell sy’n byw yn Awstralia air am hyn gyda Jennifer Jones ar Dros Ginio bnawn Mawrth…..Canrif CenturyPoblog PopulousFfiniau BordersEhangu To expandDiffiniad

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 18fed o Ebrill 2023

    18/04/2023 Duration: 11min

    Bore CothiDim ond ers blwyddyn mae Angharad Jones yn dysgu Cymraeg ac eto erbyn hyn mae hi’n ddigon rhugl i gynnal sgwrs ar Radio Cymru gyda Shan Cothi. Mae hi’n dod o Fedwas ger Caerffili a gofynnodd Shan iddi hi faint o Gymraeg oedd yn ei theulu... Pert DelYn ôl According toCenhedlaeth GenerationMo’yn EisiauLlywodraeth Cymru The Welsh GovernmentFfili credu Methu coelioYn gyffredinol GenerallyLlwyfan StageY TalwrnAngharad Jones oedd honna sydd wedi dysgu Cymraeg yn wych a hynny mewn blwyddyn yn unig. Cystadleuaeth rhwng timau o feirdd ydy Talwrn Radio Cymru ac yn aml iawn mae beirdd gorau a mwya profiadol Cymru yn cymryd rhan. Yr wythnos diwetha ar Y Talwrn, cynhaliwyd cystadleuaeth wahanol i’r arfer. Am y tro cyntaf dwy ysgol oedd yn cymryd rhan sef Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg ac Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Caerdydd a hynny yng Nghapel Bethel, Rhiwbeina.Pennill ymson SoliloquyGoruchwyliwr InvigilatorLleddf Miserable (but also = minor in music)Y gamp The achieve

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 11eg o Ebrill 2023

    11/04/2023 Duration: 13min

    Pigion Dysgwyr – Al LewisAr Beti a’i Phobol dydd Sul diwetha cafodd Beti gwmni y cerddor Al Lewis fel gwestai. Esboniodd Al sut aeth e ati i sgwennu llythyrau ac i e-bostio er mwyn cael gwaith yn Nashville, Tennessee a llefydd eraill……Cynhyrchydd ProducerO fewn WithinCerddoriaeth MusicDychmygu To imagineBreuddwydion DreamsHynod dalentog Extremely talentedProfiad anhygoel An incredible experienceHwb A boostAr y trywydd iawn On the right trackCael ei barchu Being respectedPigion Dysgwyr – Sonia EdwardsProfiad anhygoel i Al Lewis yn fanna yn Nashville, Tenesse. Buodd y nofelydd Sonia Edwards yn sgwrsio gyda Dei Tomos ar ei raglen yr wythnos diwetha am ei nofel ddirgelwch newydd. Dyma Sonia i sôn mwy….Llacio To loosen Dirgelwch MysteryLlofruddiaeth MurderYn feddalach SofterYmgynghori To consultYmchwil To researchCyffuriau DrugsDarganfod To discoverYn ymarferol PracticalDoethuriaeth PhDPigion Dysgwyr – Jason MohammadA dyna i c

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 4ydd o Ebrill 2023

    03/04/2023 Duration: 14min

    Cafodd Aled Hughes sgwrs wythnos diwetha gyda Sioned Mair am Fondue, bwyd sydd yn dod yn ôl i ffasiwn y dyddiau hyn. Ond beth yn union yw Fondue? Doedd dim syniad gydag Aled a dyma i chi Sioned yn esbonio…Toddi To meltMae’n debyg ProbablyAmrwd RawRhannu To shareArgymell To recommendPigion Dysgwyr – Troi’r TirMae’n debyg bod Fondue yn un o nifer o fwydydd y 70au sy’n dod yn ôl i ffasiwn. Cyw iâr mewn basged unrhyw un? Mae Troi’r Tir ar Radio Cymru yn rhoi sylw i faterion ffermio a chefn gwlad, a’r wythnos diwetha dysgon ni ychydig am waith y fet. Mae Malan Hughes yn filfeddyg yn ardal Y Ffor ger Pwllheli a dyma hi yn rhoi syniad i ni o’r math o waith mae hi’n ei wneud o ddydd i ddydd……Milfeddyg VetUn ai EitherYmddiddori To take an interest inAmbell i lo Some calvesCathod di-ri Innumerable catsPry lludw Wood liceSilwair SilageArdal eang A wide areaPigion Dysgwyr - MaoriWel am fywyd prysur ac amrywiol sy gan milfeddygon on’d ife? I Seland Newydd nawr - ble mae Iwan Llyr Jone

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 28ain o Fawrth 2023

    27/03/2023 Duration: 14min

    Pigion Dysgwyr – Fiona BennettWeloch chi’r gyfres ‘The Piano’ oedd ar y teledu yn ddiweddar? Cyfres oedd hon sy’n rhoi cyfle i bianydd amatur chwarae o flaen panel o feirniaid i drio ennill gwobr, sef perfformio yn y Festival Hall yn Llundain. Un gymerodd ran yn y gyfres oedd y gantores Fiona Bennet a buodd hi’n siarad gyda Shan Cothi am y profiadBeirniaid JudgesCyfres SeriesCredwch e neu beidio Believe it or notCyfrinach SecretCyfansoddi To composeAngladd FuneralHysbys(eb) AdvertMabwysiadu milgwn Adopting greyhoundsDere lan Tyrd i fynyAr bwys ein gilydd Wrth ymyl ein gilyddPigion Dysgwyr – Beti GeorgeYchydig o hanes Fiona Bennett ar y gyfres ‘The Piano’ yn fanna ar Bore Cothi. Buodd Delyth Morgan yn chwarae rygbi dros Gymru yn y gorffennol ac nawr mae hi'n rheoli tîm rygbi merched Cymru dan 18 ac 20 oed. Ond ugain mlynedd yn ôl symudodd hi i fyw i Seland Newydd. Cafodd hi waith yno, priododd hi a buodd hi'n datblygu rygbi merched yno. Dyma Delyth yn sôn wrth Beti George am ble roed

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 21ain o Fawrth 2023

    21/03/2023 Duration: 16min

    Pigion Dysgwyr – Doctor CymraegCafodd Steven Rule ei eni yn Nghoed-llai ger yr Wyddgrug ond mae llawer yn ei nabod erbyn hyn fel y Doctor Cymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol. Ar Twitter mae Steven yn ateb cwestiynau dysgwyr Cymraeg am yr iaith. Gofynodd Aled Hughes iddo fe’n gynta, gafodd Steven ei fagu ar aelwyd Cgymraeg?Aelwyd HomeCyfryngau cymdeithasol Social mediaYr Wyddgrug MoldBodoli To existBellach By nowFel petai As it wereAr y ffin On the borderAnogaeth EncouragmentPigion Dysgwyr – Dawnswyr MonOn’d yw hi’n braf cael clywed am blant y ffin yn cael Dysgu Cymraeg? Daliwch ati Doctor Cymraeg! Buodd Mair Jones yn sgwrsio gyda Shan Cothi ar ei rhaglen yr wythnos diwetha yn apelio am aelodau newydd i ymuno â chriw Dawnswyr Môn. Dyma Mair i esbonio yn gynta sut a pryd ffurfiwyd y grŵp...Mi ddaru John sefydlu John formedTreulio To spend (time)Y clo The lockdownAil-gydio To rekindleGwlad Pwyl PolandCynulleidfaoedd AudiencesAnferth HugeYn rhwydd Yn hawddYn

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 14eg o Fawrth 2023

    14/03/2023 Duration: 14min

    Pigion Dysgwyr – Adam yn Yr ArddDyn ni i gyd wedi clywed, mae’n siŵr, am brinder a chostau tomatos yn ein siopau ni a dyma flas i chi ar sgwrs gafodd Shan Cothi gyda’r garddwr Adam Jones neu Adam yn yr Ardd am y ffrwyth yma. Mae Adam yn credu dylen ni dyfu tomatos ein hunain. Dyma fe’n sôn yn gynta’ am sawl math o domatos sydd yn bosib i ni eu tyfu.Prinder ScarcityTueddol o To tend toYn glou QuickAeddfedu To ripenTŷ gwydr GreenhouseAnferth HugeHadau SeedsChwynnu To weedOlew olewydd Olive oilMaethlon NutritiousPigion Dysgwyr - Pat MorganFfwrdd a ni i’r tŷ gwydr felly i dyfu tomatos… Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobl bnawn Sul oedd y cerddor Pat Morgan oedd yn aelod, gyda David R Edwards, o’r band chwedlonol Datblygu. Yn anffodus buodd David farw ddwy flynedd yn ôl, ond mae gan Pat atgofion melys iawn ohono……Chwedlonol LegendaryAtgofion MemoriesWedi dwlu Wedi gwirioni Wastad AlwaysSbort Fun Pigion Dysgwyr – Elin RobertsPat Morgan oedd honna’n rha

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 7fed o Fawrth 2023

    07/03/2023 Duration: 14min

    Pigion Dysgwyr – HandelCyfansoddwr y mis ar raglen Shan Cothi fore Llun oedd George Freidric Handel. Ymunodd Geraint Lewis â Shan i sôn mwy am y ffigwr mawr yma ym myd cerddoriaeth glasurol. Dechreuodd Geraint drwy sôn am dad Handel…Cyfansoddwr ComposerParchus RespectableCyfreithiwr LawyerOfferynnau InstrumentsColli ei dymer Losing his temperCwato To hideDianc To escapeDeifiol CraftyIachawdwriaeth! Goodness! (lit: salvation)Wrth reddf InstinctivePigion Dysgwyr – CoffiY cyfansoddwr Geraint Lewis oedd hwnna’n disgrifio sut dechreuodd gyrfa arbennig iawn Handel. Pnawn Llun ar Dros Ginio cafodd Cennydd Davies sgwrs gyda pherchennog cwmni coffi Poblado yn Nantlle, Gwynedd, sef Steffan Huws. Diben y sgwrs oedd ceisio dod i ddeall pam bod y diwydiant a’r diwylliant coffi mor boblogaidd y dyddiau hyn.Diben PurposeDiwydiant a diwylliant Industry and cultureDeniadol AttractiveArogl SmellCymdeithasol SocialHel atgofion ReminiscingMam-gu a tad-cu Nain a taid ` Pi

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 28ain o Chwefror 2023

    28/02/2023 Duration: 13min

    Pigion Dysgwyr – Heledd Sion ...dwy Heledd - Heledd Cynwal a’r gwestai ar ei rhaglen, Heledd Sion. Buodd y ddwy yn sôn am fyd ffasiwn ac yn arbennig felly am ddillad ail law. Dyma Heledd Sion yn esbonio sut dechreuodd ei chariad hi at ffasiwn, a pham aeth hi ati i werthu hen ddillad ar y weUwch seiclo To upcycleGwinio To sew Cyfnither Female cousinGwehyddu WeavingYn llonydd StillAddasu To adaptAwch Eagerness Esblygu To evolveDidoli To sortBuddsoddi To investPigion Dysgwyr - Francesca SciarilloHeledd Cynwal yn fanna’n cadw sedd Shan Cothi’n gynnes ac yn sgwrsio gyda Heledd Sion am uwch seiclo dillad. Francesca Sciarillo oedd Dysgwr y Flwyddyn yr Urdd yn 2019 ac eleni mae hi wedi bod yn gweithio fel tiwtor Cymraeg i Oedolion. Eidalwyr ydy rhieni Francesca, ac ar raglen Dei Tomos nos Sul buodd hi’n dweud faint o ddylanwad gafodd ei hathrawes Gymraeg arni, sef Nia Williams, pan oedd Francesca yn ddisgybl yn Ysgol Alun yr Wyddgrug .Disgybl PupilYr Wyddgrug MoldDylanwad

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 21ain o Chwefror 2023

    21/02/2023 Duration: 13min

    Pigion Dysgwyr – Aled Hughes 13.2Sut beth oedd golchi dillad cyn dyddiau peiriannau golchi, neu cyn dyddiau trydan hyd yn oed? Wel, yn ystod yr wythnos diwetha yn yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn Llanberis, buodd plant ysgol yn cael gwybod mwy am hyn gan ‘ Anti Marged’ sef yr actores Rhian Cadwaladr. Dyma Mari Morgan o’r Amgueddfa yn sôn wrth Aled Hughes am y digwyddiad……Amgueddfa Lechi Genedlaethol National Slate MuseumDathlu arferion Celebrating the customDiwrnod penodol A specific dayPlantos KidsCyflwyno Presented Cymhleth ComplicatedRhoi benthyg To lendTeimlo trueni To pityBwrdd sgwrio Scrubbing boardChwarelwyr QuarrymenPigion Dysgwyr - Jo HeydePlant y gogledd yn cael dipyn o sioc dw i’n siŵr o ddysgu sut oedd golchi dillad ers talwm gan ‘Anti Marged’. Dim ond ers pedair blynedd mae Jo Heyde (ynganiad – Haidy Cymraeg) o Lundain wedi dechrau dysgu Cymraeg, ac mae hi erbyn hyn yn bwriadu dod i Gymru i fyw. Dyma hi’n dweud wrth Dei Tomos pryd dechreuodd ei diddordeb hi yn y Gy

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 14eg o Chwefror 2023

    15/02/2023 Duration: 14min

    Pigion Dysgwyr – DionMae Dion Paden, sy’n dod o Gerrigydrudion yn Sir Conwy yn wreiddiol, wedi symud i fyw i Darwin yng ngogledd Awstralia, ac yn ddiweddar cafodd Shan Cothi gyfle i sgwrsio gyda Dion. Gofynnodd Shan iddo fe’n gynta pam symudodd e i Awstralia?Yn ddiweddar RecentlyPigion Dysgwyr - MeinirDion o Darwin yn siarad gyda Shan Cothi yn fanna. Ar raglen Beti a’i Phobol ddydd Sul y gwestai oedd Meinir Thomas o Ynys Môn. Mae Meinir yn chwarae hoci i dîm dros 55 Menywod Cymru. Mae hi’n hoffi nofio gwyllt hefyd a dyma Meinir i ddweud beth sydd mor arbennig am nofio ym mhob tywydd a hynny drwy’r flwyddyn.Menywod MerchedArnofio To floatTonnau WavesPlentyndod ChildhoodGolwg gwirion arna i I looked ridiculous Be ar y ddaear…? What on earth…?Gwefreiddiol ThrillingMorlo SealPigion Dysgwyr – Dros Ginio 6.2Meinir yn poeni dim am beth mae pobl yn ei feddwl amdani’n nofio’n wyllt, chwarae teg iddi hi. Gwestai Dewi Llwyd yn y slot 2 cyn 2 ar Dros Ginio bnawn Llun oedd y cyn

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 7fed o Chwefror 2023

    07/02/2023 Duration: 15min

    Pigion Dysgwyr – Shan Jones Dych chi wedi gwylio’r rhaglen, Priodas Pum Mil ar S4C o gwbl? Mae tîm y rhaglen yn gwneud holl drefniadau priodas ac yn ffilmio’r cyfan. Ar Chwefror 19 bydd priodas Shan Jones o bentref Llanuwchllyn a’i gŵr Alun i’w gweld ar y rhaglen. Priododd y ddau haf y llynedd, a chafodd Shan Cothi ar Bore Cothi gyfle i holi Shan Jones ar ddydd Santes Dwynwen, gan ddechrau drwy ofyn, sut brofiad oedd e i gael y camerâu yn eu dilyn nhw ar y diwrnod mawr?Ffeind CaredigCymwynasgar ObligingAm oes For lifeYstyried To considerGoro (gorfod) fi wneud dim byd Doedd rhaid i mi wneud dimAnhygoel IncredibleRhannu’r baich Sharing the loadPwysau PressureClod PraisePigion Dysgwyr – Gareth John BaleShan Jones oedd honna’n sôn am y profiad o gael tîm Priodas Pum Mil i drefnu ei phriodas. Nesa, dyn ni’n mynd i gael blas ar sgwrs gafodd Bethan Rhys Roberts gyda Gareth Bale ar ei rhaglen Bore Sul. Nage nid y Gareth Bale yna , ond yr actor Gareth John Bale. Mae e’n actor sydd wedi

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr 31ain 2023

    31/01/2023 Duration: 15min

    Pigion Dysgwyr – Angharad a Elizabeth Cafodd Angharad Alter ac Elizabeth James, sy’n gweithio i Gymwysterau Cymru, eu magu yn Whitby yn Swydd Efrog, cyn i Angharad a’i theulu symud i Reading. Cafodd Shan Cothi sgwrs gyda’r ddwy am eu profiadau o ddysgu Cymraeg. Dyma beth oedd gan Angharad i’w ddweud yn gynta.Cymwysterau Cymru Qualifications WalesAnnog ein gilydd Encouraging each otherY cyfnod clo The lockdownRhyfeddol AstonishingCyd-destun ContextCydbwysedd BalanceCyfleoedd OpportunitiesAwyrgylch AtmospherePigion y Dysgwyr – Beti 29.1Syniad diddorol on’d ife – creu ystafelloedd siarad Cymraeg er mwyn dod i arfer â sgwrsio yn yr iaith. Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobl bnawn Sul oedd Rhian Boyle, awdur y ddrama radio Lush. Dyma Rhian yn esbonio wrth Beti ychydig am ei dyddiau ysgol ym Mhorthaethwy, Ynys Môn.Mae gen i gywilydd I’m ashamedAmddiffyn To defendYsgaru To divorceTGAU GCSEHunangofiant AutobiographyTrais ViolenceFatha FelCyboli Messin

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr 24ain 2023

    24/01/2023 Duration: 15min

    Pigion Dysgwyr – Chris SummersMae’r cogydd o Gaernarfon Chris Summers newydd symud i Lundain i weithio fel prif chef tafarn hynafol y Cheshire Cheese ar Fleet Street yng nghanol dinas Llundain. Cafodd Trystan Ellis Morris gyfle i holi Chris am ei yrfa fel chef, gan ddechrau gyda’r adeg pan wnaeth e gyfarfod â Gordon Ramsay.Hynafol AncientLasai fo Basai fe wedi galluPoblogaidd PopularCoelio CreduParch RespectCyflwyno To introduceSbio EdrychSmalio EsgusPadell ffrio FfrimpanPigion Dysgwyr – Nerys Howell 16.1Chris Summers yn amlwg â pharch mawr tuag at Gordon Ramsay, a r’yn ni’n aros ym myd y cogyddion gyda’r clip nesa. Buodd y gogyddes Nerys Howell yn sgwrsio gyda Shan Cothi am y gwahanol ffyrdd r’yn ni’n defnyddio sbeisys...Ryseitiau RecipesSy’n cynnwys Which includeSawrus SavouryTanllyd FieryPobi To bakeYmchwil Research Penodol SpecificBuddion iechyd Health benefitsMeddyginiaethau MedicinesAfiechydon IllnessesPigion Dysgwyr – Munud I Fe

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr 17eg 2023

    17/01/2023 Duration: 11min

    Pigion Dysgwyr – Kath Morgan 8.1Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobl wythnos dwetha oedd cyn gapten pêl-droed merched Cymru, Kath Morgan. Mae angen bod yn berson hyderus iawn i gymryd y swydd honno on’d oes? Wel nid felly yn ôl Kath...Cyn gapten Former captainYn falch ProudDifaru To regretBraint An honourYmfalchïo To be proud of oneselfCyfrifoldeb ResponsibilityGormod o bwysau Too much pressureMynnu To insistCyfarwyddiadau InstructionsPigion Dysgwyr 10.1 – Gareth Bale O cyn-gapten tîm merched Cymru i gyn-gapten tîm dynion Cymru - Gareth Bale, a daeth y newyddion yr wythnos diwetha bod y pêl-droediwr enwog yn ymddeol. Dyma Nic Parri yn edrych yn ôl ar ei yrfa ar Dros Frecwast fore Mercher.Cyfadde(f) To admit Di-ri(f) InnumerableAnnisgwyl UnexpectedYstyried To considerSyllu To stareLlusgo To dragPencampwriaeth ChampionshipYsbrydoliaeth InspirationAruthrol HugeBreuddwydiol, euraidd Dreamy, goldenYng nghysgod In the shadow Pigion Dysgwyr

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr 10fed 2023

    10/01/2023 Duration: 14min

    Aled Hughes – Warner Brothers 5.1 Sefydlwyd y cwmni ffilm Warner Brothers ganrif yn ôl i eleni. Bore Iau cafodd Aled Hughes gwmni Dion Hughes yr adolygydd ffilm i sôn ychydig am y cwmni enwog hwnnw. Adolygydd ReviewerSefydlwyd Was establishedCanrif A centuryCreu To createAnferth HugeBrodyr BrothersY dechreuad The beginningDatblygu To developParhau ContinuingBodoli To exist Beti a’I Phobl – Rhian Morgan Ychydig o hanes cwmni Warner Brothers yn fanna ar raglen Aled Hughes. Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobl yr wythnos diwethaf oedd yr actores a’r gomediwraig Rhian Morgan. Dyma hi’n sôn am yr adeg pan fuodd hi’n perfformio yng Nghadeirlan St Paul’s yn Llundain Y Gadeirlan The Cathedral Portreadu To portrayDywediadau SayingsLlwyfan StageGanwyd Was bornBri PopularCredwch neu beidio Believe it or notSyfrdan AstoundedDychmygol ImaginaryPigion Dysgwyr – Nofio Oer 3.1 A Rhian Morgan wed

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr y 6ed 2023

    05/01/2023 Duration: 14min

    Bore Cothi – Iau – 29/12/22 Heledd Cynwal oedd yn cyflwyno Bore Cothi yn lle Shan Cothi wythnos diwetha a buodd hi’n gofyn i sawl person sut flwyddyn oedd 2022 wedi bod iddyn nhw. Roedd yr awdures Caryl Lewis wedi cael blwyddyn cynhyrchiol iawn, fel cawn ni glywed yn y clip nesa ‘ma... Cynhyrchiol ProductiveYmhelaethwch! Say more!Llwybr PathAnarferol UnusualDatblygu To developMynd ati To go about itYn fy nhwpdra In my stupidityTueddu Tend toNaill ai...neu Either...orCynrychioli To representDros Ginio – Iau 29/12/22 Yr awdures Caryl Lewis yn sôn am ei blwyddyn brysur ac anarferol. Rhaglen arall fuodd yn edrych yn ôl ar 2022 oedd Dros Ginio a chlywon ni rai o’r sgyrsiau diddorol gafwyd yn ystod y flwyddyn. Dyma flas ar sgwrs rhwng Alun Thomas a’r Dr Elain Price sydd yn ddarlithydd mewn Astudiaethau Cyfryngau ym Mhrifysgol Abertawe. Gofynnodd Alun iddi hi beth oedd ei hoff ffilm... Darlithydd LecturerAstudiaethau Cyfryngau Media studies S

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 30ain 2022

    30/12/2022 Duration: 13min

    Troi’r Tir – Cofio’r Nadolig 18.12 Buodd Troi’r Tir yn hel atgofion am Nadoligau’r gorffennol. Un o’r rheini siaradodd ar y rhaglen oedd Bessie Edwards o Gribyn ger Llanbedr-Pont-Steffan, a dyma hi’n cofio dydd Nadolig oedd yn wahanol iawn i Nadoligau’r dyddiau hyn... Hel atgofion Recollecting Tylwyth TeuluArferiad A customCelyn HollyAddurno To decorateDim byd neilltuol Nothing particularly Melysion SweetsCyngerdd cystadleuol A competitive concertAdloniant EntertainmentBore Cothi – Alwyn Sion 20.12 Blas ar Nadoligau’r gorffennol yn fanna gydag atgofion Bessie Edwards. Yn ystod wythnos y Nadolig ar Bore Cothi clywon ni Shan Cothi yn holi gwahanol bobl beth yw ystyr y Nadolig iddyn nhw. Dyma i chi Alwyn Sion yn sôn am sut oedd cymuned ffermio ardal Meirionnydd yn paratoi at yr Ŵyl….. Gwyddau GeeseNefoedd HeavenPlentyndod ChildhoodPrysurdeb BusinessPluo To pluckCynnau tân To light a fireLlygad barcud A keen eyeRhwygo

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 20fed 2022

    20/12/2022 Duration: 13min

    Radio Ysbyty – Codi Calon Claf 18.12 Nos Sul buodd Huw Stephens yn rhoi hanes dyddiau cynnar Radio Ysbyty Glangwli Caerfyrddin, gafodd ei sefydlu bum deg mlynedd yn ôl. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd Huw gyda sylfaenydd yr orsaf, y darlledwr Sulwyn Thomas Cafodd ei sefydlu Was establishedSylfaenydd FounderDarlledwr BroadcasterFy annwyl wraig My dear wifeCadeirio ChairingFfodus LwcusCymysgu’r sain Mixing the soundRo’n i’n methu’n deg I couldn’t at allAelod selog A faithful memberAmbell I Gan – Bronwen Lewis 11.12 Ychydig o hanes sefydlu Radio Ysbyty Glangwli yn fanna gan Sulwyn Thomas. Cafodd Gwennan Gibbard gwmni’r gantores Bronwen Lewis ar y rhaglen Ambell i Gân. Gofynnodd Gwenan iddi hi yn gynta pwy sydd wedi dylanwadu arni hiDylanwadu To influenceTyfu lan Tyfu fynyTad-cu TaidEmynau HymnsTraddodiadol TraditionalYn grac Yn flinCyfweliad InterviewSwnllyd NoisySwynol BeautifullyFfili Methu Bore Cothi -

page 5 from 19