Synopsis
Y darnau gorau o raglenni BBC Radio Cymru gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. BBC Radio Cymru highlights for Welsh learners.
Episodes
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 24ain 2021
24/12/2021 Duration: 16min01. Gwneud Bywyd yn Haws – Hyder Mewn LliwDillad oedd yn cael sylw Hanna Hopwood ar Gwneud Bywyd yn Haws nos Fawrth a chafodd hi sgwrs gyda’r hyfforddwr delwedd Sonia Williams o’r cwmni ‘Hyder Mewn Lliw’… Hyfforddwr delwedd Image coachCynllunio To planCanolbwyntio To concentratePwysigrwydd ImportanceArna chdi Arnot tiCymryd sylw To pay attentionYsbryd SpiritDos CerYr union liw The exact colourPenodol SpecificDrych MirrorCoelio Credu02. Beti a'i Phobol – Mei JonesI glywed mwy o’r sgwrs yna ewch draw i wefan BBC Sounds a chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws, yno hefyd gewch chi glywed cyfweliad gyda Llio Angharad sy’n rhannu cynghorion ar sut i edrych ar ôl ein dillad. Bu farw’r actor, sgriptiwr ac awdur Mei Jones yn ddiweddar, ac i gofio amdano ail-ddarlledwyd sgwrs cafodd Mei gyda Beti George rai blynyddoedd yn ôl. Er bod Mei wedi actio pob math o gymeriadau mae’n debyg mai fel Wali Tomos yn C’mon Midffîld y bydd llawer iawn
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr yr 17eg 2021
17/12/2021 Duration: 12min1. Dros Ginio - Dafydd Iwan ac Alun Ffred Jones Basai’n anodd ffeindio dau frawd mwy enwog yng Nghymru na Dafydd Iwan ac Alun Ffred Jones. Mae Dafydd yn ganwr enwog, ac Alun Ffred yn enwog yn y byd teledu ac, fel Dafydd Iwan, ym myd gwleidyddiaeth hefyd Ond pa mor agos ydy’r ddau ohonyn nhw fel brodyr? Dewi Llwyd gafodd gyfle i holi, ac eglurodd Alun i ddechrau ei fod o’n dipyn ifancach na’r brodyr eraill yn y teulu… Rhyngddyn nhw Between themYr un cylchoedd The same circlesDyn diethr A strangerCadw pellter Keeping a distanceYn achlysurol Occasionally Dotio ar Dwlu arRhyfedda StrangestLlywydd y Blaid President of Plaid CymruGweini To serveWedi drysu Confused2. Bore Cothi – Alwyn Humphreys a West Side Story Dafydd Iwan yn fan’na yn dweud nad oedd e a’i frodyr yn agos iawn at ei gilydd, ond hanes dau deulu oedd yn casáu ei gilydd sydd yn y ddrama ‘Romeo and Juliet’. Ac roedd y nofel, y sioe gerdd a’r ffilm ‘West Sid
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr y 10fed 2021
10/12/2021 Duration: 17min01. Beti – Laura KaradogClip o Beti a’i Phobol ddydd Sul diwetha, a Laura Karadog oedd gwestai Beti. Yn y clip hwn mae Laura’n sôn am yr amser buodd hi’n gweithio yn San Steffan fel profiad gwaith yn rhan o gwrs gradd mewn gwleidyddiaeth Prifysgol Aberystwyth. Fel gwnawn ni glywed cafodd hi brofiadau diddorol iawn yno….San Steffan WestminsterGradd mewn gwleidyddiaeth A politics degreeBreintiedig PrivilegedYn rheolaidd RegularlyErchyll AwfulHurt StupidDinistrio bywydau Destroying livesDiniwed InnocentGrym PowerTu hwnt BeyondHeb os Without doubt02. Bore Cothi – Rhona DuncanYchydig o hanes diddorol Laura Karadog yn fan’na ar Beti a’i Phobol. Oes planhigion gyda chi yn y tŷ? Dych chi’n poeni fyddan nhw’n para dros y gaeaf? Os felly dylai’r tips glywon ni ar Bore Cothi fod o ddiddordeb mawr i chi. Rhona Duncan, sy’n rhedeg siop blanhigion yng Nghaerdydd,
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr y 3ydd 2021
03/12/2021 Duration: 16min01. GBYH - Leisa MereridPam dylen ni ddysgu ioga i’n plant, a sut basai gwneud hyn yn eu helpu? Dyma rai o gwestiynau Hanna Hopwood ar Gwneud Bywyd yn Haws i’r awdures llyfrau ioga i blant, Leisa Mererid . Dyma flas i chi ar y sgwrs ... Yn gynyddol IncreasinglyDyrys ComplexYmwybyddiaeth o’n cyrff Awreness of our bodiesDelwedd corff Body imageHeriau bywyd Life challengesAngor AnchorGorbryder AnxietyIsymwybod SubconsciousMyfyrio To meditateSynhwyrau SensesGorlethu To overwhelm02. Aled Hughes - Dr Sara WheelerLeisa Mererid yn cael ei holi gan Hanna Hopwood. Hefyd ar y rhaglen roedd Nia Parry ac Anwen Gruffydd Wyn yn sôn am sut aeth y ddwy ffrind ati i sgwennu ‘Llyfr Bach Lles’, ac yn ogystal mae Laura Karadog yn sôn am ymarfer ioga. I glywed y sgyrsiau yma ewch draw at BBC Sounds a chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws. Ar raglen Aled Hughes fore Mawrth, clywon ni sgwrs am Gastell Dinas ger Llangollen gyda’r Dr Sara Wheeler, a dechreuodd Aled a Sara sgwrsio d
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd 26ain 2021
26/11/2021 Duration: 16min01. Bore Cothi - Daniel Jenkins Jones - Cnocell Y CoedAderyn y mis ar raglen Bore Cothi oedd Cnocell y Coed. Roedd Caryl Parry Jones wedi gweld cnocell yn ei gardd ac roedd hi eisiau gwybod mwy am yr aderyn cyffrous. Oes mwy nag un math o gnocell i’w weld yng Nghymru tybed? Dyma beth oedd gan Daniel Jenkins Jones neu ‘Jenks’ i’w ddweud wrth Caryl…. Cnocell y Coed WoodpeckerCreaduriaid CreaturesNythu To nestYmddangos To appearRhyfedd iawn Very strangeOnglau AnglesMadfall LizardNeidr SnakeHardd PrettyRhyfeddu To marvel Anarferol Unusual02. Aled Hughes - Hayley ThomasLlawer o wybodaeth yn fan’na am gnocell y coed gan Jenks. Fuoch chi’n edrych ar raglen Plant Mewn Angen y BBC nos Wener diwetha? Roedd y noson wedi codi miliynau o bunnoedd at elusennau plant. Gwych, on’d ife? Ar ddechrau wythnos her Plant Mewn Angen cafodd Aled Hughes sgwrs gyda Hayley Thomas sy’n gweithio fel swyddog gyda phrosiect Thrive, prosiect sy’n rhoi cymorth i blant a’u mama
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr 19eg o Dachwedd 2021
19/11/2021 Duration: 15min1. Dros Ginio - Pabi Coch Roedd hi’n Sul y Cofio ddydd Sul diwetha a llawer o bobl yn falch o wisgo’r pabi coch yn symbol i gofio am y rhai gollodd eu bywydau mewn rhyfeloedd. Ond o ble ddaeth y symbol yma? Pam mai pabi coch dyn ni’n ei wisgo? Dyma’r hanesydd Iwan Hughes yn rhoi cefndir y pabi coch mewn sgwrs gyda Catrin Haf Jones ar raglen Dros Ginio…Deillio To deriveCladdu To buryFfrind pennaf Best friend Ysbrydoliaeth InspirationTeyrnged TributeArferiad CustomMabwysiadu To adoptYn ddiweddarach Later onPlant amddifad OrphansDylanwad InfluenceAdnabyddus Aware2. Rhaglen Aled –Merched yn y Rhyfel Byd 1afYchydig o hanes y pabi coch yn fan’na ar Dros Ginio. Ac i aros gyda Sul y Cofio cafodd Aled Hughes sgwrs gyda’r hanesydd Elin Tomos am gyfraniad merched yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf … Cyfraniad ContributionDelwedd traddodiadol Traditional imageYmddwyn To behave Argraffu To printCymwysedig
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr 12fed o Dachwedd 2021
12/11/2021 Duration: 18min1. Gwneud Bywyd yn Haws – Clip Cytiau Elliw Gwawr ac Angharad Haf Wyn Mae BBC Radio Cymru yn rhoi sylw i’r argyfwng newid hinsawdd yn ystod tymor yr Hydref gyda rhaglenni arbennig o’r enw ‘Ein Planed Nawr’. Un o’r rhaglenni hynny ydy ‘Gwneud Bywyd yn Haws’ ac yn rhaglen wythnos diwetha clywon ni bod defnyddio clytiau, neu cewynnau, aml-ddefnydd yn llawer iawn gwell i’r amgylchedd na defnyddio’r rhai sy’n cael eu taflu ar ôl eu defnyddio unwaith yn unig. Dyma glip o Hanna Hopwood yn sgwrsio gyda dwy fam sy’n defnyddio’r clytiau aml-ddefnydd, Angharad Haf Wyn ac Elliw Gwawr… Argyfwng newid hinsawdd Climate change crisisClytiau/cewynnau NappiesAml-ddefnydd Multiple useAmgylchedd EnvironmentYmchwil ResearchBuddsoddi To investArbrofi To experimentYmrwymo To commit‘Ta beth Beth bynnagCyflwr ConditionTueddu i hyrwyddo Tends to promote2. Ifan Evans – Gwobr i Edna JonesDyna i chi flas ar raglen ‘Gwneud Bywyd yn Haws’ gyda Hanna Hopwood sydd ar Radio Cymru bob nos
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr 5ed o Dachwedd 2021
05/11/2021 Duration: 17min1. Dei Tomos – Llyfr Glas Nebo, Sara Borda GreenMae’r nofel Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros wedi cael ei chyfieithu i sawl iaith, gyda Manon ei hun wedi ei chyfieithu i’r Saesneg. Mae Sara Borda Green yn dod o Batagonia ac mae hi wedi cyfieithu’r nofel i’r Sbaeneg. Ar raglen Dei Tomos buodd Sara’n sôn am rai o’r problemau gafodd hi wrth gyfieithu. Dyma i chi flas ar y sgwrs...Y Wladfa Welsh settlement in PatagoniaDiwylliannol CulturalHer A challengeDealledig UnderstoodAriannin ArgentinaAddasu To modifyTŷ Gwydr Tŷ haul/conservatoryCyffredin CommonOsgoi To avoidY golygoddion The editorsPenodol Specific2. BORE COTHI – Naomi Saunders, planhigion y tŷ dros y gaeafFasai tŷ gwydr, neu dŷ haul, yn help i gadw planhigion tŷ yn fyw dros y gaeaf tybed? Wel mae hynny’n dibynnu ar y tŷ ac ar pa mor gynnes ydy hi yn ôl Naomi Saunders fuodd yn siarad am ofalu am blanhigion tŷ gyda Shan Cothi…Dyfrio To waterGor-ddyfrio OverwateringCanolbwyntio To concentrateOes tad Ye
-
Pigion y Dysgwyr 29ain Hydref 2021
29/10/2021 Duration: 15minAled Hughes – Erin Fflur a Mari ElenMae pedair cenhedlaeth o deulu fferm y Pandy, Rhos-y-gwaliau ger y Bala wedi bod yn cystadlu mewn treialon cŵn defaid, a’r ddwy ferch fferm ifanc, Erin Fflur a Mari Elen ydy’r diweddara i gystadlu. Cafodd Aled Hughes air gyda’r ddwy a dyma i chi flas ar y sgwrs...Cenhedlaeth GenerationY diweddara The most recentRheoli To controlAr gyrion On the outskirtsPraidd FlockCanolbwyntio To concentrateAmynedd PatienceDallt DeallCyngor AdviceYn y gwaed In the bloodCynhaliwyd Was heldGWNEUD BYWYD YN HAWS Hanes teulu fferm y Pandy a’r treialon cŵn defaid yn fanna. Buodd Theatr Genedlaethol Cymru yn teithio gyda’i drama ‘Anfamol ‘ yn ddiweddar. Hon ydy drama lawn gynta i’r cwmni ei llwyfannu’n fyw ers dechrau’r cyfnod clo, ac mae’n cymryd golwg ar fywyd mam sengl. Sut mae’r ddrama hon yn cymharu â rhaglenni teledu ar yr un thema, fel Motherland tybed? Dyna fuodd Hanna Hopwood a'i gwesteion Rhiannon Mair a Llinos Patc
-
Pigion y Dysgwyr 22ain Hydref 2021
22/10/2021 Duration: 14minCYMRY NEWYDD Y CYFNOD CLO - MOHINI GUPTABardd o Delhi Newydd, Mohini Gupta, ddysgodd Cymraeg ar ôl iddi dreulio tri mis yn Aberystwyth yn 2017. Mae hi wedi cyfieithu cân boblogaidd yr Anhrefn a Candelas, Rhedeg i Baris, i Hindi ac mae’n gobeithio cryfhau’r cysylltiad rhwng y ddwy iaith yn y dyfodol. Dyma hi’n esbonio pam dechreuodd hi ddysgu CymraegBardd PoetCymrawd FellowCwympo mewn cariad To fall in love Mwyaf rhyfeddol Most amazingY gynghanedd Welsh metrical alliterationYn gysylltiedig â barddoriaeth Connected to poetryLed-led y wlad Throughout the countryGweithdy WorkshopSylweddoli To realiseCenhadon MissionariesGWNEUD BYWYD YN HAWS – ROB LISLE A DAVID THOMAS Mohini Gupta oedd honna’n sôn am y cysylltiad rhwng y Gymraeg a Hindi. Cafodd Hanna Hopwood gwmni rhai o gystadleuwyr 'Dysgwr y Flwyddyn 2021', i rannu cynghorion am sut i wneud bywyd yn haws wrth ddysgu Cymraeg. Mae Rob Lisle wedi bod yn helpu dysgwyr eraill i ddechrau sgwrsio yn Gy
-
Pigion y Dysgwyr 15fed Hydref 2021
15/10/2021 Duration: 14minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” SIWRNA SIONEDSiwrna Sioned, sef rhaglen arbennig am ferch arbennig o Lanrug ger Caernarfon. Cafodd Sioned Roberts ddiagnosis o’r clefyd Motor Neurone yn 2006. Mae hi am ddefnyddio pob cyfle i rannu ei phrofiadau er mwyn helpu rhai eraill sydd â’r un clefyd. Dyma hi’n sgwrsio gydag Aled Hughes… Clefyd DiseaseYmlaen llaw Before handIesgob! Goodness!Sylweddoli To realiseCryfder StrengthMagwraeth UpbringingYmchwil ResearchTriniaeth iachâd A cureYmwybyddiaeth AwarenessCyfryngau cymdeithasol Social mediaSIOE SADWRN SHELLEY A RHYDIANIe, fel d’wedodd Aled, roedd Sioned yn gryf, yn ddewr ac yn onest yn fan’na wrth drafod ei phrofiadau hi o’r clefyd Motor Neurone. Rhodri Owen oedd gwestai Shelley a Rhydian ar y Sioe Sadwrn a buodd e’n sôn am yr adeg pan aeth i gyfweld Matthew Rhys am y ffilm A Beautiful Day in t
-
Pigion y Dysgwyr 8fed Hydref 2021
08/10/2021 Duration: 16minShwmai... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Wynne Evans dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma, wythnos sy’n rhoi sylw i ddysgu Cymraeg dyn ni’n mynd at raglen … BORE COTHIMae Kayley Sydenham yn dod o Gasnewydd ac mae hi ar ei blwyddyn gynta ym Mhrifysgol Bangor yn astudio’r Gymraeg. Doedd ei rhieni hi ddim yn siarad Cymraeg o gwbl ond penderfynon nhw ei hanfon hi i ysgol Gymraeg. Hi enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd eleni, ac yn mis Medi, hi oedd Bardd y Mis Radio Cymru. Dyma hi’n sgwrsio gyda Shan Cothi am ei chefndir, ac i ddechrau holodd Shan am ei llwyddiant hi yn yr Eisteddfod… Cefndir BackgroundLlwyddiant SuccessRhannu fy ngherddi Sharing my poemsCysur ComfortDi-Gymraeg Non Welsh speakingGwerthfawrogol AppreciativeWythnos y glas Freshers WeekCymdeithasu To socialiseGERAINT LLOYDA phob lwc i Kayley, on’d ife, ym Mhrifysgol Bangor. Aeth Geraint Lloyd draw i Ynys Enlli ym Mhen Llŷn am y tro cynta yn ei fyw
-
Pigion y Dysgwyr 1af Hydref 2021
01/10/2021 Duration: 15minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … COFIOPlentyndod oedd thema Cofio yr wythnos diwetha a chlywon ni am blentyndod Isora Hughes, plentyndod gwahanol iawn gan ei bod wedi cael ei magu gan ei nani. Roedd mam Isora, Leila Megane, yn gantores enwog ac yn teithio’r byd yn perfformio, ond roedd ganddi ffordd arbennig iawn o adael Isora wybod ei bod yn meddwl amdani hi. T Glynne Davies oedd yn ei holi...Gwâdd To invite Yn ddigalon TristAnadlu To breathePeswch A coughWyddoch chi You knowBORE COTHICantores arall sy’n gorfod teithio’r byd yw Rhian Lois a buodd hi’n sgwrsio am synhwyrau gyda Shan Cothi. Dyma hi’n trafod beth yw ei hoff arogl yn y byd, sef arogl Elsi. Ond pwy neu beth yw Elsi?Synhwyrau SensesArogl A smellBant I ffwrddLlanw fy nghalon i Fills my heartCroten Merch fachMam-gu NainGWNEUD BYWYD YN HAWSY gantores Rhian Lois oedd honna yn s
-
Pigion y Dysgwyr 24ain Medi 2021
24/09/2021 Duration: 15minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … RECORDIAU RHYS MWYN…blas ar sgwrs gafodd Rhys Mwyn gyda’r Eidales Francesca Sciarrillo, enillydd fedal y dysgwyr Eisteddfod yr Urdd 2019. Francesca oedd yn lawnsio Siart Amgen 2021 a buodd hi’n sôn am ba mor bwysig oedd artistiaid fel Datblygu, Gruff Rhys a Gwenno iddi hi wrth ddysgu Cymraeg.Amgen AlternativeTelynau HarpsLlinach LinageDylanwadu To influenceBodoli To exist Cantores Female singerAnnwyl AdorableALED HUGHESWel doedd dim eisiau i Francesca boeni dim am ei Chymraeg cyn sgwrsio efo Gwenno nac oedd – mae ei Chymraeg hi’n wych! Dych chi’n hoff o gyfresi trosedd? Mae sawl un ar y teledu y dyddiau hyn on’d oes? Mae cyfres newydd o Silent Witness ar BBC One ar hyn o bryd, ac mae Pembrokeshire Murders wedi cael enwebiad Bafta Cymru. Ond tybed pa mor realistig ydy’r rhaglenni hyn? Dyma farn Nia Bowe
-
Pigion y Dysgwyr 17eg Medi 2021
17/09/2021 Duration: 15minS'mae... Dach chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … BORE COTHI Mae Gruffudd Eifion Owen yn Brifardd, hynny yw rhywun sy wedi ennill un ai’r gadair neu’r goron yn yr Eistedfod Genedlaethol, ond ddim am farddoniaeth oedd e’n sgwrsio gyda Shan Cothi, ond yn hytrach am synhwyrau. Tybed beth yw hoff flas a lliw y bardd o Ben Llŷn?Barddoniaeth PoetryOnd yn hytrach But ratherSynhwyrau SensesOes tad Goodness, yesChwalu To demolishBalm i’r enaid Balm to the soul Ysgubol SweepingCynnil SubtleALED HUGHESY Prifardd Gruffudd Eifion Owen oedd hwnna’n sôn am ei hoff liwiau a’i hoff flasau ar Bore Cothi, ac yn sôn am liwiau anhygoel yr aderyn Coch y Berllan. Wel Coch yr Old Trafford gafodd sylw ym myd chwaraeon dros y penwythnos gyda Ronaldo’n dod yn ôl i Manchester United, ac yn sgorio dwy gôl yn ei gêm gynta. Mae Ronaldo wedi cael dylanwad enfawr ar beldroedwyr eraill, gan gynn
-
Pigion y Dysgwyr 10fed Medi 2021
10/09/2021 Duration: 16minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, a’r wythnos hon dyn ni’n edrych yn ôl ar bythefnos o raglenni Radio Cymru a dechreuwn ni gyda …” SHAN COTHI ....sgwrs rhwng Shan Cothi a Bardd y Mis, mis Awst sef Yr Athro Derec Llwyd Morgan. Gofynnodd Shan iddo fe ddisgrifio ei haf perffaith a dyma i chi Derec yn sôn am hafau ei blentyndod...Yr Athro - ProfesssorLlwyth o atgofion - Loads of memoriesLle maged i - Where I was brought upAmhrofiadol - InexperiencedYmdrochi - BathingCrits - BechgynDwlu ar - Hoff iawn o Yn ei blyg - CrouchingCrwmp ar ei gefn - HunchbackBroydd - AreasTrigo - BywSHAN COTHI (Hann Hopwood) Yr Athro Derec llwyd Morgan oedd hwnna’n sôn am hafau ei blentyndod. Arhoswn ni gyda Bore Cothi nawr ond y tro hwn Hannah Hopwood oedd yn eistedd yn sedd Shan Cothi a chafodd hi sgwrs am adweitheg, neu reflexology, gyda’r Adweithegydd Elin Prydderch
-
Pigion y Dysgwyr 27ain Awst 2021
27/08/2021 Duration: 13minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” DROS GINIO Oeddech chi’n gwybod mai sefyll ar ddarn o blastig a phadlo llynoedd a moroedd Cymru ydy’r peth i’w wneud yn 2021? Padlfyrddio ydy’r gweithgaredd poblogaidd yma ac Elliw Gwawr gafodd sgwrs gyda Carwyn Humphries am hyn ar Dros GinioPadlfyrddio - Paddle boardingBuddsoddi - To investAnsawdd - QualityHyfforddwyr - TrainersGorbryder - AnxietyGweithgaredd corfforol - Physical activityMegis - Such asElfennau diogelwch - Safety elementsTennyn - LeashGohirio - To postponeSIOE FRECWAST Carwyn Humphries oedd hwnna’n sôn am badlfyrddio ar Dros Ginio. Y gantores Elin Parisa Fulardi, sydd hefyd yn perfformio fel El Parisa, oedd gwestai Shelley a Rhydian ar y Sioe Sadwrn dros y penwythnos a dyma hi’n sôn am sut dechreuodd hi berfformio pan oedd hi’n ifanc iawn… Mo’yn - EisiauCerdd dant -
-
Pigion y Dysgwyr 20fed Awst 2021
20/08/2021 Duration: 15minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … COFIO Mae llawer mwy o bobl yn dewis cael gwyliau yng Nghymru eleni a gwyliau oedd them ‘Cofio’ wythnos diwetha. Yn y clip nesa mae T Glynne Davies yn holi Mrs Hannah Jones fuodd yn cadw gwesty yn y Rhyl am dros bedwar deg o flynyddoedd... Rhyfel - WarDogni - RationsGwerthfawrogi - To appreciateEnwogion - CelebratiesDigri - FunnyTynnu wynebau - Pulling facesMaldodi - To pamperPOD DYSGWYR Dipyn o hanes Morecambe and Wise a Tony the Wonder Horse yn aros yn y Rhyl yn fan’na ar Cofio. Mae Nick Yeo, dyn ifanc o Gaerdydd wedi dechrau podlediad o’r enw Sgwrsio ar gyfer y rhai sy’n dysgu – ac sy’n rhugl yn y Gymraeg. Hannah Hopwood, oedd yn cyflwyno Bore Cothi, a hi gafodd “sgwrs” gyda Nick… Creu - To createBodoli - To existAnffurfiol - InformalRhithiol - Virtua
-
Pigion y Dysgwyr 13eg Awst 2021
13/08/2021 Duration: 16minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … CRWYDRO'R CAMBRIA Yn y gyfres newydd, Crwydro’r Cambria, mae Ioan Lord a Dafydd Morris Jones yn mynd â ni ar daith i ganol mynyddoedd y Cambria gan ddechrau yn y clip yma gyda phentref bach Ponterwyd yng Ngheredigion…Cyfres - SeriesArwydd - A signEithriadol - ExceptionalYn ddiweddar - RecentlyCanolbarth Lloegr - The Midlands Gwythïen - VeinHewl (Heol) - FforddPellennig - RemoteTwr o bobl - A crowd of peopleRHYS PATCHELL Cofiwch , tasech chi eisiau clywed pob rhaglen yn y gyfres honno ewch i wefan BBC Sounds. Mae cyflwynydd newydd ar Radio Cymru bob bore Sadwrn – y chwaraewr rygbi rhyngwladol Rhys Patchel, a chwarae teg iddo, roedd atebion da gyda fe i gwestiynau digon anodd gan ddwy ferch fachCyflwynydd - PresenterChwaraewr rygbi rhyngwladol - International rugby playerArbenigedd - ExpertiseDi
-
Pigion y Dysgwyr 6ed Awst 2021
06/08/2021 Duration: 14minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … Gwneud Bywyd Yn Haws Mae llawer ohonon ni wedi gorfod newid ein cynlluniau gwyliau dros cyfnod Covid, ond gwnaeth penderfyniad Carys Mai Hughes i ymestyn ei gwyliau cyn yr ail gyfnod clo newid ei bywyd hi am byth, fel clywon ni ar Gwneud Bywyd Yn Haws…Ymestyn - To extendYr ail gyfnod clo - The second lockdownSa i’n mynd gartref - Dw i ddim yn mynd adreSa i’n beio ti - I don’t blame youSwistir - SwitzerlandBore Cothi Mae teithio o gwmpas Ewrop mewn campervan wedi gwneud bywyd yn dipyn haws i Carys on’d yw e? Shelley Rees oedd yn cyflwyno Bore Cothi ddiwedd wythnos diwetha a chafodd hi gwmni’r actores Rhian Cadwaladr. Actores ie, ond hefyd mae hi’n awdur, yn ffotograffydd ac fel cawn ni glywed yn y clip nesa, mae hi’n dipyn o gogyddes hefyd ac wedi ennill gwobr gan neb llai na Nigella Lawson…Lawrlwytho - To downloadPobyddion