Synopsis
Y darnau gorau o raglenni BBC Radio Cymru gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. BBC Radio Cymru highlights for Welsh learners.
Episodes
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr 30ain o Orffennaf 2021
30/07/2021 Duration: 16minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …LISA ANGHARADDych chi wedi bod ar wyliau y tu allan i Gymru a chlywed pobl yn siarad Cymraeg? Yn ôl cyflwynydd y rhaglen deledu Cynefin, Sion Thomas Owen, mae hyn yn digwydd iddo fe bob tro mae’n mynd i ffwrdd. Fe oedd gwestai Lisa Angharad fore Gwener ar RC2, a dyma i chi ychydig o’r hanesion rannodd e am ei wyliau....Cyflwynydd PresenterMam-gu NainMo’yn EisiauCnoi Brathu Anghyfarwydd UnfamiliarCARYL AC ALUN Sion Thomas Owen oedd hwnna’n sôn am ddod ar draws pobl o Gymru ar ei wyliau. Cyflwynydd newydd Sioe Frecwast Bore Sul ar RC2, Miriain Iwerydd, oedd gwestai arbennig Caryl ac Alun yr wythnos yma. Mae’n debyg bod Mirain yn hoff iawn o fisgedi a dyma hi’n dewis ei hoff rai... Mae’n debyg ApparentlySTIWDIODych chi’n cytuno gyda dewis Mirain? Mae’n rhaid dweud bod y bisged siocled tywyll yn swnio’n
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr 23ain o Orffennaf 2021
23/07/2021 Duration: 14minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” Sioe Frecwast Caryl a Huw Mae Caryl Parry Jones a Huw Stephens yn cyflwyno’r sioe frecwast bob bore ar RC2 – a does dim byd gwell nac oes yna, na dechra’r bore gyda llond trol o chwerthin. A dyna’n union ddigwyddodd wythnos diwetha wrth i’r criw ymarfer eu hacenion Americanaidd… Cyflwyno PresentingLLond troll o chwerthin A barrel load of laughsAcenion AccentsSylwi To noticeAlbanaidd ScotttishBore CothiDa, ond pwy sy’n dweud Kipper Tie y dyddiau hyn tybed? Mae Shan Cothi yn lico ei bwyd! Mae hi’n caru bwyta a siarad am fwyd, a’r wythnos yma cafodd hi gwmni Lisa Fearn ar ei rhaglen i sôn am ‘smwddis’… Daioni GoodnessMaeth NutritionChwalu To shatterLlyfn SmoothAnsawdd TextureCymhleth ComplicatedMwyar BerriesDi-siwgr Sugar freeYsbigoglys SpinachY rhwydda yr hawdda
-
Pigion y Dysgwyr 16eg Gorffennaf 2021
16/07/2021 Duration: 15minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … DROS GINIO Dros yr wythnosau diwetha ar Dros Ginio mae Gwenfair Griffiths wedi bod yn holi rhai o newyddiadurwyr Cymru am eu Stori Fawr nhw... Betsan Powys oedd yn cael ei holi y tro diwetha a buodd hi’n sôn am sut oedd hi’n teimlo fel gohebydd ifanc yn Bosnia yn ystod y rhyfel oedd yno yn y 90au. Gohebydd - CorrespondentRhyfel - WarSbïo - EdrychDarbwyllo - To convinceCyflawni - To achieveY fyddin - The armyAnghyfarwydd - UnfamiliarCydbwyso - BalancingDychrynllyd - TerrifyingErgyd - A shotSTIWDIO Lleisiau Betsan Powys a rhai o’r milwyr fuodd yn ymladd yn Bosnia yn fan’na. Ar Stiwdio nos Lun, cafodd Nia Roberts gwmni’r Athro Menna Elfyn i drafod cyfrol mae Menna newydd ei golygu o’r enw “Cyfrinachau – Eluned Phillips”. Roedd Eluned yn fenyw ddiddorol iawn , roedd hi wedi t
-
Pigion y Dysgwyr 9fed Gorffennaf 2020
09/07/2021 Duration: 13minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” SIOE FRECWAST …Un o gyflwynwyr gorau Cymru, Heledd Cynwa,l oedd gwestai Cocadwdl Caryl Parry Jones a Geraint Hardy yr wythnos ‘ma a dyma hi’n ateb cwestiwn am wyliau tramor…Cyflwynwyr - PresentersPrydfertha - The most beautifulDigon teg - Fair enoughMwya trawiadol - Most strikingTempro - To airO’r cyfryw wely - From the said bedNefoedd - HeavenOglau’n neis - Smelling niceDANIEL GLYN Pawb yn y stiwdio yn fan’na yn hiraethu am wyliau tramor, ond tybed fyddwn ni’n defnyddio arian digidol i dalu am ein gwyliau yn y dyfodol? Dych chi’n deall yn iawn beth yw arian crypto? Na? Doedd Dan Glyn ddim yn gwbod rhyw lawer chwaith, ond yn ffodus roedd ei westai, Euros Evans, yn gwybod y cyfanDylsa fi - Dylwn iPres - ArianFfydd - FaithCynhyrchu - To produceArian parod - Cash
-
Pigion y Dysgwyr 2il Gorffennaf 2021
02/07/2021 Duration: 15minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … GERAINT LLOYD …mae Angharad Jones wedi llwyddo i ddysgu Cymraeg i safon uchel iawn mewn dim ond naw mis. Dyma hi’n dweud wrth Geraint Lloyd pam aeth hi ati i ddysgu’r iaith… Safon - StandardAnghredadwy - UnbelievableYsbrydoliaeth - Inspiration Yn falch - Proud Is-deitlau - SubtitlesCyfnod Allweddol - Key StageDrysau - DoorsDiwylliant - CultureCyfrifol - ResponsibleTrosglwyddo’r iaith - Transferring the languageY genedlaeth nesaf - The next generationCATRIN ANGHARAD Angharad Jones oedd honna, ac mae hi wedi gwneud yn wych i ddysgu Cymraeg mewn cyn lleied o amser on’d yw hi? Mae Catrin Angharad yn ôl ar Radio Cymru ar b’nawniau Sadwrn, ac yn ei rhaglen bydd hi’n rhoi cliwiau i’r gwrandawyr ddyfalu ble mae’r ‘cerddwr cudd’ am fynd am dro. Y tir chliw dydd Sadwrn oedd traeth, Br
-
Pigion Dysgwyr 25ain Mehefin 2021
25/06/2021 Duration: 16minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” CARYL AG ALUN …wel pêl-droed wrth gwrs! Mae Cymru wedi llwyddo i fynd drwodd i rownd nesa’r Ewros ac mae Carl Roberts yn un o’r bobl lwcus sy wedi bod yn Baku ac yn Rhufain yn sylwebu ar gemau Cymru ar ran Radio Cymru. Cafodd Caryl ac Alun sgwrs gyda fe ar y Sioe Frecwast fore Iau… Sylwebu - CommentatingYchwanegu - To add Syth bin - Straight awayYnganu - To pronounceAwrgylch - AtmosphereYn drydanol - ElectricYn y cnawd - In the fleshCymeradwyo - To applauseParchus - RespectfulDi-ri - CountlessLlifoleuadau - FloodlightsMERCHED Y WAL GOCH Dim ond ychydig o ffans Cymru oedd wedi gallu mynd i Baku oherwydd Covid, ond roedd hi dal yn bosib clywed y Wal Goch yn canu drwy gydol y gêm. Mae’r Dr Penny Miles yn un o fenywod y Wal Goch ond dyw hi ddim wastad wedi cael c
-
Pigion y Dysgwyr 18fed Mehefin 2021
18/06/2021 Duration: 15minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” DEWI LLWYD ...pêl-droed wrth gwrs gan fod yr Ewros wedi cychwyn a Chymru wedi dechrau’n dda gyda gêm gyfartal yn erbyn tîm y Swistir. Cyn y gêm honno cafodd Dewi Llwyd air gydag Iwan Roberts cyn i Iwan deithio allan i Baku i weld dwy gêm gynta Cymru...Gêm gyfartal - Drawn gameGohirio - To postponePencampwriaeth - ChampionshipCefnogwyr - FansAwyrgylch - AtmosphereCenfigenus - JealousDw i’n amau dim - I don’t doubtCrynhoi - To summariseYmosodwr - AttackerYn ddyfnach - DeeperSIOE FRECWAST A phob lwc i Gymru yn y gemau nesa on’d ife? Cofiwch mae’n bosib clywed sylwebaeth fyw ar holl gemau Cymru yn yr Ewros ar Radio Cymru. A phêl droed oedd pwnc Ffeithiadur y Sioe Frecwast gyda Caryl, Huw a Hywel Llion fore Llun, a chlywon ni nifer o ffeithiau diddorol iawn am y gêm...Iesgob annwyl! Goo
-
Pigion y Dysgwyr 11fed Mehefin 2021
11/06/2021 Duration: 16minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … BORE COTHI Credwch neu beidio roedd hi’n wythnos dathlu llaeth, neu lefrith, yr wythnos diwetha felly penderfynodd Bore Cothi ofyn i’r cogydd Kit ELlis rannu rhai o’i hoff ryseitiau llaeth – a daeth hi’n amlwg ei bod hi’n ffan mawr o’r stwff gwyn...Yr un fagwraeth - The same upbringingGodro - MilkingCyflawn - CompleteCryfhau - To strengthenTlodi - PovertyBrasder - FatCydbwysedd - BalanceMwy o les - More goodUchafbwynt - HighlightAtgyfodi - To revive TROI'R TIR Mwy o laeth/llefith nawr. Clywodd Troi’r Tir gan ffermwr ifanc o Ynys Môn sydd wedi arallgyfeirio ac yn godro defaid! Beth sy’r tu ôl i’r cynllun hwn tybed? Arallgyfeirio - To diversifyAr fin - About toYsgytlaeth - Milk shakeAddasu - To modifyRhinweddau - VirtuesCynhesu byd eang - Global warmingYn faeth
-
Pigion y Dysgwyr 4ydd Mai 2021
04/06/2021 Duration: 15minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … BETI GEORGE Gwestai Beti George wythnos diwetha oedd y newyddiadurwraig o Gonwy, Maxine Hughes sydd erbyn hyn yn gweithio yn Washington DC. Buodd hi’n byw yn Istanbul pan oedd hi’n gweithio i gwmni Newyddion TRT World ac yn 2016 roedd sawl sefyllfa beryglus wedi codi yn y wlad. Be oedd effaith hynny arni hi tybed? …Profiad - ExperienceHardd - PrettyAnhygoel - IncredibleDarlledwr - BroadcasterYmosod - To attackUffernol - HellishAwyrennau - AeroplanesGWNEUD BYWYD YN HAWS Roedd hi’n amser cyffrous ond peryglus iawn i Maxine a’i theulu yn Istanbul yn 2016 on’d oedd hi? Mae llawer iawn ohonon ni wedi gorfod hunan ynysu am rywfaint yn ystod y flwyddyn diwetha on’do? Ond doedd gan Mari Huws ddim dewis – roedd hi’n byw ar ynys fach Ynys Enlli. Hi ydy warden yr ynys ac mae hi wedi bod yn brysur yn cael rhai o dai Enlli yn
-
Pigion y Dysgwyr 28ain Mai 2021
28/05/2021 Duration: 15minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … BETI A'I PHOBL Merch o Gaerdydd ydy Sara Yassine ond mae ei theulu hi’n dod o’r Aifft yn wreiddiol. Gofynnodd Beti i Sara beth mae Caerdydd yn ei olygu iddi hi Yr Aifft - EgyptGolygu - To meanTrwy gydol fy mywyd - All my lifeHen dad-cu - Great-grandfatherRhyfel Byd Cyntaf - First World WarMorwr - Seaman GWNEUD BYWYD YN HAWS Ychydig o hanes Sara Yassine yn fan’na ar Beti a’i Phobl Mae hi wedi bod yn flwyddyn rhyfedd on’d yw hi? Pwy fasai wedi medru darogan fel roedd rhaid i ni gyd newid ein ffordd o fyw oherwydd Covid? Sut flwyddyn bydd eleni tybed? Dyma i chi glip o Llio Angharad, awdures y blog bwyd a theithio “dine and disco”, yn ceisio darogan beth fydd y 'trends' bwyd ar gyfer gweddill y flwyddyn… Darogan - To predict Dilynwyr - FollowersDy hynt a dy helynt di - All about youAil- greu - To
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr 21ain o Fai 2021
21/05/2021 Duration: 14minClip Bronwen LewisMae’r gantores Bronwen Lewis o Gwm Dulais wedi dod yn dipyn o seren ar Tik Tok. Ond sut digwyddodd hynny tybed? Dyma hi’n dweud yr hanes wrth Shan Cothi..Llwytho To loadBeth bynnag chi mo’yn Whatever you wantCyfieithiadau TranslationsFfili credu Methu coelioSylw AttentionClip Dan Glyn a Meilir SionBronwen Lewis oedd honna’n sôn sut daeth hi’n seren Tik Tok. Yr actor, dyn busnes ac awdur, Meilir Sion, oedd yn ateb cwestiynau diog Daniel Glyn wythnos diwethaf. Os dych chi’n gwylio’r gyfres deledu Rownd a Rownd byddwch yn siŵr o fod wedi gweld Meilir ar yr iard gychod yn chwarae cymeriad Carwyn…. Ond tybed ydy Dan wedi gwneud ei waith ymchwil cyn y cyfweliad? Cyfres SeriesIard gychod Boat yardYmchwil ResearchCyfweliad InterviewBellach By nowY gymdeithas gyfan The whole communityYstrydeb StereotypeClip Priodas Sian BecaSian Beca, un arall sydd yn actio yn Rownd a Rownd d oedd yn westai ar raglen Ffion Emyr nos Wener ond doedd d
-
Pigion y Dysgwyr 14eg Mai 2021
14/05/2021 Duration: 13minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … DDIM YN DDU A GWYN Mae dinas Minneapolis wedi bod yn y newyddion yn y misoedd diwetha gan mai dyna lle cafodd George Floyd ei lofruddio gan Derek Chauvin, oedd yn swyddog heddlu ar y pryd. Buodd y newyddiadurwraig Maxine Hughes yn dilyn yr achos mewn rhaglen arbennig ar Radio Cymru, Ddim yn Ddu a Gwyn. Mae Maxine yn dod o Gonwy yn wreiddiol ond yn byw yn Washington DC erbyn hyn, a dyma hi’n cael sgwrs gyda Gerallt Jones sy’n byw yn Minneapolis... Achos llys - Court hearingLlofruddio - MurderO dan sylw - Under attentionLlinyn amser - TimelineProtestiadau chwyrn - Fierce protestsEuogrwydd - GuiltAnghydraddoldeb hiliol - Racial inequalityCarfan - A faction Mynychu - To attendCyfryngau - MediaTROI’R TIR Dau o Gymry America yn fan’na yn rhoi syniad i ni o fywyd Minneapolis yn di
-
Pigion Dysgwyr 7fed Mai 2021
07/05/2021 Duration: 19minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … BORE COTHI Ar Bore Cothi cafodd Shan sgwrs gyda Menna Michoudis (YNGANIAD – MICH-W-DIS) sydd yn dod o Bontuchaf ger Rhuthun yn wreiddol ond sydd yn byw ar Ynys Skiathos yng Ngwlad Groeg ers dros 15 mlynedd bellach. Mae hi’n briod, mae dau o blant gyda hi ac mae hi’n gweithio mewn swyddfa dwristiaeth gyda’i gŵr. Holodd Shan sut gwrddodd hi a’i gŵr a dyma’r hanes...Gwlad Groeg - GreeceCwrdd â - Cyfarfod efoHogan hurt - Merch dwlPrydferth - BeautifulAndros o hen - Very oldDotio ar - Dwlu arDuwies - GoddessAnhygoel - IncredibleGERAINT LLOYD Hanes Menna o Skiathos yn fan’na ar Bore Cothi. Mae’r Ganolfan Genedlaethol sy’n gyfrifol am Gymraeg i Oedolion wedi gwneud apêl am ragor o diwtoriaid a buodd Geraint Lloyd yn sgwrsio gyda Helen Prosser o’r Ganolfan am hyn ond cafodd e sgwrs yn og
-
Pigion y Dysgwyr 30ain Ebrill 2021
30/04/2021 Duration: 15minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … BORE COTHI Oes gyda chi hoff arogl? Arogl blodau gwyllt falle, neu dân coed neu fara yn cael ei bobi? Dw i’n siŵr basech chi’n cael eich synnu wrth glywed beth yw hoff arogl Donna Edwards, sy’n chwarae rhan Britt yn Pobol y Cwm. Hi oedd gwestai Y SYNHYWRAU Bore Cothi yr wythnos diwetha– a dyma hi’n siarad am ei hoff arogl… Arogl - SmellSynhwyrau - Senses Glöwr - Coal minerMŵg - SmokeTamprwydd - DampnessSicrwydd - CertaintyTad-cu - TaidCysur - ComfortCnoi - To chewGWNEUD BYWYD YN HAWS Falle na fasai llawer yn rhoi aroglau cwrw a sigaret fel eu hoff arogl ond mae’n hawdd deall sut basen nhw’n codi hiraeth ar Donna on’d yw hi? Ar Gwneud Bywyd Yn Haws wythnos diwetha clywon ni Sian Angharad yn sôn wrth Hanna Hopwood Griffiths am ei phrofiadau’n byw gydag 'alopecia areata' ers pan oe
-
Pigion Dysgwyr 23ain Ebrill 2021
23/04/2021 Duration: 15minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … DEI TOMOS Buodd y canwr o Dreforus ger Abertawe, Neil Rosser, yn sôn am un o’i ganeuon enwoca ‘Ochr Treforus o’r Dre’ gyda Dei Tomos a dyma i chi flas ar y sgwrs...Enwoca - Most famousAdlewyrchu - To reflectTraddodiad - TraditionCynefin - Local areaCymeriadau - CharactersHala - To spend (time)Magwraeth - Upbringing Tylwyth - TeuluTyfu lan - Growing upCOFIO Neil Rosser yn fan’na yn sôn am ei gân ‘Ochr Treforus o’r Dre’ . Pen Llŷn oedd pwnc Cofio yr wythnos yma – a buodd John Hardy a Hywel Gwynfryn yn edrych yn ôl ar y cyfnod pan agorwyd Butlins yn ardal Pwllheli. Cafodd Hywel sgwrs gydag un oedd yn cofio’r adeg yn dda ac yn nabod Billy Butlins yn eitha da hefyd... Cyfnod - periodChwedl y bobl ddŵad - According to the visitorsGweithio’n ddiwyd -
-
Pigion y Dysgwyr 16eg Ebrill 2021
16/04/2021 Duration: 16minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … SHAN COTHI Y cerddor Brychan Llyr oedd gwestai Shan Cothi yr wythnos yma ac esboniodd e wrth Shan pam ei fod mor hoff o bobl, o fwyd ac o gerddoriaeth Yr Eidal… Cerddor - MusicianHala - TreulioCyfarwydd - FamiliarAnnwyl - EndearingParchus - RespectableRhufain - RomeCyfle - OpportunityTwr - A crowd Eidalwyr - ItaliansWedi syfrdanu - StunnedRhyfeddu - To marvelSIOE FRECWAST Brychan Llyr oedd hwnna yn sôn am gig arbennig iawn yn yr Eidal. Mae’r rhaglen Cymru, Dad a Fi ar S4C yn un boblogaidd iawn. Mae’r rhaglen yn dilyn Connagh Howard oedd yn un o sêr Love Island a'i dad, Wayne, ar daith drwy ynysoedd Cymru. Dyma nhw’n sgwrsio gyda Caryl a Huw Stephens am eu hymweliad ag Ynys Enlli. Ynys Enlli - Bardsey IslandProfiad - ExperienceBythgofiadwy - UnforgettableCysylltiad hudolus - A ma
-
Pigion Dysgwyr 9fed Ebrill 2021
09/04/2021 Duration: 15minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … DROS FRECWAST Chris Gunter ydy’r chwaraewr cyntaf yn hanes tîm pêl-droed Cymru i ennill cant o gapiau yn dilyn y gêm gyfeillgar rhwng Cymru a Mecsico wythnos diwetha. Mae cyn-golwr Cymru, Owain Fôn Williams, yn arlunydd da ac mae o wedi peintio llun arbennig i Chris i ddathlu’r achlysur. Dyma i chi Owain yn sgwrsio gydag Owain Llyr o adran chwaraeon Radio Cymru ar Dros Frecwast. Arlunydd - ArtistYn y gorffennol - In the pastDigon hawdd - Easy enoughCanfed - HundredthCais - RequestNewydd sbon - Brand newCreu - To createEi ên - His chinSbïo - EdrychCyfnod - a period of timeSIOE SADWRN…a llongyfarchiadau mawr i Chris Gunter am ennill ei ganfed cap yn y gêm rhwng Cymru a Mecsico. Roedd hon yn gêm bwysig i Sioned Dafydd hefyd – y tro cynta iddi hi sylwebu’n fyw ar S4C ar gêm bêl-droed Cymru. Mae Sioned hefyd we
-
Pigion y Dysgwyr 2il Ebrill 2021
02/04/2021 Duration: 14minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … TROI’R TIR Mae Steffan Harri yn actor llwyddiannus sy wedi serenu ar lwyfan y West End mewn sioeau mawr fel Shrek, ond gyda’r theatrau ar gau, penderfynodd Steffan fynd yn ôl i helpu ar y fferm deuluol. Dyma fe’n dweud yr hanes ar Troi TirParhau To continueŴyna LambingDyweddio To engage (to marry)Gwarchod yr ŵyn swcis Looking after the pet lambsBugeilio ShepherdingGwellt HayByrlymus Extremely busyUffernol HellishWlyb sopen Extremely wetColledion LossesSTIWDIO Yr actor Steffan Harri oedd hwnna’n rhoi blas ar fywyd fferm ar yr adeg prysur hwn iddyn nhw. Ac i ni aros myd y theatr, roedd dydd Llun diwetha yn Ddiwrnod Theatr y Byd, ac ar Stiwdio cafodd Nia Roberts sgwrs gyda Melisa Annis, sy’n byw yn Efrog Newydd ac yn gweithio ym myd y theatr yno. Yn y darn yma, mae Melisa’n egl
-
Pigion y Dysgwyr 26ain Mawrth 2021
26/03/2021 Duration: 14minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” NIA ROBERTS - MORFYDD CLARK Mae Morfudd Clark yn Seland Newydd ar hyn o bryd yn ffilmio cyfres newydd o Game of Thrones, a fel soniodd hi wrth Nia Roberts, roedd cael Cymro arall ar y set yn gysur mawr iddi hi… Cyfres - SeriesCysur mawr - A great comfortCwympo mewn cariad - To fall in loveProfiad - ExperienceSylweddoli - To realiseSo ti’n deall - Dwyt ti ddim yn deallALED HUGHES Morfudd Clarke yn cael amser i ymarfer ei Chymraeg tra’n ffilmio Game of Thrones- da on’d ife? Ar raglen Aled Hughes clywon ni sut mae’r môr a syrffio yn arbennig wedi helpu merch ifanc gydag iselder. Dyma i chi flas ar y sgwrs rhwng Aled a Laura Truelove o'r Rhondda …Cyfnod o iselder - A period of depressionNofio gwyllt - Wild swimmingPwerus iawn - Very powerfulCysylltiad - ConnectionAr bwys - Wrth ymylRhyddhau - To re
-
Pigion y Dysgwyr 12fed Mawrth 2021
12/03/2021 Duration: 15minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … TRYSTAN AC EMMA Roedd gan Trystan ac Emma ddiddordeb mawr mewn rhestr oedden nhw wedi ei weld o‘r gemau bwrdd mwya poblogaidd – a Monopoly oedd ar y brig wrth gwrs! Cafodd y ddau sgwrs gyda Dyfed Edwards o gwmni What Board Games i drafod y rhestr ac i ystyried apel gemau bwrdd yn gyffredinolRhestr - List Gemau bwrdd - Board gamesAr y brig - In the top spotYstyried - To considerYn gyffredinol - GenerallyYn amlwg - ObviouslyEnnyn diddordeb - To arouse the interestYmddiddori - To be interested inEhangu meddyliau - To expand the mindsRhyngrwyd - InternetFFION EMYR A dw i’n siŵr bod llawer mwy ohonon ni wedi bod yn chwarae gemau bwrdd yn ystod y cyfnod clo on’d oes? Rhywbeth arall sy wedi bod yn boblogaidd yn ystod y flwyddyn ddiwetha ydy cwisiau. Daeth Cris, cwis feistr rhaglen Geth a Ger i gael