Pigion: Highlights For Welsh Learners

  • Author: Vários
  • Narrator: Vários
  • Publisher: Podcast
  • Duration: 96:18:51
  • More information

Informações:

Synopsis

Y darnau gorau o raglenni BBC Radio Cymru gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. BBC Radio Cymru highlights for Welsh learners.

Episodes

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 4ydd o Hydref 2022

    04/10/2022 Duration: 14min

    BETI A’I PHOBOL Karl Davies oedd gwestai Beti George yr wythnos hon. Mae Karl newydd ddod yn ôl i Gymru ar ôl bod yn dysgu Saesneg i oedolion am bedair blynedd yn China…a dyma fo’n sôn am hanes Cadi, y gath fach, wnaeth deithio mewn awyren yr holl ffordd o China i Gaerdydd...  Y gradures fach - Poor thing (lit: the little creature) Mabwysiadu - To adopt Erchyll - Dreadful Epaod - Apes TRYSTAN AC EMMA Mae Elsi Williams yn dod o Fethesda yng Ngwynedd yn wreiddiol ond yn byw yn Llandudno erbyn hyn. Mae hi’n mynd i nifer fawr o ddosbarthiadau ffitrwydd i gadw’n heini, fel cawn ni glywed yn y clip nesa ‘ma. Trïwch ddyfalu be ydy oedran Elsi wrth i chi wrando arni’n sôn am gadw’n heini – mi gewch chi’r ateb cyn diwedd y clip… Ddaru - Gwnaeth Coedwig - Wood Clychau’r gog - Bluebells Anhygoel - Incredible DEI TOMOS Roedd y Moody Blues yn fand poblogaidd iawn yn y chwedegau a’r saithdegau ac mae’n debyg mae Nights in White Satin oedd un o’u caneuon mwya enwog. Roedd un o aelodau’r band, Ray Thomas,

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 27ain o Fedi 2022

    27/09/2022 Duration: 14min

    Radio’r Cymry Mae hi bron yn ganrif ers i'r geiriau Cymraeg cyntaf gael eu clywed ar y radio. Yn y gyfres newydd, Radio’r Cymry, mae Hywel Gwynfryn yn edrych ar raglenni, digwyddiadau â'r cymeriadau sydd wedi gwneud Radio Cymru yr hyn ydy o heddiw. Yn 1935 daeth Sam Jones yn Bennaeth y BBC ym Mangor ac roedd hi’n ddechrau ar gyfnod cyffrous iawn yn hanes Radio Cymraeg. Dyma ei ysgrifenyddes, Morfudd Mason Lewis, yn sôn am y dyddiau hynny..... Canrif - Century Cyfres - Series Pennaeth - Head Parchu - To respect Peirianwyr - Engineers Tyrfa - A crowd Rhaglenni byw - Live programmes Pennill - A verse A ddeuai - Fasai’n dodAled Hughes Aeth Aled Hughes draw i Forfa Nefyn ym Mhen Llŷn i gwrdd â Reuben Hughes, sy’n bencampwr reslo braich! Mae o’n aelod o glwb reslo braich Roar yn Llandybie, Sir Gaerfyrddin, ac mae o newydd ennill ei gystadleuaeth reslo braich gynta. Pencampwr - Champion Am sbort - For fun Yr amser yn brin - Time was scarce Penderfynol - Determined Diogelwch - Safety Poendod - A worry Gwarcho

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 22ain o Fedi 2022

    21/09/2022 Duration: 13min

    Dros Frecwast Y garddwr o Fôn, Medwyn Williams, yn cofio cwrdd â’r Frenhines Elizabeth yr 2il mewn sgwrs efo Dylan Ebenezer. Brenhines - Queen Cynllunio - To plan Arddangosfa - Exhibition Deuthi - Dweud wrthi hi Gwybodus iawn - Very knowledgable Byd garddwriaethol - Gardening world Croen - SkinBore Cothi Shân Cothi yn cael sgwrs efo enillydd Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2022, Dr Edward Rhys-Harry o Benclawdd, Abertawe. Gofynodd Shân iddo fo sut deimlad ydy hi i glywed ei ddarnau yn cael eu perfformio gan gerddorfa neu gantorion? Tlws y Cerddor - The Musicians Trophy Darnau - Pieces Cerddorfa neu gantorion - Orchestra or singers Unig - Lonely Cyfansoddi - To compose Sefyllfa gyhoeddus - A public settingAled Hughes Mae Sian Davies a Dyddgu Mair Williams o Nefyn wedi sefydlu busnes arlwyo pysgod, Môr Flasus, ym Mhen Llŷn ac aeth Aled Hughes draw i gael sgwrs efo Dyddgu am y fenter. Arlwyo - Catering Crancod - Crabs Cwta - A meagre Gweledigaeth - Vision Lleihau - To reduce Cynnyrch - Produce

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 13eg o Fedi 2022

    16/09/2022 Duration: 12min

    Aled Hughes Hanes anhygoel, ac emosiynol, Gerallt Wyn Jones gafodd ei fabwysiadu yn chwe mis oed o Fanceinion a chael ei fagu ym Methesda, Gwynedd. Aeth Aled Hughes draw ato am sgwrs a dyma Gerallt yn sôn am yr adeg pan ddaeth o i gyswllt efo’i deulu biolegol am y tro cynta… Dod i gyswllt - Come into contact Anhygoel - Incredible Mabwysiadu - To adopt Y fenga - Yr ifanca Tridiau - Tri diwrnod Angladd - FuneralBeti a'i Phobol Ann Ellis, Prif Weithredwr y Mauve Group, sef cwmni sy’n gweithio mewn nifer fawr o wledydd ar draws y byd, oedd gwestai Beti George. Mae ganddi bedwar cartre – ar ynys Cyprus, yn Rhufain, yn Dubai ac yn Miami ond cafodd Ann ei magu ym Merain, Sir Ddinbych, sef cartref uchelwraig o’r unfed ganrif ar bymtheg, Catrin o Ferain. Dod o hyd i - To find Prif Weithredwr - Chief Executive Rhufain - Rome Uchelwraig - Noblewoman Yr unfed ganrif ar bymtheg - 16th century Hardd - Beautiful Cyfoethoca - Richest Cytundeb - Contract Ysbrydoli - To inspire Menywod - MerchedGwneud Bywyd yn Haws Roedd hi’n

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 6ed o Fedi 2022

    16/09/2022 Duration: 15min

    Bore Cothi Sarah Astley Hughes sy’n byw yng Nghaerdydd, ond sy’n dod Lanrhaeadr ym Mochnant, Powys yn wreiddiol, fuodd yn sôn wrth Shelley Rees Owen ar Bore Cothi fore Iau am ei phenderfyniad i groesawu’r gwallt llwyd ar ôl cael llond bol o orfod lliwio ei gwallt bob pythefnos!Croesawu - To welcome Lliwio - To dye Sylweddoli - To realise Ffili - Methu Colurwraig - Make-up artistBwrw Golwg Ddechrau wythnos diwetha mi ddaeth y newyddion am y llifogydd ofnadwy sydd wedi taro Pacistan. Dyma i chi Tom Davies o’r elusen Cymorth Cristnogol yn sôn am y drychineb…Llifogydd - Floods Trychineb - Disaster Heb rybudd - Without warning Diflannu’n weddol glou - Disappearing quite quickly Distryw - Destruction Ceisio dygymod â - Trying to come to terms with Yn sgil - As a consequence of Cilio - To recede Newid hinsawdd - Climate change Argyfyngau - CrisisCymry a Mwy Pan symudodd Gwenfair Griffith a’i theulu i Sydney, Awstralia, sefydlodd hi Grŵp Chwarae Cymraeg er mwyn helpu ei phlant i gadw cysylltiad â’u gwreiddiau yng Ngh

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 30ain o Awst 2022

    30/08/2022 Duration: 14min

    Dros Ginio Mae Jeremy Paxman wedi dweud ei fod am roi’r gorau i University Challenge wedi 28 mlynedd o gyflwyno’r cwis.   Dr Alun Owens fuodd yn sôn wrth Dewi Llwyd am ei amser ar y rhaglen yn 2015 pan oedd o’n fyfyriwr yn Mhrifysgol Abertawe. Dyna oedd y tro cynta i Brifysgol Abertawe fod ar y rhaglen ers tua 20 mlynedd.     Rhoi’r gorau i To give up Haerllug Cheeky Camddeall To misunderstand Ymdrech An attempt Dychrynllyd Frightening Yr ystafell werdd The green room Lled awgrym A hint of a suggestion Delwedd darlledu Broadcasting image Croesholwr Cross examiner Dirmygus ScornfulBore Cothi Dr Alun Owens oedd hwnna’n sôn am ei brofiad ar University Challenge. Mi fuodd Heledd Cynwal yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes wythnos diwetha ac mi gafodd hi sgwrs efo’r arbenigwraig ffasiwn, Sina Haf Hudson am y cynllunydd ffasiwn o Siapan , Issey Myake fuodd farw ar Awst 5 eleni... Persawr Perfume Oglau Fragrance Hawlio To claim Fyw i rywun

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 23ain 2022

    23/08/2022 Duration: 13min

    Cofio - Gwersylla oedd thema Cofio dros y Sul ac mi gaethon ni gyfle arall i glywed Wil Parry Williams o Dregarth yng Ngwynedd, yn sôn am weithio fel Red Coat yng ngwersyll Butlins, Pwllheli rhwng 1954 a 1961. Agorwyd y gwersyll 75 mlynedd yn ôl a chlywon ni’r recordiad arbennig yma am y tro cynta ar raglen Cofio yn 2009. Gwersylla To campOddeutu AboutYchwanegol AdditionalGan benna(f) MainlyAdnoddau ResourcesCychod BoatsAdran feithrin NurseryAdloniant EntertainmentDiddori To entertainDyletswyddau cyffreinol General dutiesDei Tomos – Wel ia, hi di hi yn wir – hanes diddorol Butlins Pwllheli yn fanna ar Cofio. Aeth Dei Tomos i Aberystwyth i weld llyfrgell bersonol Gerald Morgan sydd yn awdur, ac yn gyn athro a phrifathro. Mi aeth draw i’w gartref a chael gweld rhywbeth prin iawn - copi o Destament Newydd William Salesbury oedd yn dyddio’n ôl i 1567! Prin iawn Very rareRhagair IntroductionBiau To ownYn gymharol ddiweddar Fairly recentlyCasglwyr Collect

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 16eg o Awst 2022

    16/08/2022 Duration: 13min

    Stiwdio Nofel hanesyddol enillodd gwobr Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ac ar Stiwdio buodd Nia Roberts yn dathlu bywyd a gwaith awdures sy’n enwog ar ei nofelau hanesyddol sef Marion Eames. Hi sgwenodd Y Stafell Ddirgel a’r Rhandir Mwyn, ac roedd hi hefyd yn gerddor talentog. Cafodd hi ei geni yn 1921 a buodd farw yn 2007. Aeth Nia draw i Ddolgellau i gwrdd â’r Dr Buddug Hughes yng Nghapel y Tabernacl I gael ‘chydig o hanes cynnar Marion Eames… Cymry alltud Welsh exilesDianc To escapeYn ddiwylliannol ac yn grefyddol Culturally and religiouslyCyfarfu Gwladys a William Gwladys and William metYr aelwyd The homePrinder tai affwysol Severe housing shortagePrin oedd ei gafael ar y Gymraeg Her grasp of Welsh was very weak Chwithig aruthrol Lletchwith iawnAwyddus EagerCyfoedion PeersAled Hughes Ychydig o hanes bywyd cynnar yr awdures Marion Eames yn fan’na ar Stiwdio. Dach

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 2il o Awst 2022

    02/08/2022 Duration: 13min

    Gwneud Bywyd yn Haws Hanna Hopwood yn holi Gwenllian Thomas, sy’ wrth ei bodd yn gwneud triathlon – nofio, rhedeg a beicio! Mae hi’n fam brysur ond mae cymryd rhan mewn triathlon yn rhan bwysig o’i bywyd. Sut dechreuodd ei diddordeb yn gamp tybed? Camp SportBant I ffwrdd Dim taten o ots Dim ots o gwblCroesawu To welcomeMeddylfryd MindsetRhannu profiadau To share experiencesDros Frecwast – Gemau'r GymanwladGwenllian yn fan’na yn sôn am ei diddordeb mewn triathlon sef un o’r campau cynta i ddigwydd yn Ngemau’r Gymanwlad eleni. Agorwyd y Gemau yn Birmingham ar yr 28ain o Orffennaf a chafodd Ifan Gwyn Davies sgwrs efo Ashleigh Barnikel sy’n cymryd rhan yn y Gemau fel aelod o garfan Jiwdo Cymru... Gemau’r Gymanwlad Commonwealth GamesCarfan SquadUn fodfedd dros bum troedfedd Five foot oneDwywaith ei maint Twice her sizePencampwraig Champion (female)O ddifri SeriouslyRhyngwladol InternationalTorfeydd CrowdsAil wynt Second windDros F

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 26ain o Orffennaf 2022

    26/07/2022 Duration: 14min

    Pigion Aled Hughes Rhestr fer dysgwr y flwyddynMi fuodd Aled Hughes yn cael sgwrs efo’r 4 sydd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn 2022. Mi fydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn Eisteddfod Tregaron wythnos nesa. Bore Llun mi gafodd o gyfle i ddod i nabod Stephen Bale, un o’r pedwar sydd yn y ffeinal. Mae Stephen yn dod o ardal Castell-nedd yn wreiddiol ond erbyn hyn mae o’n byw yn Sir Fynwy. Rhestr fer Short listCyhoeddi To announceCastell-nedd NeathSir Fynwy MonmouthshireCwrs dwys Intensive courseYn y pendraw In the endDegawd DecadeGohebydd CorrespondentRhyngwladol InternationalY Llewod The LionsHyrwyddo To promotePigion Aled Hughes DyFlwyddyn – Sophie Tuckwodd Stephen Bale oedd hwnna – gohebydd rygbi sydd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn eleni. Dydd Mawrth mi gafodd Aled gyfle i gael sgwrs efo Sophie Tuckwood un arall sydd ar y rhestr fer. Daw Sophie o Nottingham yn wreiddiol ond symudodd hi i Sir Benfro ddeg mlynedd yn ôl. Wynebu To faceAr yr un pryd At the sam

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 19eg o Orffennaf 2022

    19/07/2022 Duration: 12min

    Cor y Byd LlangollenCȏr CF1 o Gaerdydd enillodd gystadleuaeth Cȏr y Byd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen eleni. Dyma i chi flas ar sgwrs rhwng Eilir Owen Griffiths, arweinydd y côr a Shan Cothi fore Llun diwetha. Arweinydd ConductorYmarfer RehearsalDatblygu To developParatoi To prepareLlwyfan A stageSymudiadau MovementsCerddorion MusiciansCreu To createBalch ProudAnwen bowlio i'r gymanwlad…a llongyfarchiadau mawr i Eilir ac i gôr CF1 ynde? Eleni mi fydd Anwen Butten yn cystadlu am y chweched tro yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham, ac mi fydd y gemau’n cychwyn ar yr 28ain o Orffennaf. Mae Anwen wedi cael ei dewis fel Capten Tîm Cymru yn y gemau eleni, felly bydd hi’n gapten ar 202 o athletwyr o Gymru. Gofynnodd Shan Cothi i Anwen sut dechreuodd hi ar y bowlio…. Gemau’r Gymanwlad Commonwealth GamesTîm hŷn Senior TeamHyfforddi To coachCefnogwr brwd An enthusiastic supporterProfiadol ExperiencedYn olygu MeansAnrhydedd Honour Dros Ginio Dyfrig a Rhodr

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 12fed o Orffennaf 2022

    12/07/2022 Duration: 15min

    Dros Ginio Beti a RaymondMam a mab o Ddyffryn Nantlle yng Ngwynedd oedd gwesteion Dewi Llwyd bnawn Llun. Y cyn Aelod Seneddol Betty Williams a’i mab, y Rhingyll , neu Sarjant, Raymond Williams sy’n gweithio i Heddlu Gogledd Cymru. Cyn Aelod Seneddol - Former Member of Parliament Yn hen gyfarwydd - Very familiarLlwyddiant ysgubol - A roaring successPetrusgar - HesitantY naill a’r llall - One or the otherTrychineb - DisasterFfasiwn beth - Such a thingAm wn i - As far as I knowSerth - SteepBrwdfrydig - EnthusiasticABC Y Geiriadur Raymond Williams a’i fam Betty yn sôn am ran Raymond yn y gyfres Y Llinell Las.Taith drwy’r wyddor yng nghwmni Ifor ap Glyn ydy ABC y Geiriadur, i ddathlu canmlwyddiant Geiriadur y Brifysgol - geiriadur mwya Cymru. Mae’r geiriadur ar gael ar-lein erbyn hyn ,ac mae o am ddim! Mae’r awdures Manon Steffan Ross yn gwneud defnydd mawr o’r geiriadur ar-lein fel buodd hi’n sôn wrth Ifor… Canmlwyddiant - CentenaryPenodol - SpecificGweddu - To suitAntur - AdventureCyd-destun - ContextAmaethyddol

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 5ed o Orffennaf 2022

    05/07/2022 Duration: 12min

    Dei Tomos Gwilym OwenDw i’n siwr ein bod ni i gyd yn gwybod am Harri’r Wythfed a’i chwe gwraig, ond ar raglen Dei Tomos clywon ni hanes bonheddwr o ogledd Cymru, Edward Gruffydd, oedd fel Harri wedi priodi sawl gwaith, a hynny pan oedd Harri’n frenin. Un o Stad y Penrhyn ger Bangor oedd Edward a dyma i chi ran o sgwrs cafodd Dei amdano efo’r darlithydd Gwilym Owen o Brifysgol Bangor...Bonheddwr - GenltemanMewn gwirionedd - In realityFawr hŷn - Hardly any olderPwys mawr - Great pressureCyfoethocach - RicherCefnog - Well-offDylanwadu - To influenceTystiolaeth - EvidenceDychwelyd - To returnI’r neilltu - To one sideDros Ginio Elfyn ac AlunDoedd na ddim sôn bod Edward wedi cael yr un problemau cyfreithiol a gafodd Harri o ran priodi sawl gwaith – ond hanes ddiddorol ynde? Dau frawd o fyd y gyfraith oedd gwesteion Dewi Llwyd ar Dros Ginio, y bargyfreithiwr a’r gwleidydd Elfyn Llwyd a’i frawd y plismon Alun Hughes. Roedd eu tad yn blismon, felly roedd y gyfraith yng ngwaed y ddau! Elfyn, y brawd mawr, sy’n siarad

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 29ain Mehefin 2022

    29/06/2022 Duration: 15min

    Beti a'i Phobol Aled RobertsAr Beti a'i Phobol ddydd Sul, mi gaethon ni gyfle i ail-wrando ar sgwrs Beti efo Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, fuodd farw mis Chwefror eleni yn 59 mlwydd oed. Cafodd Aled ei eni a'i fagu yn Rhosllannerchrugog, ger Wrecsam, a dyma i chi flas ar y sgwrs ble mae o'n esbonio wrth Beti beth oedd o'n ei weld yn heriau'r swydd a sut oedd o'n eu hwynebu... Heriau - ChallengesHwyrach - Efallai Arweinydd cyngor - Council leaderHamddenol - LeisurelyGwthio - To pushAwyddus - EagerAdlewyrchu - To reflectCryfder - StrengthTwf aruthrol - Huge growthDrwy gyfrwng - Through the medium of...ac mae colled mawr i Gymru ac i'r Gymraeg ar ôl Aled Roberts. Aled Hughes ac Meurig Rees Jones Buodd Syr Paul McCartney yn perfformio yn Glastonbury wythnos diwetha ac yntau newydd ddathlu ei benblwydd yn 80. Ond oeddech chi'n gwybod bod y Beatles yn ymwelwyr cyson â Phortmeirion? Meurig Rees Jones ydy Rheolwr Lleoliadau Portmeirion, a buodd o'n siarad efo Aled Hughes fore Llun

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 21ain Mehefin 2022

    21/06/2022 Duration: 17min

    Gwneud Bywyd yn Haws Oeddech chi’n gwybod mae’r Ffindir a’r Swistir ydy’r ddwy wlad hapusa i fyw ynddyn nhw? Wel yn ôl un adroddiad beth bynnag. Dewch i ni gael clywed dipyn am fywyd yn y ddwy wlad gan Dwynwen Hedd o’r Swistir a Tristan Owen Williams o’r Ffindir. Dyma nhw’n sgwrsio efo Hanna Hopwood ar Gwneud Bywyd yn Haws.Mor ddwfn - So deep Diwylliant - Culture Cyd-fynd - To agree Traddodiad - Tradition Coedwigoedd - Forests Penodol - Specific Ysgogi - To motivate Noeth - Naked Bedydd tân - Baptism of fireA sôn am sauna, os dach chi isio gwybod rhagor gan Trystan a Dwynwen ac am fywyd yn y Ffindir a’r Swistir yna agorwch ap BBC Sounds a theipio’r geiriau Gwneud Bywyd yn Haws i fewn i’r bar bach chwilio.Aled Hughes a Maggie Morgan Wedi dysgu Cymraeg mae Maggie Morgan a buodd hi’n chwilio mewn i hanes ei theulu yn y gobaith o ddod o hyd i’r rhesymau pam nad oedd ei theulu bellach yn siarad Cymraeg. Cafodd Aled Hughes sgwrs efo Maggie ar ei raglen fore Llun.Bellach - By now Di-Gymraeg - Non Welsh speaking Mew

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 14eg 2022

    14/06/2022 Duration: 14min

    Dros Ginio Dafydd Iwan Mi fydd tîm pêl-droed Cymru yn cystadlu yng Nghwpan y Byd yn Qatar fis Tachwedd ar ôl i'r tîm guro Wcráin yn Stadiwm Dinas Caerdydd wythnos diwetha. Mi wnaeth y crysau coch yn wych ond roedd canu'r Wal Goch yn bwysig hefyd yn enwedig wrth iddyn nhw ganu 'Yma o Hyd' efo Dafydd Iwan. Dyma Dafydd yn sôn am y profiad ar Dros GinioBreuddwyd - A dream Cyfuno - To combine Manteisio ar y cyfle - Taking advantage of the opportunity Bwriadol - Intentional Mynegi teimladau - Expressing the feelings Rhyfeddol - Wonderful Cyfraniad - Contribution Trefnwyr cefn llwyfan - Backstage organisers Profiad bythgofiadwy - An unforgettable experienceAc mi gyrhaeddodd y gân 'Yma o hyd' rhif 1 yn siart I-Tunes wythnos diwetha - anhygoel ynde?Arfon Wyn Un o arwyr Cymru yn y gêm oedd y gôl-geidwad, neu'r gôli, Wayne Hennessey. Aeth Wayne i ysgol gynradd Biwmares pan oedd o'n blentyn a dyma i chi Arfon Wyn, oedd yn bennaeth yr ysgol ar y pryd, yn sôn wrth Dylan Ebenezer am sut dechreuodd gyr

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 7fed 2022

    07/06/2022 Duration: 14min

    Beti a Ceri Isfryn Mae Ceri Isfryn wedi gweithio ar sawl gyfres deledu fel The One Show, Watchdog Rogue Traders, a Panorama a hi ydy cynhyrchydd y gyfres House of Maxwell sy'n dilyn hanes Robert Maxwell a'i deulu. Dim ond dwy oed oedd Ceri pan fuodd Robert Maxwell farw yn 1991. Faint felly oedd hi'n gwybod am hanes teulu Maxwell cyn dechrau gweithio ar y gyfres? Dyma hi'n sgwrsio efo Beti George...Cynhyrchydd - Producer Cenhedlaeth - Generation Dylanwad - Influence Ymchwilio - To research Diflasu - To become bored of Iddew - Jew Datblygu - To develop Moesau - Morals Cofeb - Memorial Delwedd - ImageCeri Isfryn yn sôn wrth Beti George am ei gwaith ymchwil i deulu Robert Maxwell. Dros Ginio Ieuan a Rhisiart Y ddau frawd Ieuan Wyn Jones a Rhisiart Arwel oedd y ddau cyn dau efo Dewi Llwyd . Roedd Ieuan yn arfer bod yn Ddirprwy Brif Weinidog Cymru ac mae Rhisiart yn gerddor. Faint o ffrindiau oedden nhw pan oedden nhw'n ifanc tybed? Dirprwy Brif Weinidog Cymru - Deputy First Ministe

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 31ain 2022

    31/05/2022 Duration: 17min

    Beti a Sian Eirian Mae Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yn Nimbych yr wythnos hon ac mi gafodd Beti George gwmni Cyfarwyddwr Dros Dro yr Eisteddfod, Sian Eirian, ar Beti a'i Phobol fore Sul. Yn y gorffennol buodd Sian yn gweithio fel Pennaeth Rhaglenni Plant S4C a dyma hi'n sôn am yr adeg aeth hi â CYW (y cyw annwyl felly- eicon rhaglenni plant bach) i gyfarfod â Boris Johnson pan oedd o'n Faer Llundain...Cyfarwyddwr Dros Dro - Temporary Director Awyddus I ymestyn - Eager to extend Adran Gyfathrebu - Communications Department Sylweddoli - To realize Tanddaearol - Underground Heddlu cudd - Secret police Terfysgwr - Terrorist Gweithredu - To act (upon) Degau ar ddegau - Many (lit: tens on tens)Hanes 'Cywgate' yn fan'na gan Sian Eirian. Butlins Oeddech chi'n gwybod bod yna Eisteddfodau o fath yn Butlins Pwllheli ac yn Butlins y Barri ers talwm? Wel cystadleuaeth talent oedden nhw cael eu galw mewn gwirionedd! Buodd Ffion Emyr yn cyflwyno rhaglen oedd yn edrych yn ôl ar

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 24ain 2022

    24/05/2022 Duration: 12min

    Dei Tomos a Gwyn Elfyn Yr actor Gwyn Elfyn oedd gwestai Dei Tomos wythnos diwetha. Fo oedd Densil yn Pobol y Cwm am flynyddoedd ac yn siarad efo acen de Cymru ar y rhaglen. Ond yn y clip nesa dan ni'n clywed Gwyn yn sgwrsio efo Dei Tomos efo acen ogleddol Blaenau Ffestiniog. Pa acen ydy yr un naturiol iddo fo felly?Tafodiaith - Dialect Cyfeillion - Ffrindiau Honni - To claim Lwcus ydy Gwyn Elfyn ynde, yn medru siarad yn naturiol yn nhafodiaith y de a'r gogledd. Gwenno Williams Tafarn yr Heliwr Dydd Llun cafodd Aled Hughes sgwrs efo Gwenno Williams o dafarn gymunedol Yr Heliwr yn Nefyn. Roedd pobl Nefyn wedi codi arian i brynu'r adeilad ac i ail-wneud rhannau o'r dafarn er mwyn ei chael yn barod ar gyfer y cyhoedd. Awgrymodd Aled wrth Gwenno bod stori yr Heliwr yn stori o gymuned yn uno ac yn llwyddo a dyma oedd ymateb Gwenno... Cymuned - Community Hwb - A boost Gwireddu - To make it happen Ail-wneud - To redo Gwirfoddoli - To volunteer Budd mawr - A great benefit Gwobr - Prize Ysbrydoliae

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 17fed 2022

    17/05/2022 Duration: 14min

    Beti a Dr Sara Louise Wheeler Mae'r Dr Sara Louise Wheeler yn dod o ardal Wrecsam yn wreiddiol, ac mae hi'n falch iawn ei bod hi'n siarad efo acen arbennig pentref Rhosllannerchrugog. Ond fel cawn ni glywed yn y clip nesa doedd pawb ddim yn hoff o'r acen honno...Magwraeth - Upbringing Tafodiaith - Dialect Herio - To challengeOs dach chi isio gwybod rhagor am hanes diddorol Sara mi fedrwch chi wrando ar y sgwrs yn llawn ar bodlediad Beti a'i Phobol.Aled Hughes a Grant Peisley Mae Grant Peisley yn chwarae criced i dîm dros 50 oed Cymru er ei fod yn dod o Awstralia'n wreiddiol. Mae o'n byw yng Nghymru ers dros ugain mlynedd erbyn hyn, ac wedi dysgu Cymraeg. Mae criced yn ofnadwy o bwysig i bobl Awstralia - felly sut deimlad ydy chwarae dros Gymru i Grant tybed? Dyma fo'n sgwrsio efo Aled Hughes... Rhyngwladol - International Cwpan y Byd - World Cup Ers yn ddim o beth - Since being a small childBraf clywed Grant yn disgrifio ei hun fel Cymro Newydd yn tydy, a dwi'n siwr bydd o'n falch iawn o

page 6 from 19